Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithiwr Cymorth Cartref x 4 (dyddiad cau: 29/07/24)

£25,979 - £28,770 y flwyddyn (pro-rata). Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer pedair swydd rhan amser 18.5 awr, fel Gweithiwr Cymorth Cartref yn y Timau Cefnogi Plant a Theuluoedd yn Abertawe.

Teitl y swydd: Gweithiwr Cymorth Cartref x 4
Rhif y swydd: SS.72991
Cyflog: £25,979 - £28,770 y flwyddyn (pro-rata)
Disgrifiad swydd:  Disgrifiad swydd - Gweithiwr Cymorth Cartref (SS.72991) (PDF) [178KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.72991

Dyddiad cau: 11.59pm, 29 Gorffennaf 2024 

 

Mwy o wybodaeth

Mae'r swyddi hyn yn rhai tymor penodol tan 31 Mawrth 2025. Bydd oriau gwaith ar ôl ysgol dri diwrnod yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener (gall hyn gynnwys codi'r person ifanc o'r ysgol), ac un shifft dros y penwythnos. 

Fel Gweithiwr Cymorth Cartref, rydych chi yno i gefnogi'r person ifanc gyda'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw a'u teulu. Gall hyn gynnwys cefnogi'r teulu gyda thasgau ymarferol lle mae angen cymorth arnynt i ofalu am y plentyn sydd ag anghenion ychwanegol gartref neu gefnogi'r plentyn i gael mynediad i'r gymuned a gweithgareddau fel mynd i'r traeth, parciau, sinema, clybiau cymdeithasol, a chefnogi hobïau fel cerdded, garddio, mynd i'r gampfa a llawer o weithgareddau cymdeithasol eraill. Gall hyn hefyd helpu i roi rhywfaint o seibiant i'r teulu. Efallai y byddwch hefyd yn cefnogi gyda gofal personol y person ifanc, fel ymolchi a gwisgo.

Mae'r rôl yn ymarferol iawn ac yn cefnogi pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau i gael cyfleoedd ychwanegol. Byddwch yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd y person ifanc ac yn eu helpu i gyflawni eu canlyniadau a'u nodau unigol.
Os oes gennych brofiad o weithio gyda phlant a theuluoedd, sgiliau trefnu a chyfathrebu da, yn gallu ymgymryd â hyfforddiant codi a chario, bod gennych eich car eich hun ac wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd er mwyn iddynt fod y gorau y gallant fod, byddem yn falch o glywed gennych.

Am sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â'r Trefnydd Cymorth Cartref Gemma Jackson ar gemma.jackson@swansea.gov.uk     

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir.
 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Gorffenaf 2024