Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Cytundebau a Darpariaethau ADY (dyddiad cau: 30/07/24)

£33,945 - £37,336 y flwyddyn. Mae'r tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant yn awyddus i benodi unigolyn proffesiynol ymroddedig i'w cefnogi gyda phob agwedd ar gyllid, caffael a chomisiynu o fewn y tîm.

Teitl y swydd: Swyddog Cytundebau a Darpariaethau ADY
Rhif y swydd: ED.69364-V1 
Cyflog: £33,945 - £37,336 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:  Swyddog Cytundebau a Darpariaethau ADY (ED.69364-V1) Disgrifiad swydd (PDF) [241KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd ED.69364-V1

Dyddiad cau: 11.59pm, 30 Gorffennaf 2024

Mwy o wybodaeth

Cyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol ymroddedig sydd â gwybodaeth a phrofiad o gyllidebau awdurdodau lleol, caffael a chomisiynu i ymuno â'r tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant. 

Mae hon yn rôl allweddol o fewn yr adran addysg, gyda chyfrifoldebau yn cynnwys gosod cyllideb a chau cyfrifon, cyllidebau gweithwyr, monitro cyllidebau, rheoli grantiau, prosesu anfonebau, prynu nwyddau a gwasanaethau yn ogystal â chomisiynu gwasanaethau gan ddarparwyr annibynnol.

Mae'r tîm ADY yn dîm prysur iawn a bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio i derfynau amser tynn. Disgwylir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn defnyddio ei fenter ei hun ac yn rheoli ei lwyth gwaith yn unol â hynny. Er bod y swydd yn un annibynnol yn bennaf, mae'n rhan o dîm ehangach o weithwyr proffesiynol gan gynnwys gweithwyr achos, seicolegwyr addysg ac athrawon arbenigol.

Fel yr ymgeisydd delfrydol, byddwch wedi gweithio o fewn amgylchedd cyllid awdurdod lleol a bydd gennych ddealltwriaeth o gyllidebau a chyllid cynghorau ynghyd â dull dadansoddol sy'n canolbwyntio ar ddatrysiad.

Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Fraser Newbury, Uwch Swyddog ADY:  fraser.newbury@swansea.gov.uk

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Gorffenaf 2024