Toglo gwelededd dewislen symudol

Atodiad A - Ysgolion y mae'r cynnig hwn yn effeithio arnynt: Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt

Adran 1: Newid/datblygiad STF arfaethedig

Adran 2: Data cyd-destunol yr ysgol

Adran 3: Gwerthusiad o'r trefniadau presennol

Adran 4: Effaith ar ddisgyblion

Adran 5: Effaith ar staffio

Adran 6: Effaith ar gyllideb a chapasiti'r ysgol

Adran 7: Heriau, mesurau lliniaru a manteision

Adran 8: Manylebau STF

Adran 9: Hysbysiad Statudol

Adran 10: Dyddiad gweithredu arfaethedig

 

Adran 1: Newid/datblygiad STF arfaethedig 

Y cynnig yn yr ysgol hon yw ail-ddynodi STF 'Anawsterau Iaith a Lleferydd' yn STF 'Cyfathrebu Cymdeithasol gydag Anawsterau Iaith a Lleferydd'.  

Adran 2: Data cyd-destunol yr ysgol

Data cyd-destunol yr ysgol
Lleoliad yr ysgolHeol Llandeilo Ferwallt, Llandeilo Ferwallt
SirAbertawe
Ystod oedran3-11
Categori ysgolYsgol Gynradd Gymunedol
Cyfrwng IaithSaesneg
Capasiti (ac eithrio'r Meithrin a'r STF)260
Lleoedd STF a Gynlluniwyd18
Cost fesul disgybl 24-25£3,720
Cyllideb yr ysgol 24-25£1,352,685
Adroddiad diweddaraf Estyn09/01/2022 https://www.estyn.gov.wales/provider/6702105 
Categoreiddiad Cyflwr yr AdeiladauB
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Meithrin39
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Cynradd256
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Cyfanswm295

 

Cyfanswm y disgyblion ar y gofrestr yn ystod y 5 mlynedd diwethaf (data PLASC
Ionawr 2019278
Ionawr 2020264
Ionawr 2021265
Ionawr 2022276
Ionawr 2023300
Ionawr 2024295

 

Rhagfynegiadau Disgyblion
Ionawr 2025273
Ionawr 2026260
Ionawr 2027249
Ionawr 2028238
Ionawr 2029234

Adran 3: Gwerthusiad o'r trefniadau presennol

Ansawdd a Safonau mewn Addysg  

Mae arweinwyr ysgolion yn ymwybodol o bwysigrwydd dilyniant y cwricwlwm ac yn teimlo'n gryf mai datblygu sgiliau yw'r elfen allweddol i sicrhau hyn. Mae staff wedi cymryd rhan mewn trafodaethau trylwyr, gan gynnwys cyfarfodydd cyfnod i sicrhau bod dull blaengar fel bod sgiliau'n ddatblygiadol, ac nad yw syniadau'n cael eu hailadrodd. O ganlyniad, mae gweithgareddau monitro'r ysgol, megis book looks, yn canolbwyntio ar sicrhau bod tystiolaeth o gynnydd ar draws yr ysgol. 

Dywed arweinwyr ysgolion fod y dull addysgeg carwsél o ddarparu'r cwricwlwm yn helpu i hyrwyddo dysgu annibynnol ar ran y disgyblion a chysondeb o ran safonau gwaith. 

Mae dysgwyr yn gadarnhaol am y defnydd o asesu cyfoedion; maent yn dweud eu bod yn teimlo y gall eu helpu hwy neu eraill i wella eu gwaith. Maent hefyd yn gallu pwysleisio pwysigrwydd gwneud camgymeriadau, gan adfyfyrio'n feddylgar mai dyma ble rydych chi'n dysgu orau ac y dylech chi bob amser gael meddylfryd twf i barhau i ddal ati.

Mae gan yr ysgol gysylltiadau cryf ac mae'n ymwneud yn effeithiol â'i chlwstwr, gan gynnwys yr ysgol gyfun leol. Mae hyn yn rhywbeth y mae arweinwyr yr ysgol wedi gweithio'n galed i'w gefnogi ers peth amser yn yr ysbryd o rannu arfer da. O ganlyniad, mae'r cwricwlwm wedi'i gydlynu ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad (AoLEs) y clwstwr. 

Mae gan arweinwyr ysgolion syniad clir o ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ac iaith gyffredin o gynnydd gyda'r clwstwr (egino, datblygu, diogel). Maent wedi defnyddio hwn i greu dogfen dilyniant disgwyliedig i'w cynorthwyo i fesur cynnydd plant yn unol â chynllunio cyfleoedd dysgu i ddiwallu anghenion amrywiol. Mae mapiau cynnydd defnyddiol bellach wedi'u sefydlu ar gyfer Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu (LLC), (llafaredd, darllen, ysgrifennu), Mathemateg, TGCh a Chymraeg i gyd-fynd â'r ddogfen hon. 

Mae arweinwyr ysgolion yn parhau i gymryd rhan mewn trafodaethau clwstwr ynghylch y ddealltwriaeth o ddilyniant er mwyn cefnogi'r gyd-ddealltwriaeth honno a'r cyfle i safoni.

Mae athrawon yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd dilyniant tymhorol defnyddiol ar gyfer disgyblion gydag uwch arweinwyr i nodi cryfderau a meysydd i'w datblygu i'w disgyblion. Mae'r cyfarfodydd hyn yn cynnwys ffocws ar gynnydd mewn llesiant, llythrennedd, rhifedd, technoleg, a blaenoriaethau sy'n benodol i ysgolion ar gyfer y tymor, er enghraifft effaith gweithredu ymddygiadau darllen, yn ogystal â chanlyniadau profion cenedlaethol. O ganlyniad i'r gwerthusiad hwn, mae athrawon ac uwch arweinwyr yn cydweithio i gynllunio i fynd i'r afael â'r camau datblygu nesaf yn effeithiol. 

Mae'r ysgol yn gwneud defnydd da o asesiadau wedi'u safoni mewn darllen, sillafu, a rhifedd i helpu i olrhain cynnydd. 

Profiadau Dysgu ac Addysgu

Does dim disgwyl i'r cynnig gael unrhyw effaith negyddol ar brofiadau addysgu a dysgu yn yr ysgol. Trefnir cyfleusterau addysgu arbenigol i ddarparu ystod o raglenni addysgu unigol i gefnogi cynnydd dysgwyr. Bydd llawer o'r dysgwyr yn profi ystod o anawsterau cysylltiedig megis oedi o ran llythrennedd a rhifedd, iaith lleferydd a chyfathrebu, rheoleiddio synhwyraidd ac emosiynol. Mae'r ysgol yn sicrhau bod gan staff a gyflogir yn y lleoliad sgiliau a phrofiad priodol i gefnogi dysgwyr orau. Mae'r lleoliadau'n darparu dysgu dosbarth bach wedi'i deilwra ar gyfer anghenion dysgu'r disgyblion, gan gynnwys ymyriadau i gefnogi llythrennedd a rhifedd, iaith lleferydd a chyfathrebu. Byddai'r cyfle i gyflogi staff arbenigol a gweithio'n agosach gyda gwasanaethau arbenigol yn Abertawe yn gwella capasiti'r ysgol ar gyfer cynhwysiant ac o fudd i bob disgybl yn yr ysgol.

Arolygodd Estyn yr ysgol ym mis Hydref 2019 a chanfod y canlynol:

Mae'r ysgol yn gymuned hapus a chynhwysol iawn, sy'n meithrin ac sy'n dathlu llwyddiannau'r disgyblion. Mae bron pob disgybl yn ymddwyn yn dda ac yn gyfeillgar ac yn gwrtais iawn. Maent yn canolbwyntio'n dda mewn gwersi ac yn ddysgwyr brwdfrydig. Mae'r disgyblion yn mwynhau dod i'r ysgol ac yn teimlo bod y staff yn rhoi cymorth buddiol iddyn nhw. Mae disgyblion yn gwneud cynnydd pwrpasol o'u mannau cychwyn, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion addysgol arbennig a'r rhai yn y cyfleuster addysgu arbenigol. Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu eu sgiliau mewn llythrennedd a rhifedd yn dda. Mae athrawon yn meithrin perthynas waith gref â disgyblion ac yn rhoi gweithgareddau diddorol iddynt i'w cyflawni. Mae arweinyddiaeth effeithiol y pennaeth yn gosod cyfeiriad clir i'r ysgol. Mae aelodau staff yn cydweithio'n dda, ac mae hyn yn sicrhau bod darpariaeth yr ysgol yn cael effaith gadarnhaol ar gynnydd a llesiant disgyblion. Mae gan y corff llywodraethu ddealltwriaeth drylwyr o berfformiad yr ysgol ac mae hyn yn ei galluogi i herio'r ysgol yn llwyddiannus.

Arolygodd Estyn
Maes arolyguDyfarniad
SafonauDa
Llesiant ac agweddau tuag at ddysguDa
Profiadau dysgu ac addysguDa
Gofal, cymorth ac arweiniadDa
Arweinyddiaeth a rheolaeth ddaDa

Gofal, cymorth ac arweiniad

Mae gan bob ysgol ystod briodol o bolisïau a darpariaeth ar waith i hyrwyddo iechyd a llesiant disgyblion.  Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd lle mae dysgu'n cael ei werthfawrogi ac mae disgyblion yn cyflawni eu potensial mewn amgylchedd hapus a diogel lle maen nhw'n dangos parch a goddefgarwch tuag at ei gilydd.  Mae'r awdurdod lleol yn rheoli derbyniadau i'r cyfleuster addysgu arbenigol. Bydd gan bob dysgwr Gynllun Datblygu Unigol (CDU) sy'n ddogfen statudol ac sy'n nodi'r hyn sy'n 'bwysig i' ac 'yn bwysig ar gyfer' y plentyn neu'r person ifanc, y canlyniadau a ddymunir a'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd i'w gweithredu er mwyn cyflawni'r canlyniadau. 

Byddai'r awdurdod lleol yn gweithio gydag arweinyddiaeth yr ysgol i sicrhau bod pawb yn deall eu cyfrifoldeb dros helpu i wella a chynnal cymorth gofal ac arweiniad.

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Mae arweinyddiaeth a rheolaeth y cyfleusterau addysgu arbenigol wedi eu dirprwyo i ysgolion. Cyrff llywodraethu sy'n pennu'r model rheoli mwyaf priodol ar gyfer y cyfleuster, yn unol â dull arwain a rheoli'r ysgol i sicrhau bod y cyfleuster yn rhan gwbl integredig o'r ysgol. Gall yr awdurdod lleol ddarparu cyngor a chymorth mewn perthynas â phenodiadau arbenigol yn ôl yr angen. 

Byddai'r awdurdod lleol yn parhau i weithio gydag arweinyddiaeth yr ysgol i sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau yn glir. Byddai'n cefnogi'r ysgol i gael perthynas dda â rhieni a phartneriaid eraill fel bod disgyblion yn derbyn addysg o ansawdd uchel ac yn gwneud cynnydd da.

Byddai'r newidiadau arfaethedig yn cael eu cynllunio'n ofalus fel nad amharir ar arweinyddiaeth a llywodraethu'r ysgol. Nod hyn yw lleihau'r tarfu ar weithgarwch ehangach yr ysgol yn ystod y cyfnod sefydlu. 

Effaith y Cynnig 

Mae'n annhebygol y bydd y cynnig yn cael effaith sylweddol ar yr ysgol gan fod y newid mewn dynodiad yn adlewyrchu angen presennol rhagfynegedig dysgwyr sy'n mynychu'r STF. Efallai y bydd angen hyfforddiant a datblygiad rhai staff a bydd yr awdurdod lleol yn gallu cynorthwyo gyda hyn.

Adran 4: Effaith ar ddisgyblion

Mae'r twf mewn ASD a'r disgyblion sy'n cyflwyno meddwl ac ymddygiad niwroamrywiol wedi cynyddu'n sylweddol dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Mae'r darlun hwn ar lefel genedlaethol a byd-eang ac nid yw'n unigryw i Abertawe. 

Mae'r cynnig hwn yn ceisio cydnabod nifer cynyddol y plant a phobl ifanc y mae angen darpariaeth arbenigol yn ein hysgolion yn Abertawe, i ddiwallu eu hanghenion dysgu ychwanegol. 

Sefydlwyd STF Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt i gefnogi disgyblion sydd ag anawsterau lleferydd ac iaith. Yn yr un modd mae STFs dynodedig bellach yn darparu ar gyfer disgyblion niwroamrywiol sydd hefyd ag anawsterau dysgu. Ar hyn o bryd yn Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt mae gan 37% o gyfanswm y garfan ddiagnosis ASD.

Ni fydd y cynnig hwn yn effeithio'n andwyol ar unrhyw ddisgybl sy'n mynychu STF Lleferydd ac Iaith Ysgol Llandeilo Ferwallt ar hyn o bryd. Ni fydd disgwyl iddynt symud yr ysgol a gallant barhau yn Llandeilo Ferwallt nes iddynt adael ar ddiwedd blwyddyn 6. 

Adran 5: Effaith ar staffio

Bydd y rhan fwyaf o staff eisoes wedi cael profiad o weithio gyda disgyblion ag awtistiaeth neu sy'n niwroamrywiol. Ni chynigir y bydd unrhyw newidiadau i staff o fewn STF Llandeilo Ferwallt a chynigir hyfforddiant i uwchsgilio staff. 

Nid oes unrhyw fwriad wedi'i gynnig i gau'r STF. Gall niferoedd staffio amrywio yn seiliedig ar ein hadolygiad blynyddol o leoedd a gynlluniwyd, ond byddai hyn yn digwydd beth bynnag fo canlyniad y cynigion hyn, yn rhan o'r gofyniad i adolygu lleoedd sydd wedi'u cynllunio bob blwyddyn.   

Adran 6: Effaith ar gyllideb a chapasiti'r ysgol

Darpariaeth Gyfredol
Capasiti'r Ysgol260
Nifer derbyn yr ysgol37
Darpariaeth STFAnawsterau Lleferydd ac Iaith
BandE
Nifer y Dosbarthiadau STF2
Dyraniad Cyllideb STF *£211,451

* Gweler Atodiad E 'Goblygiadau Ariannol' am wybodaeth lawn am y fformiwla ariannu a'r cyfrifiadau cyllideb a ragwelir

 

Darpariaeth Arfaethedig
Capasiti'r ysgol260
Nifer derbyn yr ysgol37
Darpariaeth STFCyfathrebu Cymdeithasol gydag Anawsterau Lleferydd ac Iaith
BandF
Nifer y Dosbarthiadau STF2
Dyraniad Cyllideb STF *£287,137

* Gweler Atodiad E 'Goblygiadau Ariannol' am wybodaeth lawn am y fformiwla ariannu a'r cyfrifiadau cyllideb a ragwelir

Adran 7: Heriau, mesurau lliniaru a manteision: 

Heriau:  

Mae dileu'r angen am ddiagnosis yn heriol ar gyfer penderfynu ar leoliad, ac felly bydd angen prosesau lleoli cadarn a'r strategaeth hon yn cael ei chyfleu'n glir i'r holl randdeiliaid, gan gynnwys rhieni. Mae disgybl sy'n gweithredu o fewn ystafell ddosbarth/ysgol ynghyd â'r gallu i gyfathrebu ac ymddwyn yn briodol yn ffactorau sy'n cael eu hystyried wrth ystyried lleoliadau arbenigol. 

Efallai y bydd angen rhagor o amser ar y disgyblion newydd a dderbynnir i'r STF yn yr ystafell ddosbarth, yn hytrach na threulio amser yn y brif ffrwd. 

Mesurau lliniaru: 

Bydd y ddarpariaeth sydd newydd ei dynodi yn cael ei chyflwyno'n raddol ac ni fydd unrhyw darfu ar addysg y dysgwr.  

Ni fydd yn ofynnol i unrhyw blentyn symud i/o'r ddarpariaeth newydd os yw'n derbyn addysg yn rhywle arall ar hyn o bryd.  

Mae gan yr awdurdod lleol brosesau panel cadarn i gytuno ar leoliad a fydd yn cael eu hadolygu ymhellach unwaith y bydd yr angen am ddiagnosis ffurfiol yn cael ei ddileu.

Bydd cyfathrebu parhaus, gofalus a chyson â rhanddeiliaid.

Mae gan yr ALl ddewislen hyfforddi helaeth a gall gynnig cymorth pwrpasol i'r ysgol er mwyn hyfforddi staff newydd. Mae gennym ni ddisgwyliad y bydd hyfforddiant o ansawdd uchel yn parhau.  

Manteision:          

Mae'r cynnig hwn yn hyrwyddo cymunedau ysgol cynhwysol. Mae Cyngor Abertawe ac ysgolion Abertawe yn dathlu amrywiaeth ac mae gan unrhyw ysgol sy'n cynnal STF rôl allweddol wrth hyrwyddo'r dull hwn. Credwn fod pob dysgwr yn elwa o ddysgu mewn amgylcheddau cynhwysol ac amrywiol lle mae gwahaniaethau'n cael eu dathlu. Mae athrawon a darpariaethau arbenigol yn ategu'r dull hwn. 

Adran 8: Manylebau STF

Manylebau STF
DerbyniadauPanel yr All yw'r awdurdod derbyn
CyllidDylai'r STF fod yn gost-niwtral i'r ysgol sy'n ei gynnal
CDUauCDUau yn dod yn rhai a gynhelir gan ALl (cefnogwyd gan staff STF)
HyfforddiantDewislen hyfforddiant / rhwydwaith STF / allgymorth Penybryn / pwrpasol
CymorthGweithwyr achos ADY / athrawon arbenigol / arbenigwyr perfformiad / Seicolegwyr Addysg
CludiantParheir i wneud trefniadau cludiant yn unol â pholisi cludiant o'r cartref i'r ysgol Cyngor Abertawe.
Angen gwaith cyfalaf?Nac oes

Adran 9: Gofyniad Hysbysiad Statudol

Os bydd y Cabinet yn penderfynu bwrw ymlaen â'r cynnig hwn ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd y Cyngor yn cyhoeddi Hysbysiad Statudol, a fydd yn gwahodd unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu, i wneud hynny yn ysgrifenedig o fewn cyfnod o 28 diwrnod. Os derbynnir gwrthwynebiadau, bydd adroddiad gwrthwynebu'n cael ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Abertawe. Bydd copïau caled o'r adroddiad hefyd ar gael ar gais. Bydd yr adroddiad yn crynhoi'r materion a godwyd ac yn darparu ymateb Cyngor Abertawe i'r gwrthwynebiadau hynny. 

Adran 10: Dyddiad gweithredu arfaethedig

Medi 2025 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Awst 2024