Cynorthwy-ydd/ Domestig Gofal Nos (dyddiad cau: 25/07/24)
£24,294 - £25,119 y flwyddyn pro rata. Swydd Cynorthwyydd Gofal Nos - 10 awr yr wythnos yng Nghartref Gofal Preswyl yr Hollies.
Teitl y swydd: Cynorthwy-ydd/ Domestig Gofal Nos
Rhif y swydd: SS.2411
Cyflog: £24,294 - £25,119 y flwyddyn pro rata
Disgrifiad swydd:
Disgrifiad swydd - Cynorthwyydd-Domestig Gofal Nos SS.2411 (PDF)
[238KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.2411
Dyddiad cau: 11.59pm, 25 Gorffennaf 2024
Mwy o wybodaeth
Edrychwch fan hyn os ydych chi a gofynnwch yr ychydig gwestiynau hyn i chi'ch hun:
- Ydych chi'n unigolyn cynnes, cyfeillgar, gofalgar, hael a charedig sydd ag agwedd GALLU GWNEUD?
- Ydych chi'n hoffi bod yng nghwmni pobl ac yn teimlo ymdeimlad o fod wedi cyflawni pan fyddwch chi'n helpu eraill?
- Ydych chi'n byw ym Mhontarddulais neu'r cyffiniau neu a oes gennych chi fodd/mynediad at drafnidiaeth i gyrraedd y gwaith?
- Ydych chi'n hoffi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill?
- Ydych chi eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i'ch cymuned?
- Ydych chi'n hoffi dod i adnabod pobl eraill ac yn mwynhau dysgu am eu bywydau a beth sy'n bwysig iddyn nhw?
Ydy hyn yn swnio debyg i chi? Darllenwch fwy oherwydd efallai mai dyma'r swydd i chi!
Mae Cyfle Cyffrous wedi codi i weithio o fewn Cartref Gofal Preswyl yr Hollies ym Mhontarddulais fel Cynorthwyydd Gofal Nos - swydd 10 awr.Mae'r rôl hon yn cefnogi pobl sy'n byw gydag anghenion dementia cymhleth, sy'n byw yn y cartref neu'n dod i aros am gyfnod byr. Mae cefnogaeth y tîm nos, dan arweiniad y Swyddog Gofal Nos, yn hollbwysig, yn cael ei werthfawrogi ac mae'n rhan annatod o gefnogaeth effeithiol yr unigolion sy'n aros yn y cartref.
Diddordeb ac yn ystyried gwneud cais? Gwych!
Dyma sut y byddwn yn eich helpu i wneud gwaith gwych a dyma ychydig o bethau a allai fod o bwys i chi.
- Byddwch yn rhan o dîm o Gynorthwywyr Gofal Nos profiadol a newydd.
- Byddwch yn cael cefnogaeth i wneud yr hyfforddiant cywir, gyda'r gefnogaeth gywir ac ennill y ddealltwriaeth, yr wybodaeth a'r sgiliau perthnasol ar gyfer y swydd.
- Byddwch yn cael cyfnod sefydlu trylwyr gyda thâl sy'n cynnwys gweithio ochr yn ochr ag eraill yn y tîm a fydd yn eich helpu i ddysgu am y rôl.
- Byddwch yn derbyn goruchwyliaeth ac arweiniad rheolaidd i'ch helpu, gan gynnig cefnogaeth ac anogaeth i chi yn eich rôl newydd.
- Mae manteision eraill yn cynnwys cyfradd cyflog Ardderchog gyda gwelliannau ynghlwm ar gyfer gweithio gyda'r nos ar benwythnosau a gwyliau banc, yn ogystal â hawl gwyliau blynyddol ardderchog.
- Bydd gennych batrymau sifftiau sydd wedi'u rhannu'n gyfartal ymhlith y tîm a bydd gennych gontract 10 awr.
- A yw hyn yn swnio fel rhywbeth a fyddai'n addas i chi? Os felly, mae'n bryd gwneud cais. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y cais.
Ond yn gyntaf...
Rydym am i chi wybod ein bod yn gwerthfawrogi eich diddordeb yn y rôl hon yn fawr ac mae croeso i chi gysylltu â Helen y Rheolwr, a fydd yn rhoi dealltwriaeth dda i chi o'r hyn y mae'r rôl yn ei olygu, trwy e-bost,
Helen.Davies4@Swansea.gov.uk neu dros y ffôn ar - 01792 882498.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir.