Toglo gwelededd dewislen symudol

Atodiad A - Ysgolion y mae'r cynnig hwn yn effeithio arnynt: Ysgol Gynradd Townhill

Adran 1: Newid/datblygiad STF arfaethedig

Adran 2: Data cyd-destunol yr ysgol

Adran 3: Gwerthusiad o'r trefniadau presennol

Adran 4: Effaith ar ddisgyblion

Adran 5: Effaith ar staffio

Adran 6: Effaith ar gyllideb a chapasiti'r ysgol

Adran 7: Heriau, mesurau lliniaru a manteision

Adran 8: Manylebau STF

Adran 9: Hysbysiad Statudol

Adran 10: Dyddiad gweithredu arfaethedig

 

Adran 1: Newid/datblygiad STF arfaethedig

Y cynnig hwn yw newid o STF 'Anawsterau Dysgu Cymedrol i Ddifrifol' i STF 'Anawsterau Dysgu Difrifol'.

Adran 2: Data cyd-destunol yr ysgol

Data cyd-destunol yr ysgol
Lleoliad yr YsgolHeol Townhill, Townhill
SirAbertawe
Ystod oedran3-11
Categori'r YsgolYsgol Gynradd Gymunedol
Cyfrwng IaithSaesneg
Capasiti (ac eithrio'r Meithrin a'r STF)420
Lleoedd STF a Gynlluniwyd20
Cost fesul disgybl 24-25£3,720
Cyllideb yr Ysgol 24-25£2,221,870
Adroddiad diweddaraf Estyn15/04/2019 https://www.estyn.gov.wales/provider/6702063
Categoreiddiad Cyflwr yr AdeiladauB
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Meithrin76
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Cynradd410
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Cyfanswm486

 

Cyfanswm y disgyblion ar y gofrestr yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf (data PLASC)
Ionawr 2019517
Ionawr 2020528
Ionawr 2021492
Ionawr 2022509
Ionawr 2023498
Ionawr 2024486

 

Rhagfynegiadau Disgyblion
Ionawr 2025464
Ioanwr 2026456
Ionawr 2027449
Ionawr 2028445
Ionawr 2029447

Adran 3: Gwerthusiad o'r trefniadau presennol

Ansawdd a Safonau mewn Addysg 

Mae gan arweinwyr weledigaeth gref, strategol wedi'i seilio ar wybodaeth fanwl am gryfderau'r ysgol a'r meysydd i'w datblygu. Ledled yr ysgol, mae amgylcheddau dysgu wedi eu llunio gan ddull corfforedig tawel. Mae'r newidiadau yn y mannau dysgu wedi'u seilio ar ymchwil broffesiynol sy'n cael effaith gadarnhaol ar ymddygiad ac agweddau at ddysgu.

Mae gan yr ysgol dîm arweinyddiaeth estynedig sydd â rolau a chyfrifoldebau clir. O ganlyniad, mae arweinwyr ysgolion yn gallu cymryd rhan mewn myfyrdod defnyddiol a pharhaus o'r weledigaeth bresennol a'r datganiad cenhadaeth ar gyfer yr ysgol, gan gynnwys yr holl randdeiliaid.

Mae dysgu proffesiynol (DP) yn gryfder sylweddol i'r ysgol. Yn yr ysgol, mae tystiolaeth glir o effaith gadarnhaol ar ddarpariaeth. Er enghraifft, mae dysgu proffesiynol a gynlluniwyd i gefnogi gwelliannau mewn rhifedd wedi arwain at wella cynnydd dysgwyr mewn mathemateg.

Mae'r ysgol wedi datblygu 'Dewislen DP Clwstwr'. Mae'r ddewislen yn cynnig dewis o gyrsiau i staff o bob rhan o'r clwstwr yn ogystal â chyrsiau ychwanegol y mae'r ysgol wedi'u brocera gan yr awdurdod lleol (ALl) a'r rhanbarth. Mae pob sesiwn DP yn ymgorffori elfen werthusol/myfyriol i sicrhau bod staff yn ystyried effaith yr hyfforddiant hwn ar eu hymarfer a'u cyfleoedd i ddisgyblion.

Mae arweinwyr ysgolion yn gwneud defnydd effeithiol o ymchwil i ategu eu penderfyniadau ynghylch amgylcheddau dysgu'r ysgol. O ganlyniad, mae'r holl staff yn deall y dull addysgeg hwn ac yn gwerthfawrogi ei effaith ar eu disgyblion. Mae lleoedd o amgylch yr ysgol yn ddeniadol ac yn ddiddorol i ddisgyblion ac yn dilyn dull cyson a meithringar. Mae hyn yn arwain at ymdeimlad o lonyddwch a lleihau pethau sy'n tynnu sylw, gan alluogi disgyblion i deimlo'n ddiogel gydag ymdeimlad o berthyn. Mae ymgysylltiad disgyblion yn dda.

Mae'r lleoedd addysgu yn cynnig mannau agored i gefnogi datblygiad corfforol disgyblion a darparu cyfleoedd priodol ar gyfer ymgysylltu cymdeithasol. Mae hyn wedi ei gryfhau ymhellach gan brocio meddylgar. Er enghraifft, mae gwahoddiadau i ddisgyblion megis "Gadewch i ni ddatrys", "Gadewch i ni Ysgrifennu" a'r defnydd o holi yn annog y disgyblion ieuengaf iawn i fentro a datrys problemau.

Yn ogystal, mae mannau cyffredin yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu annibynnol i gefnogi datblygiad sgiliau mathemateg. Mae hyn yn galluogi disgyblion i gael dealltwriaeth fwy diogel wrth fynd i'r afael â phroblemau haniaethol. Ar draws pob oedran, mae'r defnydd clyfar o wrthrychau go iawn yn cefnogi dysgu dilys. O ganlyniad, mae gwybodaeth y disgyblion am yr eirfa sy'n gysylltiedig ag eitemau pob dydd a'u sgiliau o'u defnyddio yn gwella'n gyson, yn ogystal â'u datblygiad creadigol.  

Profiadau Dysgu ac Addysgu

Does dim disgwyl i'r cynnig gael unrhyw effaith negyddol ar brofiadau addysgu a dysgu yn yr ysgol.

Trefnir cyfleusterau addysgu arbenigol i ddarparu ystod o raglenni addysgu unigol i gefnogi cynnydd dysgwyr. Bydd llawer o'r dysgwyr yn profi ystod o anawsterau cysylltiedig megis o ran llythrennedd a rhifedd, iaith lleferydd a chyfathrebu, rheoleiddio synhwyraidd ac emosiynol. Mae'r ysgol yn sicrhau bod gan staff a gyflogir yn y lleoliad sgiliau a phrofiad priodol i gefnogi dysgwyr orau.

Mae'r lleoliadau'n darparu dysgu mewn dosbarthiadau bach sydd wedi'i deilwra ar gyfer anghenion dysgu'r disgyblion, gan gynnwys ymyriadau i gefnogi llythrennedd a rhifedd, iaith lleferydd a chyfathrebu.

Byddai'r cyfle i gyflogi staff arbenigol a chydweithio'n nes â gwasanaethau arbenigol yn Abertawe yn gwella capasiti'r ysgol ar gyfer cynhwysiant ac o fudd i bob disgybl yn yr ysgol. 

Arolygodd Estyn yr ysgol ym mis Chwefror 2019 a chanfod y canlynol:

Mae llesiant disgyblion wrth galon Ysgol Gynradd Gymunedol Townhill ac mae'r holl staff yn gweithio'n galed i sicrhau bod amgylchedd gofalgar a chynhwysol. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar gynnydd disgyblion, eu hymddygiad, a'u hagweddau tuag at ddysgu. Mae bron pob disgybl yn teimlo'n ddiogel ac yn mwynhau'r ysgol. Mae llawer yn ymgymryd â rolau i helpu i ddatblygu gwaith yr ysgol, er enghraifft fel llysgenhadon meysydd chwarae. Mae gan bob athro ac aelod staff cymorth ddisgwyliadau uchel o ddisgyblion. Mae llawer o ddisgyblion yn dechrau'r ysgol gyda sgiliau llythrennedd a rhifedd sydd yn is na'r rhai a ddisgwylir gan ddisgyblion o oedran tebyg. Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai yn y cyfleusterau dysgu arbenigol, yn gwneud cynnydd da yn ystod eu hamser yn yr ysgol, yn enwedig yn eu sgiliau siarad a gwrando. Mae athrawon yn darparu ystod eang o brofiadau dysgu i ennyn diddordeb ac ysgogi disgyblion i ddysgu. Mae'r ysgol yn hyrwyddo dealltwriaeth disgyblion o'u diwylliant a'u treftadaeth Gymreig ymhell drwy ei chwricwlwm a'i gweithgareddau. Mae'r pennaeth a benodwyd yn ddiweddar, ynghyd â thîm arwain yr ysgol, yn darparu arweinyddiaeth gref a phwrpasol. Gyda'i gilydd, gyda thîm cydwybodol o staff, maent yn gweithio'n llwyddiannus i wella canlyniadau disgyblion, a chodi eu dyheadau. 

Arolygodd Estyn
Maes arolyguDyfarniad
SafonauDa
Lles ac agweddau tuag at ddysguDa
Profiadau dysgu ac addysguDa
Gofal, cymorth ac arweiniadDa
Arweinyddiaeth a rheolaeth ddaDa

Gofal, cymorth ac arweiniad

Mae gan bob ysgol ystod briodol o bolisïau a darpariaeth ar waith i hyrwyddo iechyd a llesiant disgyblion.  Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd lle mae dysgu'n cael ei werthfawrogi ac mae disgyblion yn cyflawni eu potensial mewn amgylchedd hapus a diogel lle maen nhw'n dangos parch a goddefgarwch tuag at ei gilydd.  Mae'r awdurdod lleol yn rheoli derbyniadau i'r cyfleuster addysgu arbenigol. Bydd gan bob dysgwr Gynllun Datblygu Unigol (CDU) sy'n ddogfen statudol ac sy'n nodi'r hyn sy'n 'bwysig i' ac 'yn bwysig ar gyfer' y plentyn neu'r person ifanc, y canlyniadau a ddymunir a'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd i'w gweithredu er mwyn cyflawni'r canlyniadau. 

Byddai'r awdurdod lleol yn gweithio gydag arweinyddiaeth yr ysgol i sicrhau bod pawb yn deall eu cyfrifoldeb dros helpu i wella a chynnal cymorth gofal ac arweiniad. 

Arweinyddiaeth a Rheolaeth  

Mae arweinyddiaeth a rheolaeth y cyfleusterau addysgu arbenigol wedi eu dirprwyo i ysgolion. Cyrff llywodraethu sy'n pennu'r model rheoli mwyaf priodol ar gyfer y cyfleuster, yn unol â dull arwain a rheoli'r ysgol i sicrhau bod y cyfleuster yn rhan gwbl integredig o'r ysgol. Gall yr awdurdod lleol ddarparu cyngor a chymorth mewn perthynas â phenodiadau arbenigol yn ôl yr angen. 

Byddai'r awdurdod lleol yn parhau i weithio gydag arweinyddiaeth yr ysgol i sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau yn glir. Byddai'n cefnogi'r ysgol i gael perthynas dda â rhieni a phartneriaid eraill fel bod disgyblion yn derbyn addysg o ansawdd uchel ac yn gwneud cynnydd da.

Byddai'r newidiadau arfaethedig yn cael eu cynllunio'n ofalus fel nad amharir ar arweinyddiaeth a llywodraethu'r ysgol. Nod hyn yw lleihau'r tarfu ar weithgarwch ehangach yr ysgol yn ystod y cyfnod sefydlu.  

Effaith y Cynnig 

Mae'n annhebygol y bydd y cynnig yn cael effaith sylweddol ar yr ysgol gan fod y newid mewn dynodiad yn adlewyrchu angen presennol a rhagfynegedig dysgwyr sy'n mynychu'r STF. Efallai y bydd angen hyfforddiant a datblygiad ar rai aelodau o'r staff a bydd yr awdurdod lleol yn gallu cynorthwyo gyda hyn.

Adran 4: Effaith ar ddisgyblion

Mae disgwyl i ddisgyblion sydd ag anhawster dysgu cymedrol gael eu rheoli mewn lleoliad prif ffrwd drwy amrywiol strategaethau gan gynnwys technegau addysgu gwahaniaethol.

Bellach mae rhagor o ddisgyblion yn cyflwyno gydag anawsterau dysgu difrifol ac yn aml nid ydynt yn gallu cael mynediad i ddosbarthiadau prif ffrwd drwy gydol y dydd. Efallai y bydd ganddynt ddiagnosis o oedi datblygiadol cyffredinol, anawsterau corfforol neu feddygol, problemau prosesu synhwyraidd, neu heriau niwroddatblygiadol.

Cydnabyddir bod STF MLD Townhill yn darparu ar gyfer yr holl anableddau a diagnosis amrywiol hyn, a gellir gweld hyn yn eu carfan STF bresennol.

Felly, mae'r cynnig i ailddynodi STF Townhill yn un Anawsterau Dysgu Difrifol yn cadarnhau'r math o ddarpariaeth sydd eisoes ar waith. Felly, ni effeithir ar yr un disgybl gan y newid enw arfaethedig.

Adran 5: Effaith ar staffio

Ni fydd unrhyw effaith ar staffio o ganlyniad i'r cynigion i ailddynodi. Gall niferoedd staffio amrywio ar sail ein hadolygiad blynyddol o leoedd a gynlluniwyd, ond byddai hyn yn digwydd beth bynnag fydd canlyniad y cynigion hyn, yn rhan o'r gofyniad i adolygu'n flynyddol leoedd sydd wedi'u cynllunio. 

Adran 6: Effaith ar gyllideb a chapasiti'r ysgol

Darpariaeth Gyfredol
Capasiti'r Ysgol420
Nifer Derbyn yr Ysgol60
Darpariaeth STFAnawsterau Dysgu Cymedrol i Ddifrifol STF (2 ddosbarth)
BandE
Cyfran Cyllideb STFNi fydd yr ailddynodi yn cael effaith ar ddyraniad cyllideb STF.

 

Darpariaeth Arfaethedig
Capasiti'r Ysgol420
Nifer Derbyn yr Ysgol60
Darpariaeth STFSTF Anawsterau Dysgu Difrifol (2 ddosbarth)
BandE
Cyfran Cyllideb STFNi fydd yr ailddynodi yn cael effaith ar ddyraniad cyllideb STF.

Adran 7: Heriau, lliniaru a manteision

Heriau:

Ddim yn berthnasol gan y cynhelir y statws quo.

Mesurau lliniaru:

Ddim yn berthnasol gan y cynhelir y statws quo.

Manteision:       

Mae'r cynnig hwn yn hyrwyddo cymunedau ysgol cynhwysol. Mae Cyngor Abertawe ac ysgolion Abertawe yn dathlu amrywiaeth ac mae gan unrhyw ysgol sy'n cynnal STF rôl allweddol wrth hyrwyddo'r dull hwn. Credwn fod pob dysgwr yn elwa o ddysgu mewn amgylcheddau cynhwysol ac amrywiol lle mae gwahaniaethau'n cael eu dathlu. Mae athrawon a darpariaethau arbenigol yn ategu'r dull hwn. 

Adran 8: Manylebau STF

Manylebau STF
DerbyniadauPanel yr ALl yw'r awdurdod derbyn.
CyllidDylai'r STF fod yn gost-niwtral i'r ysgol sy'n ei gynnal.
CDUauCDUau yn dod yn rhai a gynhelir gan yr ALl (cymorth gan staff STF).
HyfforddiantDewislen hyfforddiant / rhwydwaith STF / allgymorth Penybryn / pwrpasol
CymorthGweithwyr achos ADY / athrawon arbenigol / arbenigwyr perfformiad / Seicolegwyr Addysg
CludiantParheir i wneud trefniadau cludiant yn unol â pholisi cludiant o'r cartref i'r ysgol Cyngor Abertawe
Angen gwaith cyfalaf?Na fydd

Adran 9: Gofyniad Hysbysiad Statudol

Os, ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd y Cabinet yn penderfynu bwrw ymlaen â'r cynnig hwn, bydd y Cyngor yn cyhoeddi Hysbysiad Statudol, a fydd yn gwahodd unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu, i wneud hynny'n ysgrifenedig o fewn cyfnod o 28 diwrnod. Os derbynnir gwrthwynebiadau, bydd adroddiad gwrthwynebu'n cael ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Abertawe. Bydd copïau caled o'r adroddiad hefyd ar gael ar gais. Bydd yr adroddiad yn crynhoi'r materion a godwyd ac yn darparu ymateb Cyngor Abertawe i'r gwrthwynebiadau hynny.

Na fydd, nid yw'r elfen hon o'r cynnig yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi Hysbysiad Statudol er mwyn bwrw ymlaen, ond mae'r Cyngor yn ymgynghori ar yr agwedd hon ar y cynnig gan ei fod yn gysylltiedig â'r pecyn ehangach o gynigion a bydd y Cabinet yn ystyried ymatebion i'r ymgynghoriad sy'n gysylltiedig â'r holl ysgolion yr effeithir arnynt.   

Adran 10: Dyddiad gweithredu arfaethedig

Medi 2025

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Medi 2024