Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol yr Esgob Gore : Technegydd Gwyddoniaeth Cefnogi Dysgu

(dyddiad cau: 30/08/24) (3pm) Graddfa Gradd 3 pt 4 £23,114 pro rata. Wythnosau y Flwyddyn: 39 wythnos y flwyddyn. 30 awr yr wythnos Amser, Tymor yn Unig. Oriau'r wythnos 8.00am - 2.30pm - Dydd Llun i Ddydd Gwener Neu 8.00yb - 4yp - Dydd Mawrth i Ddydd Gwener.

Heol De-la-Beche
Sgeti
Abertawe
SA2 9AP

Rhif ffôn: 01792 411400
Ffacs: 01792 411800

Pennaeth: Mrs Helen Burgum
Nifer ar y gofrestr: 1330

Mae'r Llywodraethwyr yn dymuno penodi Uwch Dechnegydd Labordai ymroddgar a brwdfrydig am gyfnod prawf o chwe mis yn unol â pholisi Dinas a Sir Abertawe.  Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau rhifedd a llythrennedd da iawn. Mae profiad o weithio mewn labordai ysgolion yn ddymunol.

Eich prif rôl fydd darparu cymorth yn y labordai yn cynnwys cymhennu, iechyd a diogelwch, cynnal a chadw offer, trefnu adnoddau a goruchwylio'r defnydd ohonynt.  Mae'r rhaid i chi feddu ar agwedd gadarnhaol a bod yn barod i addasu, a meddu ar agwedd hyblyg at waith. Mae'n rhaid i ymgeiswyr allu gweithio dan bwysau a dylent allu gweithio'n fel iawn fel rhan o dîm, gan allu cefnogi a hyrwyddo gwerthoedd craidd yr ysgol.

Mae hon yn rôl bwysig a phrysur iawn i gynorthwyo'r adran wyddoniaeth. Bydd eich rôl yn cynnwys darparu cymorth technegol, sicrhau bod offer y labordai yn gweithio'n iawn ac yn barod i'w ddefnyddio, a bod y deunyddiau priodol ar gael ar gyfer gwersi penodol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod amhrisiadwy o'n tîm rhagorol a athrawon a staff cymorth. Bydd yr Uwch Dechnegydd Labordai yn cydlynu'r defnydd o adnoddau a chyfleusterau ymarferol ac yn darparu cymorth a chyngor i ddiwallu anghenion ymarferon y cwricwlwm Gwyddoniaeth, yn cynnwys ymgysylltu â staff addysgu, technegwyr a staff cymorth y tu allan i'r adran.

Bydd gan ddeilydd y swydd hon ymrwymiad Cymorth Cyntaf. Darperir hyfforddiant.

Mae ffurflenni cais a disgrifiadau swydd ar gael www.eteach.com

Mae Ysgol Esgob Gore yn ysgol gyfun 11-18 boblogaidd a hynod o lwyddiannus.  Yn ei arolwg diweddar (yn unol â'r Fframwaith Arolygu Cyffredin), barnwyd bod ein hysgol yn "Rhagorol", â "rhagolygon rhagorol ar gyfer gwelliant".  Dywedodd yr arolygwyr bod "ansawdd yr addysgu yn un o gryfderau sylweddol yr ysgol, bod arweinyddiaeth yn "eithriadol o dda", a bod disgyblion "yn ymddwyn yn dda, yn ystyriol ac yn gwrtais, ac yn meddu ar agweddau neilltuol o dda at ddysgu".

Mae'r Ysgol Bishop Gore yn ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac yn disgwyl i'r holl staff rannu'r ymroddiad hwn.  Bydd unrhyw gynnig o gyflogaeth yn dibynnu ar gael datgeliad manwl derbyniol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Anfonwch gais ar-lein o www.eteach.com

Y dyddiad cau yw dydd Gwener 30 Awst 2024 at 3p.m. a dylid e-bostio ceisiadau at donajenkins@bishopgore.net

Yng Nghyngor Abertawe, ceir egwyddor "Mae Diogelu yn Fusnes i Bawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.  Mae rhagor o fanylion ar gael yn​​​​​​ https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Gorffenaf 2024