Ceidwad Canol y Ddinas (dyddiad cau: 31/07/24)
£25,979 - £28,770 y flwyddyn. Mae tîm Rheoli Canol Dinas Cyngor Abertawe, ar y cyd ag Ardal Gwella Busnes Abertawe (AGB), yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig, ymarferol a threfnus i fod yn Geidwad Canol y Ddinas, gan ymuno â Gwasanaeth Ceidwaid Canol y Ddinas. Dros dro am 12 mis (yn y lle cyntaf).
Teitl y swydd: Ceidwad Canol y Ddinas
Rhif y swydd: PL.62322
Cyflog: £25,979 - £28,770 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Ceidwad Canol y Ddinas (PL.62322) Disgrifiad swydd (PDF)
[237KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.62322
Dyddiad cau: 11.59pm, 31 Gorffennaf 2024
Mwy o wybodaeth
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yng nghanol dinas brysur Abertawe. Mae trawsnewid Canol y Ddinas yn flaenoriaeth bwysig i'r Cyngor.
Dyma swydd hynod amrywiol a heriol, ond bydd eich prif ddyletswyddau yn cynnwys: darparu cymorth gweithredol ac ymateb i ymholiadau gan breswylwyr ac ymwelwyr; cysylltu â busnesau lleol ac AGB; cynnal patrolau ac archwiliadau ar droed a dosbarthu gwybodaeth; cyflawni dyletswyddau gorfodi perthnasol; adrodd ar broblemau a dilyn be sy'n digwydd yn eu cylch wedyn; cysylltu â phartneriaid perthnasol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, pobl sy'n agored i niwed ar y stryd, a phroblemau eraill; cyflawni tasgau cynnal a chadw bach; hwyluso mynediad a chynorthwyo gyda'r gwaith o reoli cynlluniau gosod eiddo masnachol, digwyddiadau a gweithgareddau eraill ar y stryd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cael cyfle i ennill profiad o ddatblygu a gweithredu prosiectau gweithredol perthnasol sy'n gwneud Canol y Ddinas yn fwy diogel a/neu ddeniadol.
Mae'r Gwasanaeth Ceidwaid yn cael ei redeg ar sail rota sy'n cynnwys gweithio penwythnosau, wedi ei drefnu ymlaen llaw, yn ogystal â gwyliau banc. Mae'r rota hefyd yn adlewyrchu gofynion tymhorol y Nadolig a chyfnodau allweddol eraill, a bydd angen gweithio rhai nosweithiau hefyd.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol