Swyddog Cymorth (dyddiad cau: 29/07/24)
£29,777 - £33,024 y flwyddyn. Os ydych chi'n mwynhau helpu plant a theuluoedd i fod ar eu gorau, mae gan Gyngor Abertawe gyfle a allai fod o ddiddordeb i chi. Rydym yn awyddus i benodi Swyddog Cymorth llawn amser, parhaol i'r Tîm Teulu a Ffrindiau.
Teitl y swydd: Swyddog Cymorth
Rhif y swydd: SS.62688-V1
Cyflog: £29,777 - £33,024 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Disgrifiad swydd - Swyddog Cymorth (SS.62688-V1) (PDF)
[171KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.62688-V1
Dyddiad cau: 11.59pm, 29 Gorffennaf 2024
Mwy o wybodaeth
Byddwch yn rhan o'n tîm Maethu a Gwarcheidwaeth Arbennig arloesol ac ymroddedig sy'n canolbwyntio ar roi cefnogaeth o safon i blant a theuluoedd. Yn y swydd byddwch yn adolygu cynlluniau cymorth Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig (SGO) ac yn rhoi cefnogaeth amrywiol yn unol â'r cynlluniau hynny, gan gynnwys cefnogaeth emosiynol, cyfryngu, cefnogaeth a chyngor ynghylch materion fel rhianta a chyswllt, gwaith uniongyrchol gyda phlant, a darparu gwasanaeth dyletswydd. Byddwch hefyd yn gweithio fel rhan o'r tîm i ddarparu grwpiau cymorth i berthnasau, grwpiau cyfranogiad plant, trefnu gofalwyr sy'n berthnasau a digwyddiadau cyfoedion rheolaidd i blant.
Byddwch yn aelod o dîm staff sefydlog ac ymroddedig sy'n canolbwyntio ar weithio gyda gofalwyr sy'n berthnasau, a hynny er mwyn cadw plant yn ddiogel yn eu huned deuluol lle bynnag y bo modd.
Mae aelodau o'r Tîm Teulu a Ffrindiau wedi dweud wrthym mai'r hyn maen nhw'n ei hoffi fwyaf am weithio o fewn y tîm hwn yw:
- Y cyfle i weithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc
- Y gallu i ddatblygu arbenigedd mewn maes allweddol o fewn Ngwaith Cymdeithasol Plant a Theuluoedd
- Gweld eu gwaith yn arwain at ganlyniadau ardderchog i blant a'u teuluoedd
- Cael cefnogaeth tîm clòs a chefnogol.
- Yr ystod o fuddion a chymorth i staff, gan gynnwys polisi Dim Oriau Craidd sy'n eich annog i weithio oriau hyblyg sy'n bodloni anghenion eich teulu.
Yn ogystal, mae Abertawe yn lle gwych i fyw ac i weithio. Mae'n ddinas flaengar ger y glannau, yng nghanol Rhanbarth Dinas ehangach Bae Abertawe. O olygfeydd anhygoel yr arfordir i barciau tawel, diwylliant sy'n ffynnu a'r gorau oll o fywyd modern yn y ddinas, mae Abertawe yn cynnig rhywbeth i bawb.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir.