Labrwr/Gyrrwr (dyddiad cau: 08/08/24)
Cyflog £23,114 y flwyddyn. Mae isadran Tenantiaethau â Dodrefn y Gwasanaeth Tai yn awyddus i benodi unigolyn cryf ei gymhelliant i yrru cerbyd ac i ddanfon dodrefn i gartrefi cyngor ledled Abertawe. Dyma swydd brysur sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
Teitl y swydd: Labrwr/Gyrrwr
Rhif y swydd: PL.64928
Cyflog: £23,114 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Labrwr / Gyrrwr (PL.64928 ) Swydd-ddisgrifiad (PDF)
[235KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.64928
Dyddiad cau: 11.59pm, 8 Awst 2024
Mwy o wybodaeth
Dylech allu dangos hyblygrwydd a menter a gweithio'n dda fel rhan o dîm. Byddwch allan bob dydd yn casglu dodrefn ac yn eu danfon i gartrefi tenantiaid newydd.
Bydd arnoch angen trwydded cerbyd 7.5 tunnell a thrwydded Driver CPC, a bydd gofyn i chi fod yn hyderus wrth yrru cerbyd o'r maint hwn.
Dylech allu dangos dealltwriaeth dda o iechyd a diogelwch, a bydd angen codi a chario dodrefn ac offer trwm gyda chymorth offer codi..
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol