Cydlynydd Effeithlonrwydd Ynni (dyddiad cau: 02/08/24)
£38,223 - £42,403 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant gyda'r hyder a'r gallu i yrru'r agenda datgarboneiddio tai ac effeithlonrwydd ynni ymlaen ar gyfer Gwasanaeth Tai'r Cyngor. Cyngor Abertawe yw un o'r darparwyr tai cymdeithasol mwyaf yng Nghymru a bydd y Cydlynydd Effeithlonrwydd Ynni yn cael cyfle i gael effaith fawr ar safonau tai ac ansawdd byw yn yr ardal.
Teitl y swydd: Cydlynydd Effeithlonrwydd Ynni
Rhif y swydd: PL.9402-V3
Cyflog: £38,223 - £42,403 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Disgrifiad swydd - Cydlynydd Effeithlonrwydd Ynni (PL.9402-V3) (PDF)
[187KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.9402-V3
Dyddiad cau: 11.59pm, 2 Awst 2024
Mwy o wybodaeth
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gynllunio dull strategol y Gwasanaeth Tai o wella ynni domestig a chyrraedd targedau datgarboneiddio Llywodraeth Cymru, yn y sector tai cyhoeddus (Cyngor) a'r sector preifat, trwy:
- Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu dull gweithio'r Gwasanaeth Tai ar gyfer cyflawni targedau Llywodraeth Cymru a datgarboneiddio corfforaethol ac effeithlonrwydd ynni a lleihau tlodi tanwydd.
- Sicrhau bod y Cyngor yn mabwysiadu'r arfer gorau ac yn cydymffurfio â'i ddyletswyddau statudol a rheoleiddiol.
- Cydlynu ymchwil a rheoli data, casglu gwybodaeth ac adrodd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion statudol.
- Datblygu partneriaethau strategol er mwyn cael cyllid ar gyfer buddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni yn y stoc dai - ar gyfer tai Cyhoeddus (Cyngor) a'r sector preifat.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Dave Bratley, Rheolwr Cynllunio a Chyflenwi Rhaglenni dave.bratley@swansea.gov.uk
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir.