Toglo gwelededd dewislen symudol

Peiriannydd Trydanol Cynorthwyol (dyddiad cau: 05/08/24)

£33,945 - £37,336 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy'n gallu ysgogi ei hun yn ei waith, neu ei gwaith, i ymuno â'n Tîm Dylunio a Chynnal a Chadw Trydanol fel Peiriannydd Gwasanaethau Adeiladu Trydanol Cynorthwyol.

Teitl y swydd: Peiriannydd Trydanol Cynorthwyol
Rhif y swydd: PL.0270-V4
Cyflog: £33,945 - £37,336 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:  Disgrifiad swydd - Peiriannydd Trydanol Cynorthwyol (PL.0270-V4) (PDF) [169KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.0270-V4

Dyddiad cau: 11.59pm, 5 Awst 2024 

 

Mwy o wybodaeth

Rydym yn chwilio am berson i weithio swydd amrywiol a diddorol fel rhan allweddol o'r tîm; dylent fod yn hynod drefnus, yn benderfynol, yn gallu dangos dycnwch, ac yn dda am roi sylw i'r manylion. Byddwch yn gweithio gyda nifer o bartneriaid o fewn a thu allan i'r sefydliad ac yn rhan o dîm cryf â phortffolio amrywiol sy'n darparu ystod eang a chyffrous o gynlluniau ar gyfer adeiladau newydd a gwaith adnewyddu yn ogystal â chynnal a chadw ein hadeiladau cyhoeddus, ysgolion, tai, a'n prosiectau treftadaeth presennol. 

Er y byddai gwybodaeth a phrofiad o'r diwydiant adeiladu yn fuddiol, mae'r parodrwydd i ddysgu a bod yn hyblyg wrth ymateb i ddiwydiant sy'n newid yn gyflym yn bwysicach. 

Os ydych chi'n teimlo bod gennych chi'r brwdfrydedd a'r awydd i ymgymryd â'r rôl bwysig hon, hoffem glywed gennych. Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, mae croeso i chi gysylltu â Paul Johns - Rheolwr Dylunio a Chynnal a Chadw Trydanol ar 07342 064419.   

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Gorffenaf 2024