Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Cofrestru Cynorthwyol x 2 (dyddiad cau: 25/07/24)

*Ymgeiswyr mewnol yn unig* £25,979 - £28,770 y flwyddyn (pro-rata). Mae tîm y Gwasanaethau Cofrestru yn dîm prysur sy'n cyflawni'r holl ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â chofrestru genedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil.

Teitl y swydd: Swyddog Cofrestru Cynorthwyol x 2
Rhif y swydd: PL.0212-V1
Cyflog: £25,979 - £28,770 y flwyddyn (pro-rata)
Disgrifiad swydd:  Disgrifiad swydd - Swyddog Cofrestru Cynorthwyol (PL.0212-V1) (PDF) [166KB] 
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.0212-V1

Dyddiad cau: 11.59pm, 25 Gorffennaf 2024 

 

Mwy o wybodaeth

Rydym yn awyddus i recriwtio un Swyddog Cofrestru Cynorthwyol llawn amser (37 awr yr wythnos) ac un rhan-amser (18 awr yr wythnos) i weithio yn y tîm. Mae prif ddyletswyddau'r swydd yn cynnwys cyflawni dyletswyddau gweinyddol perthnasol, darparu gwasanaeth gwybodaeth cynhwysfawr i gwsmeriaid, yn bersonol, dros y ffôn neu drwy e-bost, paratoi copïau ardystiedig o gofnodion hanesyddol a diweddar, dirprwyo ar gyfer Swyddogion Cofrestru wrth gofrestru genedigaethau a marwolaethau, cofrestru priodasau a darparu cymorth gweinyddol yn y gwahanol seremonïau a gynhelir.
 
Mae'r swydd yn cynnwys gweithio yn y swyddfa ac mewn lleoliadau priodas ac eglwysi ac oherwydd natur y gwaith, bydd yn golygu gweithio ar benwythnosau a gwyliau banc ar sail rota. 

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Gorffenaf 2024