Swyddog Cwynion Cynorthwyol (dyddiad cau: 07/08/24)
Cyflog £25,979 - £28,770 y flwyddyn. Ydych chi am roi cynnig ar rôl newydd a chwrdd â her newydd? Beth am ystyried ymuno â ni fel Swyddog Cwynion Cynorthwyol? *Ymgeiswyr mewnol yn unig*
Teitl y swydd: Swyddog Cwynion Cynorthwyol
Rhif y swydd: CS.65418
Cyflog: £25,979 - £28,770 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Swyddog Cwynion Cynorthwyol (CS.65418) Disgrifiad swydd (PDF)
[259KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaeth Corfforaethol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd CS.65418
Dyddiad cau: 11.59pm, 7 Awst 2024
Mwy o wybodaeth
Gweithio o fewn ein Hadran Cyswllt Cwsmeriaid i sicrhau yr ymchwilir cwynion ac ymholiadau ac yr ymatebir iddynt o fewn amserlenni a osodwyd yn genedlaethol ac yn lleol. Cefnogi uwch aelodau o staff i alluogi ymchwiliadau ac ymatebion amserol o ansawdd uchel ar ran y Prif Swyddog Gweithredol. Darparu arweiniad o ddydd i ddydd i'r holl staff sy'n ymwneud ag ymdrin â chwynion ac ymchwiliadau o fewn yr Awdurdod.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd rôl y swydd yn cynnwys:
- Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pobl sy'n dymuno cofrestru neu drafod canmoliaeth, sylwadau a chwynion. Gall hyn fod dros y ffôn, e-bost neu weithiau wyneb i wyneb.
- Adolygu digwyddiadau a chwynion a dderbyniwyd a'u huwchgyfeirio yn briodol lle bo angen.
- Cadw cofnodion electronig ar gyfer cwynion a chanmoliaeth.
- Sicrhau bod ymatebion ysgrifenedig i gwynion ac atebion dros y ffôn lle bo'n briodol yn unol â disgwyliadau rheoleiddio a'n polisi mewnol ar ymdrin â Chwynion.
- Cefnogi cwblhau adroddiadau ar gyfer rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
- Cynnal cofnodion digidol cywir a chyfredol yn unol â GDPR
- Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyddysg mewn Microsoft Word, Excel ac Outlook ac yn gallu cynhyrchu dogfennau, llythyrau, adroddiadau a gohebiaeth e-bost wedi'u teipio'n gywir.
- Mae profiad blaenorol o fewn amgylchedd awdurdod lleol a gwybodaeth am weithdrefnau Cwynion yn ddymunol.
- Byddai'r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol.
Mae'r rôl yn cynnwys gweithio hybrid, fel arfer yn y Ganolfan Ddinesig neu weithio o gartref. Mae gwasanaeth rhyngrwyd cartref da yn hanfodol.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol