Atodiad A - Ysgolion y mae'r cynnig hwn yn effeithio arnynt: Ysgol Gynradd Tre Uchaf
Adran 1: Newid/datblygiad STF arfaethedig
Adran 2: Data cyd-destunol yr ysgol
Adran 3: Gwerthusiad o'r trefniadau presennol
Adran 4: Effaith ar ddisgyblion
Adran 6: Effaith ar gyllideb a chapasiti'r ysgol
Adran 7: Heriau, mesurau lliniaru a manteision
Adran 10: Dyddiad gweithredu arfaethedig
Adran 1: Newid/datblygiad STF arfaethedig
Y cynnig hwn yw newid y dynodiad o STF 'Anawsterau Dysgu Cymedrol i Ddifrifol' i STF 'Anawsterau Dysgu Difrifol'.
Adran 2: Data cyd-destunol yr ysgol:
Lleoliad yr Ysgol | Heol Cae-Ty-Newydd, Casllwchwr |
---|---|
Sir | Abertawe |
Ystod oedran | 3-11 |
Categori'r Ysgol | Ysgol Gynradd Gymunedol |
Cyfrwng Iaith | Saesneg |
Capasiti (ac eithrio'r Meithrin a'r STF) | 204 |
Lleoedd STF a Gynlluniwyd | 22 |
Cost fesul disgybl 24-25 | £3,720 |
Cyllideb yr Ysgol 24-25 | £1,243,069 |
Adroddiad diweddaraf Estyn | 20/06/2018 https://www.estyn.gov.wales/provider/6702211 |
Categoreiddiad Cyflwr yr Adeiladau | C+ |
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Meithrin | 19 |
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Cynradd | 188 |
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Cyfanswm | 207 |
Ionawr 2019 | 226 |
---|---|
Ionawr 2020 | 222 |
Ionawr 2021 | 220 |
Ionawr 2022 | 227 |
Ionawr 2023 | 212 |
Ionawr 2024 | 207 |
Ionawr 2025 | 198 |
---|---|
Ionawr 2026 | 186 |
Ionawr 2027 | 180 |
Ionawr 2028 | 174 |
Ionawr 2029 | 162 |
Adran 3: Gwerthusiad o'r trefniadau presennol
Ansawdd a Safonau mewn Addysg
Mae arweinwyr wedi datblygu gweledigaeth gref ar gyfer yr ysgol sydd wedi'i datblygu gyda'r holl randdeiliaid, ond yn enwedig gyda disgyblion. Mae grwpiau llais disgyblion arloesol wedi cael eu datblygu ac mae'r rhain wedi cael mewnbwn sylweddol i ddatblygiad a brandio'r weledigaeth strategol.
Mae'r ysgol yn sicrhau bod pob disgybl, gan gynnwys y rhai yn ei chyfleuster addysgu arbenigol (STF), yn cael cyfleoedd i bob disgybl brofi cwricwlwm cyffrous ac ysgogol.
Mae ymrwymiad i gynhwysiant. Mae'r ysgol yn defnyddio strategaethau effeithiol i sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd. Yn benodol, gall disgyblion yn STF Cyfnod Allweddol 2 gyfleu eu barn a deall sut i ddatblygu sgiliau perthnasol.
Mae arweinwyr yn awyddus i rieni a'r gymuned ehangach gael dyheadau uchel ar gyfer plant Tre Uchaf. Maent yn cael eu hannog i ddod yn bartneriaid mewn dysgu a digwyddiadau. Mae disgyblion yn parhau i gael dylanwad cryf wrth gynllunio, datblygu a gweithredu Cwricwlwm i Gymru (CfW). Mae llywodraethwyr wrthi'n monitro cynnydd yr ysgol tuag at flaenoriaethau strategol drwy weithgareddau sicrhau ansawdd defnyddiol.
Mae'r ysgol yn datblygu'r gallu i arwain yn dda. Mae arweinwyr canol yn cael eu hadnabod ac yn derbyn cyfleoedd dysgu proffesiynol perthnasol. Mae staff yn ymgymryd â gweithgareddau ymchwil a bydd canfyddiadau/canlyniadau'n cael eu rhannu'n rheolaidd i sicrhau bod hyn yn cael effaith effeithiol ar ganlyniadau disgyblion. Mae'r pennaeth yn gallu mynegi cryfderau a meysydd datblygu'r ysgol yn dda.
Profiadau Dysgu ac Addysgu
Does dim disgwyl i'r cynnig gael unrhyw effaith negyddol ar brofiadau addysgu a dysgu yn yr ysgol.
Trefnir cyfleusterau addysgu arbenigol i ddarparu ystod o raglenni addysgu unigol i gefnogi cynnydd dysgwyr. Bydd llawer o'r dysgwyr yn profi ystod o anawsterau cysylltiedig megis oedi o ran llythrennedd a rhifedd, iaith lleferydd a chyfathrebu, rheoleiddio synhwyraidd ac emosiynol. Mae'r ysgol yn sicrhau bod gan staff a gyflogir yn y lleoliad sgiliau a phrofiad priodol i gefnogi dysgwyr orau.
Mae'r lleoliadau'n darparu dysgu dosbarth bach wedi'i deilwra i anghenion dysgu'r disgyblion, gan gynnwys ymyriadau i gefnogi llythrennedd a rhifedd, iaith lleferydd a chyfathrebu.
Byddai'r cyfle i gyflogi staff arbenigol a chydweithio'n nes â gwasanaethau arbenigol yn Abertawe yn gwella capasiti'r ysgol ar gyfer cynhwysiant ac o fudd i bob disgybl yn yr ysgol.
Arolygodd Estyn yr ysgol yn 2016 a chanfod y canlynol:
- Mae bron pob disgybl yn teimlo'n ddiogel, yn hapus ac yn ddiogel yn yr ysgol
- Mae athrawon yng nghyfnod allweddol 2 yn cynllunio ystod bwrpasol o brofiadau dysgu, sy'n dechrau cael effaith gadarnhaol ar wella safonau
- Yn y Cyfnod Sylfaen, mae athrawon a chynorthwywyr addysgu yn cydweithio'n dda i gyfuno gweithgareddau dan do ac awyr agored i gyflwyno gwersi ysgogol
- Mae'r ysgol yn gymuned ofalgar a chefnogol
- Mae trefniadau effeithiol ar gyfer nodi anghenion ychwanegol disgyblion yn gynnar
- Mae gan y pennaeth, y staff a'r llywodraethwyr weledigaeth glir a rennir ar gyfer yr ysgol lle mae'r holl staff a disgyblion yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
- Mae'r pennaeth yn hyrwyddo ethos tîm cryf
- Mae'r ysgol yn gwneud cynnydd da o ran gwella lefelau presenoldeb yr ysgol a lleihau tangyrhaeddiad disgyblion dan anfantais gymdeithasol ar y lefelau disgwyliedig.
- Mae staff yn gweithio'n effeithiol gydag ystod eang o bartneriaid ac mae hyn yn cael effaith fuddiol ar lesiant disgyblion
- Mae'r ysgol yn defnyddio athrawon a chynorthwywyr addysgu yn llwyddiannus ac yn gwneud defnydd effeithiol o'u profiad a'u harbenigedd
Gofal, cymorth ac arweiniad
Mae gan bob ysgol ystod briodol o bolisïau a darpariaeth ar waith i hyrwyddo iechyd a llesiant disgyblion. Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd lle mae dysgu'n cael ei werthfawrogi ac mae disgyblion yn cyflawni eu potensial mewn amgylchedd hapus a diogel lle maen nhw'n dangos parch a goddefgarwch tuag at ei gilydd. Mae'r awdurdod lleol yn rheoli derbyniadau i'r cyfleuster addysgu arbenigol. Bydd gan bob dysgwr Gynllun Datblygu Unigol (CDU) sy'n ddogfen statudol ac sy'n nodi'r hyn sy'n 'bwysig i' ac 'yn bwysig ar gyfer' y plentyn neu'r person ifanc, y canlyniadau a ddymunir a'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd i'w gweithredu er mwyn cyflawni'r canlyniadau.
Byddai'r awdurdod lleol yn gweithio gydag arweinyddiaeth yr ysgol i sicrhau bod pawb yn deall eu cyfrifoldeb dros helpu i wella a chynnal cymorth gofal ac arweiniad.
Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Mae arweinyddiaeth a rheolaeth y cyfleusterau addysgu arbenigol wedi eu dirprwyo i ysgolion. Cyrff llywodraethu sy'n pennu'r model rheoli mwyaf priodol ar gyfer y cyfleuster, yn unol â dull arwain a rheoli'r ysgol i sicrhau bod y cyfleuster yn rhan gwbl integredig o'r ysgol. Gall yr awdurdod lleol ddarparu cyngor a chymorth mewn perthynas â phenodiadau arbenigol yn ôl yr angen.
Byddai'r awdurdod lleol yn parhau i weithio gydag arweinyddiaeth yr ysgol i sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau yn glir. Byddai'n cefnogi'r ysgol i gael perthynas dda â rhieni a phartneriaid eraill fel bod disgyblion yn derbyn addysg o ansawdd uchel ac yn gwneud cynnydd da.
Byddai'r newidiadau arfaethedig yn cael eu cynllunio'n ofalus fel nad amharir ar arweinyddiaeth a llywodraethu'r ysgol. Nod hyn yw lleihau'r tarfu ar weithgarwch ehangach yr ysgol yn ystod y cyfnod sefydlu.
Effaith y Cynnig
Mae'n annhebygol y bydd y cynnig yn cael effaith sylweddol ar yr ysgol gan fod y newid mewn dynodiad yn adlewyrchu angen presennol a rhagfynegedig dysgwyr sy'n mynychu'r STF.
Efallai y bydd angen hyfforddiant a datblygiad rhai staff a bydd yr awdurdod lleol yn gallu cefnogi gyda hyn.
Adran 4: Effaith ar ddisgyblion
Mae disgwyl i ddisgyblion sydd ag anhawster dysgu cymedrol gael eu rheoli mewn lleoliad prif ffrwd drwy amrywiol strategaethau gan gynnwys technegau addysgu gwahaniaethol.
Mae mwy o ddisgyblion bellach yn cyflwyno gydag anawsterau dysgu difrifol ac yn aml nid ydynt yn gallu cael mynediad i ddosbarthiadau prif ffrwd drwy gydol y dydd. Efallai y bydd ganddynt ddiagnosis o oedi datblygiadol cyffredinol, anawsterau corfforol neu feddygol, problemau prosesu synhwyraidd, neu heriau niwroddatblygiadol.
Cydnabyddir bod STF MLD Tre Uchaf yn darparu ar gyfer yr holl anableddau a diagnosis amrywiol hyn, a gellir gweld hyn yn eu carfan STF bresennol.
Felly, mae'r cynnig i ailddynodi STF Tre Uchaf yn Anawsterau Dysgu Difrifol yn cadarnhau'r math o ddarpariaeth sydd eisoes ar waith.
Felly, ni effeithir ar yr un disgybl gan y newid enw arfaethedig.
Adran 5: Effaith ar staffio
Ni fydd unrhyw effaith ar staffio o ganlyniad i'r cynigion i ailddynodi. Gall niferoedd staffio amrywio ar sail ein hadolygiad blynyddol o leoedd a gynlluniwyd, ond byddai hyn yn digwydd beth bynnag fydd canlyniad y cynigion hyn, yn rhan o'r gofyniad i adolygu lleoedd sydd wedi'u cynllunio'n flynyddol.
Adran 6: Effaith ar gyllideb a chapasiti'r ysgol
Capasiti'r Ysgol | 204 |
---|---|
Nifer Derbyn yr Ysgol | 29 |
Darpariaeth STF | STF Anawsterau Dysgu Cymedrol i Ddifrifol (2 ddosbarth) |
Band | E |
Dyraniad Cyllideb STF | Ni fydd yr ailddynodi yn cael effaith ar ddyraniad cyllideb STF. |
Capasiti'r Ysgol | 204 |
---|---|
Nifer Derbyn yr Ysgol | 29 |
Darpariaeth STF | STF Anawsterau Dysgu Difrifol (2 ddosbarth) |
Band | E |
Dyraniad Cyllideb STF | Ni fydd yr ailddynodi yn cael effaith ar ddyraniad cyllideb STF. |
Adran 7: Heriau, mesurau lliniaru a manteision:
Heriau:
Ddim yn berthnasol gan y cynhelir y statws quo.
Mesurau lliniaru:
Ddim yn berthnasol gan y cynhelir y statws quo.
Manteision:
Mae'r cynnig hwn yn hyrwyddo cymunedau ysgol cynhwysol. Mae Cyngor Abertawe ac ysgolion Abertawe yn dathlu amrywiaeth ac mae gan unrhyw ysgol sy'n cynnal STF rôl allweddol wrth hyrwyddo'r dull hwn. Credwn fod pob dysgwr yn elwa o ddysgu mewn amgylcheddau cynhwysol ac amrywiol lle mae gwahaniaethau'n cael eu dathlu. Mae athrawon a darpariaethau arbenigol yn ategu'r dull hwn.
Adran 8: Manylebau STF:
Derbyniadau | Panel yr ALl yw'r awdurdod derbyn. |
---|---|
Cyllid | Dylai'r STF fod yn gost-niwtral i'r ysgol sy'n ei gynnal. |
CDUau | CDUau yn dod yn rhai a gynhelir gan yr ALl (cymorth gan staff STF). |
Hyfforddiant | Dewislen hyfforddiant / rhwydwaith STF / allgymorth Penybryn / pwrpasol |
Cymorth | Gweithwyr achos ADY / athrawon arbenigol / arbenigwyr perfformiad / Seicolegwyr Addysg |
Cludiant | Parheir i wneud trefniadau cludiant yn unol â pholisi cludiant o'r cartref i'r ysgol Cyngor Abertawe |
Angen gwaith cyfalaf? | Na fydd |
Adran 9: Gofyniad Hysbysiad Statudol
Os bydd y Cabinet yn penderfynu bwrw ymlaen â'r cynnig hwn ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd y Cyngor yn cyhoeddi Hysbysiad Statudol, a fydd yn gwahodd unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu, i wneud hynny yn ysgrifenedig o fewn cyfnod o 28 diwrnod. Os derbynnir gwrthwynebiadau, bydd adroddiad gwrthwynebu'n cael ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Abertawe. Bydd copïau caled o'r adroddiad hefyd ar gael ar gais. Bydd yr adroddiad yn crynhoi'r materion a godwyd ac yn darparu ymateb Cyngor Abertawe i'r gwrthwynebiadau hynny.
Adran 10: Dyddiad gweithredu arfaethedig:
Medi 2025