Peiriannydd Mecanyddol (dyddiad cau: 01/08/24)
£38,223 - £42,403 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, hunanysgogol i ymuno â'n Tîm Dylunio a Chynnal a Chadw Mecanyddol fel Peiriannydd Mecanyddol.
Teitl swydd: Peiriannydd Mecanyddol
Rhif Swydd: PL.67286
Cyflog: £38,223 - £42,403 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Peiriannydd Mecanyddol (PL.67286) Disgrifiad swydd (PDF)
[270KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.67286
Dyddiad cau: 11.59pm, 1 Awst 2024
Mwy o wybodaeth
Rydym yn chwilio am aelod hanfodol o'r tîm sy'n ymfalchïo yn ei sefydliad, gan roi sylw i fanylion, dycnwch a phenderfyniad er mwyn ymgymryd â'r rôl amrywiol a diddorol hon. Byddwch yn gweithio gyda nifer o bartneriaid y tu mewn a'r tu allan i'r sefydliad a byddwch yn rhan o dîm cryf gyda phortffolio amrywiol sy'n darparu ystod eang a chyffrous o gynlluniau adeiladu ac adnewyddu o'r newydd yn ogystal â chynnal a chadw ein hadeiladau cyhoeddus, ysgolion, tai a phrosiectau treftadaeth presennol.
Er y byddai gwybodaeth a phrofiad o'r diwydiant adeiladu yn fuddiol, yn bwysicach fyth yw'r parodrwydd i ddysgu a bod yn hyblyg wrth ymateb i ddiwydiant sy'n newid yn gyflym.
Os ydych chi'n teimlo bod gennych chi'r brwdfrydedd a'r awydd i ymgymryd â'r rôl bwysig hon, hoffem glywed gennych. Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, mae croeso i chi gysylltu â Barry Morgan - Rheolwr Dylunio a Chynnal a Chadw Mecanyddol ar 07917 200163.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol