Ymgynghorydd Tai Rhenti (dyddiad cau: 07/08/24)
Cyflog £24,294 - £25,119 y flwyddyn pro rata. 18.5 awr. Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Gwasanaeth Tai i weithio fel Ymgynghorydd Tai mewn Tîm Rhenti prysur. Mae hon yn rôl sy'n ymdrin â chwsmeriaid wyneb yn wyneb ac yn cynnwys cefnogi a chynghori tenantiaid mewn perthynas â'u cyfrifon rhent.
Teitl y swydd: Ymgynghorydd Tai - Rhenti
Rhif y swydd: PL.61071-V2
Cyflog: £24,294 - £25,119 y flwyddyn pro rata
Job description:
Ymgynghorydd Tai – Rhenti (PL61071-V2) Swydd-ddisgrifiad (PDF)
[246KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL61071-V2
Dyddiad cau: 11.59pm, 7 Awst 2024
Mwy o wybodaeth
Rydym yn chwilio am aelod tîm sy'n gallu cymell ei hun, sy'n ymroddedig ac yn ddibynadwy i weithio mewn tîm prysur. Mae'r swydd Ymgynghorydd Rhenti yn rôl heriol lle bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda Swyddogion y Tîm Rhenti i gynghori a chefnogi tenantiaid mewn perthynas â rheoli eu cyfrifon rhent.
Mae elfen o'r rôl yn cynnwys cymryd taliadau dros y ffôn, gwneir hyn ar sail rota. Rydym yn chwilio am rywun a fydd yn dangos empathi tuag at amgylchiadau unigol cwsmeriaid ac yn cydbwyso hyn â'r angen i helpu i gadw ôl-ddyledion rhent i isafswm ac adennill ôl-ddyledion rhent. Bydd angen sgiliau TG a gweinyddol rhagorol arnoch, y gallu i weithio'n hyderus o fewn gweithdrefnau a chanllawiau, y gallu i gadw cofnodion cywir sydd wedi eu hysgrifennu'n broffesiynol a bod yn hyblyg yn eich dull o weithio
Mae'n hanfodol bod gennych drwydded yrru gyfredol a'ch cludiant eich hun.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol