Prif Gyfrifydd - Prydlesu a Chyfalaf (dyddiad cau: 06-08-2024)
Cyflog £43,421 - £47,420 y flwyddyn. Mae Cyngor Abertawe yn awyddus i recriwtio Prif Gyfrifydd i arwain yn y lle cyntaf ar weithredu safon cyfrifyddu newydd IFRS16 Leases yn ogystal â darparu cyngor ar feysydd cyfrifyddu cyfalaf technegol eraill.
Teitl swydd: PPrif Gyfrifydd - Prydlesu a Chyfalaf
Rhif Swydd: FN.73471
Cyflog: £43,421 - £47,420
Disgrifiad swydd:
Prif Gyfrifydd – Prydlesu a Chyfalaf (FN.73471) Disgrifiad swydd (PDF)
[272KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Cyllid
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd FN.73471
Dyddiad cau: 11.59pm, 06 Awst 2024
Mwy o wybodaeth
Gwahoddir ceisiadau gan Gyfrifydd CCAB cymwys arloesol a rhagweithiol i arwain ar weithredu safon cyfrifyddu IFRS16 Leases.
Byddai ceisiadau'n cael eu hystyried gan gymwysterau newydd a'r rhai sy'n aros am ganlyniadau terfynol, fodd bynnag, rhaid i chi allu dangos profiad a/neu wybodaeth o gyfrifeg dechnegol Awdurdod Lleol yn benodol mewn perthynas â chyfrifeg gyfalaf a Phrydlesi IFRS16.
Ar ôl ei weithredu, bydd gofyn i chi ddarparu cyngor a chymorth ariannol a chyfrifyddol cyfalaf a phrydlesu ar draws y Cyngor.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol