Archifydd Dan Hyfforddiant (dyddiad cau: 02/08/24)
£23,114 y flwyddyn. Mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn awyddus i recriwtio person graddedig ar gyfer lleoliad gwaith dros dro a fydd yn rhoi hyfforddiant a phrofiad iddynt mewn gwaith archif. Bydd cyfnod y contract yn rhedeg o 1 Medi 2024 i 31 Awst 2025.
Teitl y swydd: Archifydd Dan Hyfforddiant
Rhif y swydd: PL.3008
Cyflog: £23,114 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Disgrifiad swydd - Archifydd Dan Hyfforddiant (PL.3008) (PDF)
[166KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.3008
Dyddiad cau: 11.59pm, 2 Awst 2024
Mwy o wybodaeth
Mae'r swydd Archifydd dan Hyfforddiant yn rhoi cyfle i raddedigion sy'n dymuno ymuno â'r proffesiwn ennill profiad o bob agwedd ar waith archifau cyn ymgymryd â hyfforddiant pellach ar un o'r cyrsiau ôl-raddedig cydnabyddedig. Mae cyfnod y contract wedi'i gynllunio i gynorthwyo cyfnod pontio llyfn i un o'r cyrsiau hynny.
Bydd gennych radd mewn pwnc perthnasol a byddwch yn gallu eich ysgogi eich hun, ac yn barod i chwarae rhan mewn tîm bach o staff proffesiynol a pharabroffesiynol. Byddwch wedi'ch lleoli yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe ond bydd gofyn i chi weithio yn ein man gwasanaeth yng Nghastell-nedd ar adegau. Bydd disgwyl i chi gymryd rhan ar lefel briodol o gyfrifoldeb wrth baratoi ar gyfer symud casgliadau'r archif.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Andrew Dulley drwy e-bost yn y lle cyntaf andrew.dulley@swansea.gov.uk
Gwasanaeth ar y cyd i Gynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yw Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir.