Toglo gwelededd dewislen symudol

Peiriannydd Mecanyddol Cynorthwyol (dyddiad cau: 01/08/24)

£33,945 - £37,336 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, hunanysgogol i ymuno â'n Tîm Dylunio a Chynnal a Chadw Mecanyddol fel Peiriannydd Gwasanaethau Adeiladu Mecanyddol Cynorthwyol.

Teitl swydd: Peiriannydd Mecanyddol Cynorthwyol
Rhif swydd: PL.62543-V2
Cyflog: £33,945 - £37,336 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:  Peiriannydd Mecanyddol Cynorthwyol (PL.62543-V2) Disgrifiad swydd (PDF) [273KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.62543-V2


Dyddiad cau: 11.59pm, 1 Awst 2024


Mwy o wybodaeth

Rydym yn chwilio am aelod hanfodol o'r tîm sy'n ymfalchïo yn ei sefydliad, gan roi sylw i fanylion, dycnwch a phenderfyniad er mwyn ymgymryd â'r rôl amrywiol a diddorol hon.  Byddwch yn gweithio gyda nifer o bartneriaid y tu mewn a'r tu allan i'r sefydliad a byddwch yn rhan o dîm cryf gyda phortffolio amrywiol sy'n darparu ystod eang a chyffrous o gynlluniau adeiladu ac adnewyddu o'r newydd yn ogystal â chynnal a chadw ein hadeiladau cyhoeddus, ysgolion, tai a phrosiectau treftadaeth presennol.

Er y byddai gwybodaeth a phrofiad o'r diwydiant adeiladu yn fuddiol, yn bwysicach fyth yw'r parodrwydd i ddysgu a bod yn hyblyg wrth ymateb i ddiwydiant sy'n newid yn gyflym.

Os ydych chi'n teimlo bod gennych chi'r brwdfrydedd a'r awydd i ymgymryd â'r rôl bwysig hon, hoffem glywed gennych.  Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, mae croeso i chi gysylltu â Barry Morgan - Rheolwr Dylunio a Chynnal a Chadw Mecanyddol ar 07917200163. 

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Gorffenaf 2024