Toglo gwelededd dewislen symudol

Atodiad A - Ysgolion y mae'r cynnig hwn yn effeithio arnynt: Ysgol Gynradd Crwys

Adran 1: Newid/datblygiad STF arfaethedig

Adran 2: Data cyd-destunol yr ysgol

Adran 3: Gwerthusiad o'r trefniadau presennol

Adran 4: Effaith ar ddisgyblion

Adran 5: Effaith ar staffio

Adran 6: Effaith ar gyllideb a chapasiti'r ysgol

Adran 7: Heriau, mesurau lliniaru a manteision

Adran 8: Manylebau STF

Adran 9: Hysbysiad Statudol

Adran 10: Dyddiad gweithredu arfaethedig

 

Adran 1: Newid/datblygiad STF arfaethedig 

Y cynnig hwn yw cau'r STF MSLD.

Adran 2: Data cyd-destunol yr ysgol: 

Data cyd-destunol yr ysgol
Lleoliad yr YsgolHeol y Capel, Y Crwys
SirAbertawe
Ystod oedran3-11
Categori'r YsgolYsgol Gynradd Gymunedol
Cyfrwng IaithSaesneg
Capasiti (ac eithrio'r Meithrin a'r STF)172
Lleoedd STF a Gynlluniwyd9
Cost fesul disgybl 24-25£3,720
Cyllideb yr Ysgol 24-25£787,655
Adroddiad diweddaraf Estyn27/08/2019 https://www.estyn.gov.wales/provider/6702120
Categoreiddiad Cyflwr yr AdeiladauC+
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Meithrin17
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Cynradd119
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Cyfanswm136

 

Cyfanswm y disgyblion ar y gofrestr yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf (data PLASC)
Ionawr 2019139
Ionawr 2020127
Ionawr 2021117
Ionawr 2022127
Ionawr 2023131
Ionawr 2024136

 

Rhagfynegiadau Disgyblion
Ionawr 2025123
Ionawr 2026117
Ionawr 2027120
Ionawr 2028115
Ionawr 2029114

Adran 3: Gwerthusiad o'r trefniadau presennol

Ansawdd a Safonau mewn Addysg 

Mae'r ysgol yn ymgysylltu'n dda â Dysgu Proffesiynol (PL) a deialog broffesiynol o fewn y clwstwr i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ac i gefnogi pontio.

Mae'r ysgol yn newid ei dull o ymdrin â'r themâu sy'n sail i gynllunio'r cwricwlwm fel bod yr ysgol gyfan yn canolbwyntio ar un thema. O ganlyniad, gall athrawon gynllunio eu cwricwlwm, gan ystyried Cynefin o dan ffocws cyson i gefnogi dosbarthiadau oedran cymysg.

Mae'r ysgol yn defnyddio arbenigwyr i gefnogi'r cwricwlwm, er enghraifft mae'r ysgol yn trefnu ymweliadau gan athro uwchradd Ffrangeg ac arbenigwr cerddoriaeth Gymreig i gefnogi datblygiad iaith ychwanegol i'w disgyblion.

Mae arweinwyr yr ysgol yn dweud bod y cod perthnasoedd, addysg rhywioldeb (RSE) newydd yn cael ei ddilyn. Mae tystiolaeth o holi cryf gan bron pob athro i symud y dysgu ymlaen, megis yn B1/B2 lle gofynnir i ddysgwyr, 'Meddyliwch am yr ansoddeiriau rydych chi'n eu gwybod. Sut maen nhw'n gallu helpu?' Ac yn Bl3/B4 lle gofynnir i ddysgwyr sy'n cwblhau tasg adeiladu, 'Beth wnaeth i chi benderfynu ei roi e yno?'

Mae llawer o ddisgyblion yn myfyrio ar eu gwydnwch sy'n datblygu, megis yn CA2 lle gall disgyblion egluro'n hyderus beth fyddent yn ei wneud pe baent yn gweld eu gwaith yn anodd. 

Profiadau Dysgu ac Addysgu  

Does dim disgwyl i'r cynnig gael unrhyw effaith negyddol ar brofiadau addysgu a dysgu yn yr ysgol.  

Arolygodd Estyn yr ysgol ym mis Ebrill 2019 a chanfod y canlynol:

Mae Ysgol Gynradd Crwys yn amgylchedd gofalus iawn lle mae bron pob disgybl yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel ac yn mwynhau eu dysgu yn fawr. Yn ystod eu hamser yn yr ysgol, mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai yn y cyfleuster addysgu arbennig, yn gwneud cynnydd da wrth ddatblygu eu sgiliau llythrennedd a thechnoleg gwybodaeth. Mae safonau ymddygiad a hunanddisgyblaeth yn dda iawn ym mron pob gwers ac o gwmpas yr ysgol. Mae'r ysgol yn cynllunio'r cwricwlwm yn effeithiol. Mae athrawon yn datblygu sgiliau corfforol a chreadigol disgyblion yn llwyddiannus drwy ystod eang o weithgareddau diddorol. Mae'r defnydd o ddysgu yn yr awyr agored i wella agweddau disgyblion at ddysgu a gwella eu llesiant yn rhagorol ac mae hyn yn sicrhau bod disgyblion yn datblygu'n ddysgwyr hyderus. Mae'r pennaeth yn darparu arweinyddiaeth effeithiol a chyfeiriad strategol clir ar gyfer gwaith yr ysgol. Mae diwylliant cryf o welliant parhaus. Mae arweinwyr yn cynllunio ac yn gweithredu strategaethau gwella yn dda. Mae staff yn rhannu cyfrifoldebau arwain yn llwyddiannus ac mae gwaith tîm yn gryfder. Mae'r ysgol yn ymgysylltu'n dda â rhieni ac wedi cyfleu ei gweledigaeth a'i gwerthoedd yn effeithiol. 

Arolygodd Estyn
Maes arolyguDyfarniad
SafonauDa
Llesiant ac agweddau tuag at ddysguRhagorol
Profiadau dysgu ac addysguDa
Gofal, cymorth ac arweiniadDa
Arweinyddiaeth a rheolaeth ddaDa

Gofal, cymorth ac arweiniad 

Mae gan bob ysgol ystod briodol o bolisïau a darpariaeth ar waith i hyrwyddo iechyd a llesiant disgyblion.  Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd lle mae dysgu'n cael ei werthfawrogi ac mae disgyblion yn cyflawni eu potensial mewn amgylchedd hapus a diogel lle maen nhw'n dangos parch a goddefgarwch tuag at ei gilydd. 

Mae'r awdurdod lleol yn rheoli derbyniadau i'r cyfleuster addysgu arbenigol. Bydd gan bob dysgwr Gynllun Datblygu Unigol (CDU) sy'n ddogfen statudol ac sy'n nodi'r hyn sy'n 'bwysig i' ac 'yn bwysig ar gyfer' y plentyn neu'r person ifanc, y canlyniadau a ddymunir a'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd i'w gweithredu er mwyn cyflawni'r canlyniadau. 

Byddai'r awdurdod lleol yn gweithio gydag arweinyddiaeth yr ysgol i sicrhau bod pawb yn deall eu cyfrifoldeb dros helpu i wella a chynnal cymorth gofal ac arweiniad. 

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Mae arweinyddiaeth a rheolaeth y cyfleusterau addysgu arbenigol yn cael eu dirprwyo i ysgolion. Cyrff llywodraethu sy'n pennu'r model rheoli mwyaf priodol ar gyfer y cyfleuster, yn unol â dull arwain a rheoli'r ysgol i sicrhau bod y cyfleuster yn rhan gwbl integredig o'r ysgol. Gall yr awdurdod lleol ddarparu cyngor a chymorth mewn perthynas â phenodiadau arbenigol yn ôl yr angen. 

Byddai'r awdurdod lleol yn parhau i weithio gydag arweinyddiaeth yr ysgol i sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau yn glir. Byddai'n cefnogi'r ysgol i gael perthynas dda â rhieni a phartneriaid eraill fel bod disgyblion yn derbyn addysg o ansawdd uchel ac yn gwneud cynnydd da.

Byddai'r newidiadau arfaethedig yn cael eu cynllunio'n ofalus fel nad amharir ar arweinyddiaeth a llywodraethu'r ysgol. Nod hyn yw lleihau'r tarfu.  

Effaith y Cynnig 

Os cytunir arnynt, bydd y newidiadau arfaethedig yn creu lle yn yr ysgol i gefnogi disgyblion prif ffrwd, er enghraifft, gwell darpariaeth (e.e. dosbarth meithrin, man ymneilltuo neu ystafell synhwyraidd) ar gyfer disgyblion prif ffrwd.

Bydd llai o draffig ar safle'r ysgol oherwydd bod llai o ddisgyblion yn derbyn cludiant o'r cartref i'r ysgol.

Mae'n debygol y bydd effaith ar staff sy'n cael eu cyflogi yn y STF gan mai cynnig i gau'r STF yw hwn. Amlinellir y manylion hyn yn Adran 5.

Adran 4: Effaith ar ddisgyblion

Cynigir y bydd yr STF MSLD yn ysgol gynradd Crwys yn dod i ben erbyn 31 Gorffennaf 2027. Ni fydd y cynnig hwn yn effeithio'n andwyol ar unrhyw ddisgybl sydd wedi'i leoli yn STF Crwys ar hyn o bryd. Bydd cynnig pendant iddynt barhau â'u haddysg yn eu lleoliad presennol nes iddynt adael yr ysgol ar ddiwedd Blwyddyn 2 (yn unol â'r disgwyliad presennol). 

Adran 5: Effaith ar staffio

Mae'r newidiadau a gynigir yn debygol o gael rhywfaint o effaith ar staffio, gan gynnwys diswyddiadau posibl gan fod hwn yn gynnig i gau STF. 

Bydd proses ymgynghori briodol yn cael ei chynnal gyda'r holl weithwyr a chynrychiolwyr undebau llafur mewn perthynas ag unrhyw ailstrwythuro staff sy'n deillio o hynny.

Ceisir cytundeb gan gyrff llywodraethu i gymhwyso'r polisi adleoli canolog (sydd mewn grym ar y pryd) i staff y mae'r cynigion hyn yn effeithio arnynt. 

Adran 6: Effaith ar gyllideb a chapasiti'r ysgol

Darpariaeth Gyfredol
Capasiti'r Ysgol172
Nifer Derbyn Ysgol24
Darpariaeth STFAnawsterau Dysgu Cymedrol i Ddifrifol
Nifer y dosbarthiadau STF1
Dyraniad Cyllideb STF£105,866.00

 

Darpariaeth Arfaethedig
Capasiti'r Ysgol172
Nifer Derbyn Ysgol24
Darpariaeth STFDim STF
Nifer y dosbarthiadau STF0
Dyraniad Cyllideb STF£0.00

Adran 7: Heriau, mesurau lliniaru a manteision: 

Heriau: 

Posibilrwydd o ddiswyddiadau staff a'r risg o golli staff arbenigol profiadol yn ystod y cyfnod pontio. Os bydd staff yn gadael cyn i'r STF gau, efallai y bydd her o ran sicrhau athrawon a Cynorthwywyr Addysgu sydd â phrofiad priodol i gymryd lle'r rhai sydd wedi gadael.              

Mesurau lliniaru:  

Bwriedir datblygu STF drwodd (CS a CA2) yn yr ardal hon o Abertawe gan ddileu'r broblem o ddisgyblion sydd ag ADY yn gorfod symud lleoliad arbenigol ar ddiwedd Blwyddyn 2, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd. 

Manteision:          

Bydd yr ysgol yn elwa o gael lle dysgu ychwanegol ar gael i ddisgyblion prif ffrwd.

Adran 8: Manylebau STF: 

Manylebau STF
DerbyniadauPanel yr ALl yw'r awdurdod derbyn
CyllidDylai'r STF fod yn gost-niwtral i'r ysgol sy'n ei gynnal
CDUauCDUau yn dod yn rhai a gynhelir gan yr ALl (cymorth gan staff STF)
HyfforddiantDewislen hyfforddiant / rhwydwaith STF / allgymorth Penybryn / pwrpasol
CymorthGweithwyr achos ADY / athrawon arbenigol / arbenigwyr perfformiad / Seicolegwyr Addysg
CludiantParheir i wneud trefniadau cludiant yn unol â pholisi cludiant o'r cartref i'r ysgol Cyngor Abertawe
Angen gwaith cyfalaf?Nac oes. Os bydd y cynnig yn mynd yn ei flaen, bydd yr ystafell ddosbarth STF bresennol yn cael ei hail-bwrpasu yn fan defnydd hyblyg ar gyfer yr ysgol (meithrin/ymneilltuo/cofleidio) ar gyfer disgyblion prif ffrwd ac felly ni fydd yn cynyddu capasiti neu nifer derbyn yr ysgol.

Adran 9: Gofyniad Hysbysiad Statudol

Os bydd y Cabinet yn penderfynu bwrw ymlaen â'r cynnig hwn ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd y cyngor yn cyhoeddi Hysbysiad Statudol, a fydd yn gwahodd unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu, i wneud hynny yn ysgrifenedig o fewn cyfnod o 28 diwrnod. Os derbynnir gwrthwynebiadau, bydd adroddiad gwrthwynebu'n cael ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Abertawe. Bydd copïau caled o'r adroddiad hefyd ar gael ar gais. Bydd yr adroddiad yn crynhoi'r materion a godwyd ac yn darparu ymateb Cyngor Abertawe i'r gwrthwynebiadau hynny. 

Adran 10: Dyddiad gweithredu arfaethedig

31 Awst 2027

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Awst 2024