Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyngor Cymuned Clydach : Cynorthwydd Gweinyddol Rhan Amser (dyddiad cau 31/07/24) (12noon)

Cyflog: £22,737 p.a. pro rata (£11.82/yr awr) SCP3

Oes gennych chi ddiddordeb bod yn rhan o dîm brwdfrydig ac ymroddedig sy'n darparu gwasanaethau llywodraeth leol yn ardal Cyngor Cymuned Clydach? Os felly hoffem glywed gennych.

Mae Clydach yn bentref mawr yng Nghwm Tawe ac mae'r gymuned fywiog a chroesawgar yn rhan o etholaeth Castedd-Nedd a Dwyrain Abertawe. Mae ganddo boblogaeth o 7,500. Mae ward y Cyngor Cymuned yn cynnwys pentref Clydach, Graigfelen, Fardre ac ardal o'r Glais.

Os oes gennych chi amrywiaeth o sgiliau gweinyddol a threfniadol, ac ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau o safon i drigolion lleol a grwpiau diddordeb, yn ogystal â'r gymuned ehangach, cysylltwch â ni. Mae'r swydd wedi'i lleoli yn Swyddfa'r Cyngor yng Nghanolfan Adnoddau Forge Fach, Clydach a gall gynnwys cyfarfod noswaith yn achlysurol. Byddai profiad o waith cynghorau cymuned neu lywodraeth leol o fantais ond nid yw'n hanfodol.

Mae ffurflen gais a disgrifiad swydd ar gael oddi wrth clerk@clydach.wales
Ni fydd CVs ar eu pen eu hunain yn cael eu derbyn. 

Am sgwrs anffurfiol, ffoniwch y Clerc ar 01792 845566.

DYDDIAD CAU: 12 canol dydd, Dydd Mercher 31 Gorffennaf 2024 
CYFWELIADAU: Wythnos yn dechrau 12 Awst 2024 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Gorffenaf 2024