Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ioga (ar-lein fideos wedi'u recordio ymlaen llaw) [Dydd Llun 12.00pm-1.00pm] EN042570CJ

Dydd Llun 28 Ebrill 2025
Argaeledd sydd ar ôl: 44
Cadw lle mewn digwyddiad
Amser dechrau 12:00
12:30
Pris Am ddim
Online / blended - Google Classroom

Hyd - 10 wythnos


Mae'r cwrs hwn yn addas i bawb, gan gynnwys y rheini sydd erioed wedi cymryd rhan mewn dosbarth ioga o'r blaen. Caiff yr holl ystumiau a symudiadau eu hesbonio a'u harddangos yn y dosbarth. Gellir addasu'r rhan fwyaf o ystumiau ioga i fod yn addas ar gyfer eich anghenion penodol.

Bydd elfennau'r cwrs yn cynnwys:

  • Symud a gweithio'r corff o'r corun i'r sawdl, gan dargedu pob cymal a grŵp cyhyr mawr.
  • Ymestyn yn araf ac yn rheolaidd, gan ddilyn ystumiau symud a sefydlog, i wella hyblygrwydd.
  • Cryfhau'r corff yn yr ystumiau symud a sefydlog.
  • Cydbwyso ar ddwy droed ac ar un droed, gan ddefnyddio'r wal i'ch cefnogi yn ôl yr angen.
  • Anadlu'n araf ac yn ddwfn drwy gydol y dosbarth.
  • Ymlacio'r corff a chymryd rhan mewn sesiwn fyfyrdod ferf ar ddiwedd y rhan fwyaf o ddosbarthiadau er mwyn clirio a thawelu'r meddwl

Bydd y cwrs yma'n cynnwys:

  • Technegau a addysgir gan ddefnyddio fideos wedi'u recordio ymlaen llaw. Gwylio, dilyn a gwylio eto.
  • Trwy Google Classroom, bydd myfyrwyr yn gallu rhannu a thrafod eu cynnydd eu hunain.

Mae'r sesiynau gallu cymysg hyn yn addas ar gyfer pob lefel. Bydd angen mat arnoch i gael cysur a rhywfaint o ddŵr i gadw'n hydradol. Ar gyfer y sesiynau gwisgwch ddillad nad yw'n cyfyngu ar symud.
 

Nodwch: os mai hwn yw'r tro cyntaf i chi roi cynnig ar ioga, neu os ydych wedi cael llawdriniaeth neu wedi datblygu cyflwr iechyd ers i chi ymarfer ddiwethaf, efallai yr hoffech wirio gyda'ch meddyg cyn dechrau.

Addysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.

Fformat dysgu: ar-lein

Côd y cwrs: EN042570CJ

Amserau eraill ar Dydd Llun 28 Ebrill

Dim enghreifftiau o hyn

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu