Ysgrifennu Creadigol [Dydd Gwener 10.30am-12.00pm] ES042569CJ
Gyda Carolyn Jones - Archwilio'ch Llais Unigryw! Dewch i fwynhau ysgrifennu a rhannu'ch ysgrifennu o fewn amgylchedd grŵp cadarnhaol a chefnogol.
Mae'r dosbarthiadau hyn wedi'u dylunio i'ch cefnogi a'ch annog i ymarfer ysgrifennu mewn sawl genre, gan gynnwys straeon, barddoniaeth, atgofion, straeon teuluol, ffuglen - chi sy'n penderfynu sut i ddefnyddio pob pwnc neu ddull ysgrifennu er mwyn creu darn o ysgrifennu sy'n arwyddocaol i chi.
Hyd - 10 wythnos
Bydd elfennau'r gweithdy hwn yn cynnwys:
- Ysgrifennu ym mhob dosbarth.
- Darllen enghreifftiau o amrywiaeth o fathau o ysgrifennu.
- Trafod a rhannu syniadau am ysgrifennu.
- Mwynhau'r cyfle hwn i archwilio darllen ac ysgrifennu am bynciau gwahanol.
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Dysgu wyneb yn wyneb
- Taflenni sy'n cynnwys gwaith ysgrifennu gan ffynonellau cyhoeddedig fel enghreifftiau o genres, arddulliau a phynciau penodol.
Yr hyn fydd ei angen arnoch chi:
Rhywbeth i ysgrifennu arno, rhywbeth i ysgrifennu ag ef, a mwg ar gyfer ein egwyl de. Darparir te a choffi gan Dysgu Gydol Oes.
Fformat dysgu: wyneb-yn-wyneb
Côd y cwrs: ES042569CJ