Toglo gwelededd dewislen symudol

Gyrrwr/Cynorthwyydd Teithwyr/Tasgmon (dyddiad cau: 30/07/24)

£23,500 - £23,893 y flwyddyn (pro-rata). Mae bod yn Gynorthwyydd Teithwyr ar Gludiant Cleientiaid yn rhan hanfodol o'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol; heb hyn, ni fyddai rhai o'n defnyddwyr gwasanaeth yn gadael eu cartrefi, yn cwrdd â ffrindiau, yn dysgu sgiliau newydd yn ein canolfannau dydd ac yn gallu mwynhau bywyd.

Teitl y swydd: Gyrrwr/Cynorthwyydd Teithwyr/Tasgmon
Rhif y swydd: PL.4906
Cyflog: £23,500 - £23,893 y flwyddyn (pro-rata)
Disgrifiad swydd:  Disgrifiad swydd - Gyrrwr/Cynorthwyydd Teithwyr/Tasgmon (PL.4906) (PDF) [170KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.4906

Dyddiad cau: 11.59pm, 30 Gorffennaf 2024 

 

Mwy o wybodaeth

Mae'r depo Cludiant Cleientiaid yn Fforestfach yn gweithredu tua 60 o gerbydau. Diwrnod nodweddiadol o ran y gwasanaethau fyddai cludo defnyddwyr gwasanaeth, a allai fod yn Oedrannus, ag Anabledd Corfforol neu Anabledd Dysgu, i un o nifer o leoliadau o fewn ffiniau Cyngor Abertawe. Byddai'r lleoliadau hyn yn cynnwys Canolfannau Dydd, Canolfannau Nos, clybiau amrywiol a chanolfannau hyfforddi. Rydym hefyd yn cludo plant i'r ysgol ac oddi yno. Yn ogystal, rydym hefyd yn cludo cleifion allanol i apwyntiadau ysbyty ac oddi yno mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. 

Mae ein fflyd yn cynnwys amrywiaeth o gerbydau sy'n cynnwys ceir a bysiau mini hygyrch o wahanol feintiau. Fel Gyrrwr bydd gofyn i chi feddu ar drwydded yrru lawn gyda chategori D1 (cyfyngiad 101) neu drwydded Cerbydau Cludo Teithwyr (PCV), yn dibynnu ar y cerbydau y byddech yn eu gyrru. 

Bydd gofynion y swydd yn cynnwys cyfrifoldeb am ddiogelwch a chyfforddusrwydd ein defnyddwyr gwasanaeth yn ystod eu taith, am sicrhau bod cadeiriau olwyn a ddefnyddir yn cael eu diogelu'n iawn ynghyd â chynorthwyo teithwyr i fynd ar ein cerbydau ac oddi arnynt. Pan nad ydych yn gyrru bydd dyletswyddau eraill yn cynnwys cynorthwyo i gynnal gweithgareddau a chefnogi gyda gofal mewn canolfannau dydd a chlybiau. 

Mae cludiant yn rhan hanfodol o'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol; hebddo ni fyddai rhai o'n defnyddwyr gwasanaeth yn gadael eu cartrefi, yn cwrdd â ffrindiau, yn dysgu sgiliau newydd yn ein canolfannau dydd ac yn gallu mwynhau bywyd.

Os ydych chi'n chwilio am foddhad yn eich swydd, yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd dymunol, prysur, ac yn chwilio am waith sy'n heriol ac yn werth chweil, yna gallai gweithio o fewn Cludiant Cleientiaid fod yn addas ar eich cyfer chi. Yr oriau gwaith y gallwn eu cynnig fydd o leiaf 30 awr yr wythnos.

Oherwydd gofynion ein gwaith, gall y 30 awr fod ar sail sifftiau a rennir dros 5 diwrnod. 

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir.
 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Gorffenaf 2024