Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gynradd Tre Uchaf : Athrawes Meithrin/Derbyn

(closing date: 04/09/24) (9am) Hyd y Contract: Dros dro 0.8 (Dydd Llun - Dydd Iau, dros gyfnod mamolaeth). Cyflog: MPS / UPS pro rata. Dyddiad Cychwyn: Diwedd Medi / Dechrau Hydref 2024

Pennaeth: Mrs L Davies  Cadeirydd y Llywodraethwyr: Mrs R Rees

Teitl y swydd: Athrawes Meithrin/Derbyn

Mae Plant, Staff, a Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Tre Uchaf yn awyddus i benodi person brwdfrydig, ymroddedig a llawn cymhelliant i gymryd lle ein hathrawes bresennol tra bydd hi ar absenoldeb mamolaeth. Bydd rhaid i'r ymgeiswyr ddangos gallu addysgu rhagorol yn ogystal ag ymroddiad i gynnig cwricwlwm cyfoethog a chreadigol sy'n bodloni anghenion dysgu pob un o'n dysgwyr, gan alluogi pawb i gyrraedd eu potensial yn llawn.

Croesawn geisiadau gan athrawon brwdfrydig, llawn cymhelliant, sy'n teimlo y gallant helpu ein hysgol i adeiladu ar ei chryfderau ac i weithio tuag at ragoriaeth o ran darpariaeth, cyflawniad, a chyrhaeddiad.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:

  • yn angerddol dros addysg, gan ymroi'n frwd i alluogi pob dysgwyr i lwyddo mewn addysg, a chan feithrin perthnasoedd rhagorol a deall anghenion disgyblion
  • yn ymarferydd ardderchog yn yr ystafell ddosbarth sydd â dealltwriaeth glir o ddysgu ac addysgu effeithiol yn y blynyddoedd cynnar, ac sy'n gallu ysbrydoli, meithrin, ac arwain disgyblion o bob gallu
  • yn ymwybodol o'r wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio'r Cwricwlwm yng Nghymru ac yn rhagweithiol yn eu dysgu proffesiynol eu hunain, gan gynnwys gweithio â chydweithwyr eraill fel rhan o ddatblygiad proffesiynol er mwyn datblygu eu hymarfer yn barhaus 
  •  yn gallu darparu profiadau dysgu o safon gan ddefnyddio ystod o ddulliau arloesol, a thrwy hynny roi'r cynnig cwricwlwm gorau posibl i ddysgwyr

  • yn meddu ar wybodaeth ragorol am ADY a sut i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol mewn lleoliad prif ffrwd

  • ag agwedd gadarnhaol a brwdfrydig tuag at bob elfen o fywyd yr ysgol.

  • yn gallu sefydlu perthnasoedd rhagorol a gweithio mewn partneriaeth o fewn tîm, gan gynnwys gyda llywodraethwyr, rhieni, a rhanddeiliaid eraill. Croesawn geisiadau gan athrawon brwdfrydig, bywiog a chreadigol sydd ag angerdd dros ddysgu.

O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, bydd angen i bob Gweithiwr Cymorth Dysgu mewn Ysgol gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA).

Bydd deiliad y swydd hon yn cael Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Dylai ymgeiswyr nodi eu diddordebau cwricwlaidd, eu cryfderau, a'r pethau hynny y maent yn llawn brwdfrydedd yn eu cylch.

Dylid llenwi'r ffurflen gais yn llwyr a'i dychwelyd i'r ysgol mewn e-bost i SeagerR@hwbcymru.net neu drwy ei hanfon drwy'r post at sylw'r Pennaeth.

Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc) [120KB]

Dyddiad cau: Dydd Mercher 4 Medi am 9am.
Disgwylir i'r rhai sy'n cyrraedd y rhestr fer gael eu harsylwi yn addysgu yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 9 Medi.
Dyddiad cyfweliad: Dydd Llun 16 Medi

Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy'n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch ac amddiffyniad pob plentyn ac oedolyn agored i niwed, a byddant yn cymryd camau i ddiogelu eu lles, ac maen nhw'n cydnabod bod gan blant ac oedolion agored i niwed hawl i amddiffyniad. Ategir hyn gan ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Gorffenaf 2024