Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog gofal preswyl (dyddiad cau: 23/07/24)

£25,979 to £28,770 pro rata y flwyddyn. 28 awr yng nghartref gofal preswyl Tŷ Waunarlwydd.

Teitl y swydd: Residential Care Officer
Rhif y swydd: SS.2820-V1 
Cyflog: £25,979 to £28,770 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd:  Swyddog Gofal Preswyl (SS.2820-V1) Disgrifiad swydd (PDF) [240KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.2820-V1


Dyddiad cau: 11.59pm, 23 Gorffennaf  2024


Mwy o wybodaeth
 

Ydych chi'n Chwilio am Gyfle Newydd Cyffrous ym maes gofal cymdeithasol?

Edrychwch fan hyn os ydych chi a gofynnwch yr ychydig gwestiynau hyn i chi'ch hun:
Ydych chi'n unigolyn cynnes, cyfeillgar, gofalgar, hael a charedig sydd ag agwedd GALLU GWNEUD? 
Ydych chi'n hoffi bod yng nghwmni pobl ac yn teimlo ymdeimlad o fod wedi cyflawni pan fyddwch chi'n helpu eraill? 
Ydych chi'n byw yn Nhrefansel neu gerllaw, neu a oes gennych chi fodd o deithio i gyrraedd y gwaith?
Ydych chi'n hoffi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill?
Ydych chi eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i'ch cymuned?
Ydych chi'n hoffi dod i adnabod pobl eraill ac yn mwynhau dysgu am eu bywydau a beth sy'n bwysig iddyn nhw?

Ydych chi'n meddwl bod hyn yn swnio fel chi? Darllenwch fwy oherwydd efallai mai dyma'r swydd i chi! 
Mae Cyfle Cyffrous wedi codi i weithio yng Nghartref Gofal St Johns y Nhrefansel, fel Swyddog Gofal Preswyl. Mae'r rôl hon yn cefnogi pobl hŷn sy'n byw ag anghenion gofal a chymorth a dementia sy'n byw yn y cartref neu'n dod i aros am gyfnodau byr.

Diddordeb ac yn ystyried gwneud cais? Gwych!

Dyma sut y byddwn yn eich helpu i wneud gwaith gwych a dyma ychydig o bethau a allai fod o bwys i chi.
Byddwch yn rhan o dîm o Swyddogion Gofal Preswyl, yn staff profiadol a newydd.
Byddwch yn cael cefnogaeth i wneud yr hyfforddiant cywir, gyda'r gefnogaeth gywir ac ennill y ddealltwriaeth, yr wybodaeth a'r sgiliau perthnasol ar gyfer y swydd. 
Byddwch yn cael cyfnod sefydlu trylwyr gyda thâl sy'n cynnwys gweithio ochr yn ochr ag eraill yn y tîm a fydd yn eich helpu i ddysgu am y rôl.
Byddwch yn derbyn goruchwyliaeth ac arweiniad rheolaidd i'ch helpu, gan gynnig cefnogaeth ac anogaeth i chi yn eich rôl newydd. 
Mae manteision eraill yn cynnwys cyfradd cyflog ardderchog gyda thaliadau uwch ar gyfer gweithio gyda'r nos, ar benwythnosau a gwyliau banc, yn ogystal â hawl gwyliau blynyddol ardderchog.
Bydd gennych batrymau sifftiau sydd wedi'u rhannu'n gyfartal ymhlith y tîm a bydd gennych gontract 28 awr.
A yw hyn yn swnio fel rhywbeth a fyddai'n addas i chi? Os felly, mae'n bryd gwneud cais. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y cais.

Ond yn gyntaf...

Gwerthfawrogir eich diddordeb yn y rôl hon yn fawr ac mae croeso i chi gysylltu â Donna Cuke y Rheolwr, a fydd yn rhoi dealltwriaeth dda i chi o'r hyn y mae'r rôl yn ei olygu, drwy e-bost, Donna.cuke@Swansea.gov.uk neu drwy ffôn ar - 01792-872255
        

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Gorffenaf 2024