Swyddog Technegol (dyddiad cau: 29/07/24)
£29,777 - £33,024 pro rota y flwyddyn. Swyddog Technegol (rhan-amser 18.5 awr) yn Amgueddfa Abertawe
Teitl y swydd: Swyddog Technegol
Rhif y swydd: PL.0902
Cyflog: £29,777 - £33,024 y flwyddyn pro rota
Disgrifiad swydd:
Swyddog Technegol (PL.0902) Disgrifiad swydd (PDF)
[239KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.0902
Dyddiad cau: 11.59pm, 29 Gorffennaf 2024
Mwy o wybodaeth
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm techengol Amgueddfa Abertawe. Rydym yn awyddus i benodi Swyddog Technegol rhan-amser a all gynnig eu gallu technegol rhagorol a'u brwdfrydedd i'r tîm. Bydd angen i ymgeiswyr fod yn hyblyg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda'r staff arddangos a'r staff casgliadau i baratoi ac i gynnal mannau arddangos. Byddwch hefyd yn cefnogi aelodau'r tîm i roi mynediad at gasgliadau ac i ofalu am gasgliadau. Byddwch hefyd yn gyfrifol am oruchwylio'r tîm technegol o dan arweiniad Rheolwr yr Amgueddfa.
Mae bod yn ddeiliad allweddi a pharatoi asesiadau risg yn rhan hanfodol o'r gwaith.
Swydd ran-amser yw hon (18.5 awr yr wythnos), a byddwch yn gweithio gyda'r nos, ar benwythnosau ac ar wyliau banc, yn ôl anghenion y gwasanaeth.
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm yn adeilad hanesyddol yr Amgueddfa achrededig hon, gan ddefnyddio deunyddiau ac offer priodol i gynnal ei safonau uchel.
Rhoddir hyfforddiant llawn ar gyfer y swydd hon.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol