Toglo gwelededd dewislen symudol

Atodiad A - Ysgolion y mae'r cynnig hwn yn effeithio arnynt: Ysgol Gynradd Dyfnant

Adran 1: Newid/datblygiad STF arfaethedig

Adran 2: Data cyd-destunol yr ysgol

Adran 3: Gwerthusiad o'r trefniadau presennol

Adran 4: Effaith ar ddisgyblion

Adran 5: Effaith ar staffio

Adran 6: Effaith ar gyllideb a chapasiti'r ysgol

Adran 7: Heriau, mesurau lliniaru a manteision

Adran 8: Manylebau STF

Adran 9: Hysbysiad Statudol

Adran 10: Dyddiad gweithredu arfaethedig

 

Adran 1: Newid/datblygiad STF arfaethedig 

Y cynnig hwn yw newid y dynodiad o STF 'Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig' i STF 'Cyfathrebu Cymdeithasol gydag Anawsterau Dysgu'.

Adran 2: Data cyd-destunol yr ysgol: 

Data cyd-destunol yr ysgol
Lleoliad yr YsgolFfordd Dyfnant, Dyfnant
SirAbertawe
Ystod oedran3-11
Categori'r YsgolYsgol Gynradd Gymunedol
Cyfrwng IaithSaesneg
Capasiti (ac eithrio'r Meithrin a'r STF)343
Lleoedd STF a Gynlluniwyd17
Cost fesul disgybl 24-25£3,720
Cyllideb yr Ysgol 24-25£1,542,808
Adroddiad diweddaraf Estyn22/08/2022 https://www.estyn.gov.wales/provider/6702237
Categoreiddiad Cyflwr yr AdeiladauC+
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Meithrin50
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Cynradd297
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Cyfanswm347

 

Cyfanswm y disgyblion ar y gofrestr yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf (data PLASC)
Ionawr 2019351
Ionawr 2020352
Ionawr 2021351
Ionawr 2022350
Ionawr 2023348
Ionawr 2024347

 

Rhagfynegiadau Disgyblion
Ionawr 2025327
Ionawr 2026314
Ionawr 2027304
Ionawr 2028299
Ionawr 2029286

Adran 3: Gwerthusiad o'r trefniadau presennol

Ansawdd a Safonau mewn Addysg

Mae gan arweinwyr ysgolion ymdeimlad cryf o weledigaeth strategol ar gyfer yr ysgol, sy'n seiliedig ar fyfyrio cywir a chyd-adeiladu gyda rhanddeiliaid. Maent yn hyrwyddo cydweithio'n dda iawn ac yn datblygu ethos o ymddiriedaeth, gonestrwydd ac uniondeb yn llwyddiannus lle mae bron pob aelod o staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn falch o fod yn rhan o dîm hynod effeithiol. Mae arweinyddiaeth ddosbarthedig yn bodoli ar draws yr ysgol; mae pob athro yn gyfrifol am arwain neu fod yn rhan o dîm ar draws yr ysgol, naill ai tîm Dysgu a Phrofiad (AALl) neu un sy'n canolbwyntio ar faes strategol allweddol.

Mae'r uwch dîm arweinyddiaeth wedi defnyddio'r Adnodd Cenedlaethol ar gyfer Gwerthuso a Gwella (NR:EI) i werthuso agweddau ar wella ysgolion. Mae'r wybodaeth hon, ynghyd â blaenoriaethau cenedlaethol a lleol a thystiolaeth o ymarferion monitro, yn llywio blaenoriaethau datblygu'r ysgol. Mae athrawon yn rhagweithiol yn eu datblygiad proffesiynol. Maent yn ymweld ag ysgolion eraill i arsylwi arfer da, rhannu canfyddiadau â chydweithwyr a gwneud newidiadau neu addasiadau i ddarpariaeth ac addysgu lle bo hynny'n briodol.

Yn unol â'r model Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu (SLO), mae'r ysgol yn parhau i fuddsoddi mewn profiadau dysgu o ansawdd uchel ar gyfer datblygiad staff. Mae dysgu proffesiynol yn Nyfnant yn datblygu'r gweithlu ac yn cefnogi'r gwaith o gynllunio olyniaeth. Mae wedi canolbwyntio ar arloesi a diwylliant o newid drwy gynnig arbenigedd, datblygu technegau newydd, a myfyrio ar effaith newidiadau mewn ymarfer. Mae hyn yn ymestyn i ddatblygu staff mewn ysgolion eraill drwy ei gynllun secondiad i arweinwyr canol blaenllaw yn y sector. Yn wir, mae Dyfnant yn cefnogi'r gwaith o gadw athro o ysgol gyfagos drwy gynnig cyflogaeth ran-amser. Mae'r ysgol yn Ysgol Arfer Arweiniol ar gyfer addysg gychwynnol athrawon (AGA) Prifysgol Abertawe, gyda rôl wrth gefnogi a datblygu gweithlu'r dyfodol. Mae'r pennaeth wedi ei secondio'n rhan-amser i'r ALl yn ymgynghorydd gwella ysgolion ac mae uwch arweinydd yn dilyn y Rhaglen Uwch Arweinyddiaeth genedlaethol. Mae pob un o'r rhain yn meithrin gallu arwain ac yn cefnogi'r gwaith o gynllunio olyniaeth ac yn codi proffil yr ysgol yn yr awdurdod.

Mae'r ysgol yn rheoli ei chyllideb yn dda. Mae'r pennaeth yn ymwybodol o gostau annisgwyl megis codiadau cyflog staffio a gallai costau ynni cynyddol rwystro cynnydd wrth fynd i'r afael ag ecwiti i ddarpariaeth awyr agored a nodwyd gan Estyn 2022. Mae arweinwyr yn dadansoddi effaith penderfyniadau gwario ar wella addysgu a dysgu'n dda. Mae canlyniadau asesu athrawon yn dangos bod bron pob dysgwr yn gwneud cynnydd o'r llinell sylfaen mynediad mewn mathemateg a llythrennedd. 

Profiadau Dysgu ac Addysgu

Does dim disgwyl i'r cynnig gael unrhyw effaith negyddol ar brofiadau addysgu a dysgu yn yr ysgol. Trefnir cyfleusterau addysgu arbenigol i ddarparu ystod o raglenni addysgu unigol i gefnogi cynnydd dysgwyr. Bydd llawer o'r dysgwyr yn cael ystod o anawsterau cysylltiedig megis oedi o ran llythrennedd a rhifedd, iaith lleferydd a chyfathrebu, rheoleiddio synhwyraidd ac emosiynol. Mae'r ysgol yn sicrhau bod gan staff a gyflogir yn y lleoliad sgiliau a phrofiad priodol i gefnogi dysgwyr orau. Mae'r lleoliadau'n darparu dysgu dosbarth bach wedi'i deilwra ar gyfer anghenion dysgu'r disgyblion, gan gynnwys ymyriadau i gefnogi llythrennedd a rhifedd, iaith lleferydd a chyfathrebu.  Byddai'r cyfle i gyflogi staff arbenigol a chydweithio'n nes â gwasanaethau arbenigol yn Abertawe yn gwella capasiti'r ysgol ar gyfer cynhwysiant ac o fudd i bob disgybl yn yr ysgol. 

Arolygodd Estyn yr ysgol ym mis Mehefin 2022 a chanfod y canlynol:

Mae'r disgyblion yn mwynhau dysgu ac yn frwdfrydig yn ystod gwersi ac mewn gweithgareddau o amgylch yr ysgol. Mae hyn yn bennaf oherwydd y berthynas waith gadarnhaol iawn sydd ganddynt â'u hathrawon a staff eraill. Mae awyrgylch bywiog a chynhwysol yn yr ysgol. Mae'r cyfleuster addysgu arbenigol, a'i ddisgyblion, yn elfen annatod o fywyd ysgol pob dydd. Yn gyffredinol, mae amgylchedd yr ysgol yn hyrwyddo cyfleoedd dysgu buddiol. Mae'r dysgu'n arbennig o lwyddiannus mewn ystafelloedd dosbarth, ond nid yw'r ddarpariaeth awyr agored yn gyson ac yn deg ar draws yr ysgol. Mae'r addysgu'n ddiddorol ac wedi'i gynllunio'n dda ac mae'r gwersi'n hwyl. Maent yn diwallu anghenion disgyblion yn effeithiol. Mae hyn yn helpu'r rhan fwyaf o ddisgyblion i wneud cynnydd cryf o ran datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd, ac maent yn cyflawni'n dda o'u mannau cychwyn. Fodd bynnag, nid yw athrawon bob amser yn caniatáu i ddisgyblion ddefnyddio eu sgiliau annibynnol datblygedig, er enghraifft wrth ysgrifennu darnau estynedig o waith. Mae'r holl staff yn hyrwyddo ethos cadarnhaol o gymorth a gofal i ddisgyblion ym mhob rhan o'r ysgol. Mae hyn yn annog disgyblion i gymryd cyfrifoldeb am eu llesiant a'u hymddygiad eu hunain yn dda iawn ac yn cyfrannu at eu hagweddau cadarnhaol at ddysgu a'u gwydnwch i ddyfalbarhau â thasgau heriol. Mae'r ysgol yn helpu disgyblion i fagu hyder ynddynt eu hunain yn unigolion, wrth ddatblygu hefyd barch cryf at deimladau pobl eraill. Mae sgiliau siarad disgyblion mewn Saesneg, gwrando, darllen a rhifedd yn gwneud cynnydd cyflym wrth iddynt symud drwy'r ysgol, ac mae llawer yn defnyddio'r sgiliau hyn yn effeithiol ar draws pob maes o'r cwricwlwm. Fodd bynnag, yn gyffredinol, nid yw disgyblion yn datblygu eu sgiliau llafaredd Cymraeg yn ddigon da. Mae arweinwyr yn gwerthuso gwaith yr ysgol i gynllunio ar gyfer gwelliannau'n drylwyr. Mae'r pennaeth yn darparu arweinyddiaeth gref ac effeithiol, gyda phenderfyniad i lwyddo er budd disgyblion a'r gymuned. Mae'r uwch dîm arwain, y staff a'r llywodraethwyr yn rhannu ei gweledigaeth bwrpasol, ac maent yn cydweithio'n dda i sicrhau bod yr ysgol yn llwyddiannus. Mae'r pennaeth yn rhannu cyfrifoldebau'n effeithiol ymhlith staff ac yn darparu cyfleoedd arloesol ar gyfer dysgu proffesiynol. Mae hyn yn cyfrannu at ethos ysgol gyfan ffyniannus, lle mae staff a disgyblion yn teimlo eu bod wedi eu gwerthfawrogi am eu cyfraniadau i fywyd ysgol. 

Gofal, cymorth ac arweiniad

Mae gan bob ysgol ystod briodol o bolisïau a darpariaeth ar waith i hyrwyddo iechyd a llesiant disgyblion.  Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd lle mae dysgu'n cael ei werthfawrogi ac mae disgyblion yn cyflawni eu potensial mewn amgylchedd hapus a diogel lle maen nhw'n dangos parch a goddefgarwch tuag at ei gilydd.  Mae'r awdurdod lleol yn rheoli derbyniadau i'r cyfleuster addysgu arbenigol. Bydd gan bob dysgwr Gynllun Datblygu Unigol (CDU) sy'n ddogfen statudol ac sy'n nodi'r hyn sy'n 'bwysig i' ac 'yn bwysig ar gyfer' y plentyn neu'r person ifanc, y canlyniadau a ddymunir a'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd i'w gweithredu er mwyn cyflawni'r canlyniadau. 

Byddai'r awdurdod lleol yn gweithio gydag arweinyddiaeth yr ysgol i sicrhau bod pawb yn deall eu cyfrifoldeb dros helpu i wella a chynnal cymorth gofal ac arweiniad. 

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Mae arweinyddiaeth a rheolaeth y cyfleusterau addysgu arbenigol wedi eu dirprwyo i ysgolion. Cyrff llywodraethu sy'n pennu'r model rheoli mwyaf priodol ar gyfer y cyfleuster, yn unol â dull arwain a rheoli'r ysgol i sicrhau bod y cyfleuster yn rhan gwbl integredig o'r ysgol. Gall yr awdurdod lleol ddarparu cyngor a chymorth mewn perthynas â phenodiadau arbenigol yn ôl yr angen. 

Byddai'r awdurdod lleol yn parhau i weithio gydag arweinyddiaeth yr ysgol i sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau yn glir. Byddai'n cefnogi'r ysgol i gael perthynas dda â rhieni a phartneriaid eraill fel bod disgyblion yn derbyn addysg o ansawdd uchel ac yn gwneud cynnydd da.

Byddai'r newidiadau arfaethedig yn cael eu cynllunio'n ofalus fel nad amharir ar arweinyddiaeth a llywodraethu'r ysgol. Nod hyn yw lleihau'r tarfu ar weithgarwch ehangach yr ysgol yn ystod y cyfnod sefydlu.  

Effaith y Cynnig

Mae'n annhebygol y bydd y cynnig yn cael effaith sylweddol ar yr ysgol gan fod y newid mewn dynodiad yn adlewyrchu angen presennol a rhagfynegedig dysgwyr sy'n mynychu'r STF.  

Adran 4: Effaith ar ddisgyblion

Mae dileu'r angen am ddiagnosis yn rhoi mwy o hyblygrwydd i leoli disgyblion a allai fod ar restrau aros hir, a/neu sy'n cyflwyno ymddygiadau annodweddiadol niwroamrywiol sylweddol.

Ni fydd y cynnig hwn yn effeithio'n andwyol ar yr un disgybl. 

Adran 5: Effaith ar staffio

Dim effaith ar staffio o ganlyniad i'r cynigion i ailddynodi Gall niferoedd staffio amrywio ar sail ein hadolygiad blynyddol o leoedd a gynlluniwyd, ond byddai hyn yn digwydd beth bynnag fydd canlyniad y cynigion hyn, yn rhan o'r gofyniad i adolygu lleoedd sydd wedi'u cynllunio'n flynyddol.   

Adran 6: Effaith ar gyllideb a chapasiti'r ysgol

Capasiti'r Ysgol
Capasiti'r Ysgol343
Nifer Derbyn yr Ysgol49
Darpariaeth STFSTF Anhwylder Sbectrwm Awtistig (2 Dosbarth)
BandF
Dyraniad Cyllideb STFNi fydd yr ailddynodi yn cael effaith ar ddyraniad cyllideb STF

 

Darpariaeth Arfaethedig
Capasiti'r Ysgol343
Nifer Derbyn yr Ysgol49
Darpariaeth STFCyfathrebu Cymdeithasol gydag Anawsterau Dysgu (2 Dosbarth)
BandF
Dyraniad Cyllideb STFNi fydd yr ailddynodi yn cael effaith ar ddyraniad cyllideb STF

Adran 7: Heriau, mesurau lliniaru a manteision: 

Heriau:  

Mae dileu'r angen am ddiagnosis yn heriol ar gyfer penderfynu ar leoliad, ac felly bydd angen prosesau lleoli cadarn gyda'r strategaeth hon yn cael ei chyfleu'n glir i'r holl randdeiliaid, gan gynnwys rhieni. Mae disgybl sy'n gweithredu o fewn ystafell ddosbarth/ysgol ynghyd â'r gallu i gyfathrebu ac ymddwyn yn briodol yn ffactorau sy'n cael eu hystyried wrth ystyried lleoliadau arbenigol. 

Mesurau lliniaru:  

Mae gan yr awdurdod lleol brosesau panel cadarn i gytuno ar leoliad a fydd yn cael eu hadolygu ymhellach unwaith y bydd yr angen am ddiagnosis ffurfiol yn cael ei ddileu.

Bydd cyfathrebu parhaus, gofalus a chyson â rhanddeiliaid.

Mae gan yr ALl ddewislen hyfforddi helaeth a gall gynnig cymorth pwrpasol i'r ysgol hefyd er mwyn hyfforddi staff newydd. Mae gennym ni ddisgwyliad bod hyfforddiant o ansawdd uchel yn parhau.  

Manteision:

Mae'r cynnig hwn yn hyrwyddo cymunedau ysgol cynhwysol. Mae Cyngor Abertawe ac ysgolion Abertawe yn dathlu amrywiaeth ac mae gan unrhyw ysgol sy'n cynnal STF rôl allweddol wrth hyrwyddo'r dull hwn. Credwn fod pob dysgwr yn elwa o ddysgu mewn amgylcheddau cynhwysol ac amrywiol lle mae gwahaniaethau'n cael eu dathlu. Mae athrawon a darpariaethau arbenigol yn ategu'r dull hwn

Adran 8: Manylebau STF: 

Manylebau STF
DerbyniadauPanel yr ALl yw'r awdurdod derbyn.
CyllidDylai'r STF fod yn gost-niwtral i'r ysgol sy'n ei gynnal
CDUauCDUau yn dod yn rhai a gynhelir gan yr ALl (cymorth gan staff STF)
HyfforddiantDewislen hyfforddiant / rhwydwaith STF / allgymorth Penybryn / pwrpasol
CymorthGweithwyr achos ADY / athrawon arbenigol / arbenigwyr perfformiad / Seicolegwyr Addysg
CludiantParheir i wneud trefniadau cludiant yn unol â pholisi cludiant o'r cartref i'r ysgol Cyngor Abertawe
Angen gwaith cyfalaf?Na fydd

Adran 9: Gofyniad Hysbyseb Statudol

Os bydd y Cabinet yn penderfynu bwrw ymlaen â'r cynnig hwn ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd y Cyngor yn cyhoeddi Hysbysiad Statudol, a fydd yn gwahodd unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu, i wneud hynny yn ysgrifenedig o fewn cyfnod o 28 diwrnod. Os derbynnir gwrthwynebiadau, bydd adroddiad gwrthwynebu'n cael ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Abertawe. Bydd copïau caled o'r adroddiad hefyd ar gael ar gais. Bydd yr adroddiad yn crynhoi'r materion a godwyd ac yn darparu ymateb Cyngor Abertawe i'r gwrthwynebiadau hynny. 

Adran 10: Dyddiad gweithredu arfaethedig:

Medi 2025

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Medi 2024