Toglo gwelededd dewislen symudol

Rheolwr Asedau Tai (dyddiad cau: 30/07/24)

£43,421 - £47,420 y flwyddyn. Mae Gwasanaeth Tai Cyngor Abertawe yn awyddus i benodi Rheolwr Asedau Tai newydd ar gyfer y 13,700 o gartrefi sydd yno.

Teitl y swydd: Rheolwr Asedau Tai
Rhif y swydd: PL.67939
Cyflog: £43,421 - £47,420 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:   Rheolwr Asedau Tai (PL.67939) Disgrifiad swydd (PDF) [262KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.67939

Dyddiad cau: 11.59pm, 30 Gorffennaf 2024

Mwy o wybodaeth


Mae Gwasanaeth Tai Cyngor Abertawe yn awyddus i benodi Rheolwr Asedau Tai newydd ar gyfer y 13,700 o gartrefi sydd yno.

Cyngor Abertawe yw un o'r darparwyr tai cymdeithasol mwyaf yng Nghymru, a bydd Rheolwr Asedau Tai'r Cyngor yn cael cyfle i gael effaith fawr ar safonau tai ac ansawdd byw yn yr ardal.

Bydd deiliad y swydd yn rhan ganolog o'r gwaith o ddatblygu cynlluniau hirdymor i gyrraedd targedau uchelgeisiol ac i wella tai cyngor yn Abertawe.  Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn datblygu strategaethau, yn cynhyrchu cynlluniau buddsoddi, yn amserlennu rhaglenni gwella tymor hir a chynlluniau cynnal a chadw cylchol, ac yn cynnal asedau gweithredol a'r amgylchedd ehangach.  
Rheoli Asedau Strategol: Datblygu a rheoli ein dull strategol o reoli asedau, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'n nodau corfforaethol cyffredinol ac â'r gofynion rheoleiddio, yn benodol WHQS 2023 a Diogelwch Tân.

Datblygu a Gweithredu Polisi: Creu a chynnal polisïau a gweithdrefnau rheoli asedau cadarn i sicrhau ansawdd a chydymffurfiaeth.
Gweithredu system TG newydd ar gyfer Rheoli Asedau Tai: Chwarae rôl ganolog wrth weithredu datrysiad rheoli asedau newydd a fydd yn cadw data allweddol am asedau, yn cynorthwyo gyda chynllunio rhaglenni hirdymor, yn cefnogi cynllunio ariannol, ac yn adrodd ar gydymffurfiaeth. 
Yn gyffredinol, yr ymgeisydd lwyddiannus fydd yn arwain yr ymdrechion i sicrhau bod asedau eiddo'n cael eu rheoli'n effeithiol, gan gyd-fynd â disgwyliadau cyfreithiol, rheoleiddiol a busnes er mwyn sicrhau'r effeithlonrwydd mwyaf posibl ac i fodloni disgwyliadau preswylwyr.

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Gorffenaf 2024