Cynorthwyydd Gweinyddol (dyddiad cau: 29/07/24)
£24,294 - £25,119 y flwyddyn. Mae'r Gwasanaeth Tai yn awyddus i benodi person brwdfrydig a hyderus i roi cymorth i'r Uned Cefnogi Cymdogaethau a'r Timau Gofalu, gan helpu cydweithwyr yn ogystal â'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth.
Translation Required:
Teitl y swydd: Cynorthwyydd Gweinyddol
Rhif y swydd: PL.0536-V1
Cyflog: £24,294 - £25,119 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Cynorthwyydd Gweinyddol (PL.0536-V1) Disgrifiad swydd (PDF)
[251KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.0536-V1
Dyddiad cau:11.59pm, 29 Gorffennaf 2024
Mwy o wybodaeth
Byddwch yn delio'n uniongyrchol â defnyddwyr y gwasanaeth, gan ddefnyddio sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i helpu i fodloni eu hanghenion. Hefyd, byddwch yn cefnogi aelodau o'r Uned Cefnogi Cymdogaethau a'r Timau Gofalu wrth eu gwaith. Bydd hyn yn cynnwys dyletswyddau gweinyddol, cadw cofnodion cywir, a chynnal cronfeydd data yn ôl yr angen. Mae'r swydd wedi'i lleoli yn Swyddfa Tai Ardal Townhill.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol