Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (dyddiad cau: 05/08/24)

£24,294 - £25,119 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy'n gallu ysgogi ei hun yn ei waith, neu ei gwaith, i ymuno â'r adrannau Dylunio Mecanyddol a Thrydanol a Chynnal a Chadw Adeiladau, dros gyfnod mamolaeth o hyd at 12 mis.

Teitl y swydd: Cynorthwy-ydd Gweinyddol
Rhif y swydd: PL.67893
Cyflog: £24,294 - £25,119 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:  Disgrifiad swydd - Cynorthwy-ydd Gweinyddol (PL.67893) (PDF) [180KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

 Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.67893

 

 

Dyddiad cau: 11.59pm, 5 Awst 2024 

 

Mwy o wybodaeth

Rydym yn chwilio am berson i weithio swydd amrywiol a diddorol fel rhan allweddol o'r tîm; dylent fod yn hynod drefnus, yn benderfynol, yn gallu dangos dycnwch ac yn dda am roi sylw i'r manylion. Byddwch yn gweithio gyda nifer o bartneriaid o fewn a thu allan i'r sefydliad ac yn rhan o dîm cryf â phortffolio amrywiol sy'n darparu ystod eang a chyffrous o gynlluniau ar gyfer adeiladau newydd a gwaith adnewyddu yn ogystal â chynnal a chadw ein hadeiladau cyhoeddus, ysgolion, tai, a'n prosiectau treftadaeth presennol. 

Er y byddai gwybodaeth a phrofiad o'r diwydiant adeiladu yn fuddiol, mae'r parodrwydd i ddysgu a bod yn hyblyg wrth ymateb i ddiwydiant sy'n newid yn gyflym yn bwysicach. 

Os ydych chi'n teimlo bod gennych chi'r brwdfrydedd a'r awydd i ymgymryd â'r rôl bwysig hon, hoffem glywed gennych.  

Os hoffech ragor o wybodaeth neu sgwrs, cysylltwch â Barry Morgan - Rheolwr Dylunio a Chynnal a Chadw Mecanyddol - trwy ffonio 07917200163.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwyni
 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Gorffenaf 2024