Gweithiwr Cymdeithasol (dyddiad cau: 24/07/24)
£38,223 - £42,403 y flwyddyn Gradd 9 - Gradd 8(NQ). Ydych chi'n weithiwr cymdeithasol angerddol, â ffocws ar blant, sydd eisiau ymuno â thîm cryf, sefydledig, cefnogol?
Teitl y swydd: Gweithiwr Cymdeithasol
Rhif y swydd: SS.66926-V5
Cyflog: £38,223 - £42,403 y flwyddyn Gradd 9 - Gradd 8(NQ)
Disgrifiad swydd:
Gweithiwr Cymdeithasol (SS.66926-V5) Disgrifiad swydd (PDF)
[269KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.66926-V5
Dyddiad cau: 11.59pm, 24 Gorffennaf 2024
Mwy o wybodaeth
Rydym yn recriwtio ar gyfer Gweithiwr Cymdeithasol parhaol, llawn-amser o fewn ein Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal. Rydym yn dîm mawr o staff medrus proffesiynol cymwysedig ac â chymwysterau eraill sydd i gyd yn rhannu'r un weledigaeth o "Wneud yr hyn sy'n bwysig i'n plant a'n pobl ifanc". Mae creu cysylltiadau diogel a hirhoedlog gyda phlant a phobl ifanc yn hynod bwysig i ni fel tîm. Os credwch fod gennych y sgiliau, yr angerdd a'r cymhelliant i ymuno â'n tîm, cysylltwch â ni.
Rydym yn ymfalchïo fel tîm mewn sicrhau ein bod yn cefnogi ein plant a'n pobl ifanc i ddeall eu taith bywyd a'u cefnogi i gael amser teuluol diogel gyda'r rhai sy'n bwysig iddynt. Rydym yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng 0 ac 16 oed ac mae'n fraint gallu cadw mewn cysylltiad â'u bywydau cyhyd ag y bo modd, gan gynnig y parhad a'r cysondeb hwnnw.
Rydym yn gweithio'n agos gyda'n tîm mewnol Maethu Cymru, Tîm Abertawe, Tîm Teulu a Ffrindiau, Asiantaethau Maethu Annibynnol a darparwyr Preswyl i sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael y gofal gorau ac yn cael y cyfle gorau i ddatblygu eu sgiliau cyn iddynt ddod yn oedolion.
Os ydych chi eisiau ymuno â thîm cefnogol, angerddol yna dyma'r swydd i chi.
I gael sgwrs anffurfiol am bopeth sydd gan Abertawe i'w gynnig, cysylltwch â Shahin Dorward ar 01792 635180 neu ar shahin.dorward@swansea.gov.uk
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol