Atodiad A - Ysgolion y mae'r cynnig hwn yn effeithio arnynt: Ysgol Gyfun Gellifedw
Adran 1: Newid/datblygiad STF arfaethedig
Adran 2: Data cyd-destunol yr ysgol
Adran 3: Gwerthusiad o'r trefniadau presennol
Adran 4: Effaith ar ddisgyblion
Adran 6: Effaith ar gyllideb a chapasiti'r ysgol
Adran 7: Heriau, mesurau lliniaru a manteision
Adran 10: Dyddiad gweithredu arfaethedig
Adran 1: Newid/datblygiad STF arfaethedig
Cynnig 1: Ailddynodi STF ASD
Y cynnig hwn yw ailddynodi'r STF 'Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig' i STF 'Cyfathrebu Cymdeithasol gydag Anawsterau Dysgu'
Cynnig 2 - Cau'r STF MLD
Y cynnig hwn yw cau'r STF 'Anawsterau Dysgu Cymedrol i Ddifrifol'
Adran 2: Data cyd-destunol yr ysgol:
Lleoliad yr Ysgol | Heol Gellifedw, Gellifedw |
---|---|
Sir | Abertawe |
Ystod oedran | 11-16 |
Categori'r Ysgol | Ysgol Gyfun Gymunedol |
Cyfrwng Iaith | Saesneg |
Capasiti (ac eithrio'r Meithrin a'r STF) | 791 |
Lleoedd STF a Gynlluniwyd | 50 |
Cost fesul disgybl 24-25 | £4,635 |
Cyllideb yr Ysgol 24-25 | £4,586,764 |
Adroddiad diweddaraf Estyn | 23/12/2019 http://www.estyn.gov.wales/provider/6704075 |
Categoreiddiad Cyflwr yr Adeiladau | C+ |
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - 11-16 | 690 |
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Ôl-16 | Amh |
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Cyfanswm | 690 |
Ionawr 2019 | 447 |
---|---|
Ionawr 2020 | 436 |
Ionawr 2021 | 487 |
Ionawr 2022 | 526 |
Ionawr 2023 | 600 |
Ionawr 2024 | 690 |
Ionawr 2025 | 701 |
---|---|
Ionawr 2026 | 693 |
Ionawr 2027 | 700 |
Ionawr 2028 | 675 |
Ionawr 2029 | 610 |
Adran 3: Gwerthusiad o'r trefniadau presennol
Ansawdd a Safonau mewn Addysg
Ar y cyfan, mae safonau'n dda ar draws yr ysgol. Mae canlyniadau llythrennedd ar ddiwedd CA4 yn cymharu'n dda â'r teulu ysgolion ac maent ychydig yn is na'r cyfartaledd ALl. Mae canlyniadau rhifedd CA4 yn is na chyfartaledd y teulu a'r ALl er bod gan yr ysgol set glir o gamau gweithredu cytunedig i gefnogi gwelliannau.
Cryfderau allweddol
- Gwell cyfleoedd dysgu (cynnig cwricwlwm) ar gyfer bron pob disgybl
- Pecyn cymorth addysgu gwych wedi'i ymgorffori yn fecanwaith ar gyfer dysgu proffesiynol
- Cwricwlwm i Gymru (CfW) a gyflwynwyd yn llwyddiannus i Gyfnod Allweddol 3
- Gwerth ychwanegol i ganlyniadau perfformiad unigol pob disgybl
- Strategaethau datblygu sgiliau llythrennedd (yn enwedig darllen)
Profiadau Dysgu ac Addysgu
Does dim disgwyl i'r cynnig gael unrhyw effaith negyddol ar brofiadau addysgu a dysgu yn yr ysgol.
Trefnir cyfleusterau addysgu arbenigol i ddarparu ystod o raglenni addysgu unigol i gefnogi cynnydd dysgwyr. Bydd llawer o'r dysgwyr yn profi ystod o anawsterau cysylltiedig megis oedi o ran llythrennedd a rhifedd, iaith lleferydd a chyfathrebu, rheoleiddio synhwyraidd ac emosiynol. Mae'r ysgol yn sicrhau bod gan staff a gyflogir yn y lleoliad sgiliau a phrofiad priodol i gefnogi dysgwyr orau.
Mae'r lleoliadau'n darparu dysgu dosbarth bach wedi'i deilwra ar gyfer anghenion dysgu'r disgyblion, gan gynnwys ymyriadau i gefnogi llythrennedd a rhifedd, iaith lleferydd a chyfathrebu.
Byddai'r cyfle i gyflogi staff arbenigol a gweithio'n agosach gyda gwasanaethau arbenigol yn Abertawe yn gwella capasiti'r ysgol ar gyfer cynhwysiant ac o fudd i bob disgybl yn yr ysgol.
Arolygodd Estyn yr ysgol ym mis Hydref 2019 a chanfod y canlynol:
Mae Ysgol Gyfun Gellifedw yn darparu gofal, cefnogaeth ac arweiniad rhagorol. O ganlyniad, mae disgyblion yn mwynhau lefelau uchel o lesiant, ac mae eu hagweddau cadarnhaol yn gwneud cyfraniad sylweddol at ethos cynhwysol yr ysgol.
Mae athrawon yn adnabod eu disgyblion yn dda ac yn datblygu perthynas waith gadarnhaol â'u dosbarthiadau. Mae hyn yn creu amgylchedd dysgu tawel a phwrpasol sy'n cefnogi cynnydd a llesiant disgyblion yn llwyddiannus.
Mae'r pennaeth yn darparu arweinyddiaeth dawel a sicr. Mae ei weledigaeth o ysgol gwbl gynhwysol yn cael ei rhannu'n llwyddiannus gyda staff, rhieni a disgyblion. Mae ethos yr ysgol, sy'n seiliedig ar wneud yn fawr o botensial pob plentyn a'u paratoi'n dda ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol, yn treiddio i bob agwedd ar ei gwaith.
Maes arolygu | Dyfarniad |
---|---|
Safonau | Da |
Llesiant ac agweddau tuag at ddysgu | Rhagorol |
Profiadau dysgu ac addysgu | Da |
Gofal, cymorth ac arweiniad | Excellent |
Arweinyddiaeth a rheolaeth | Rhagorol |
Gofal, cymorth ac arweiniad
Mae gan bob ysgol ystod briodol o bolisïau a darpariaeth ar waith i hyrwyddo iechyd a llesiant disgyblion. Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd lle mae dysgu'n cael ei werthfawrogi ac mae disgyblion yn cyflawni eu potensial mewn amgylchedd hapus a diogel lle maen nhw'n dangos parch a goddefgarwch tuag at ei gilydd. Mae'r awdurdod lleol yn rheoli derbyniadau i'r cyfleuster addysgu arbenigol. Bydd gan bob dysgwr Gynllun Datblygu Unigol (CDU) sy'n ddogfen statudol ac sy'n nodi'r hyn sy'n 'bwysig i' ac 'yn bwysig ar gyfer' y plentyn neu'r person ifanc, y canlyniadau a ddymunir a'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd i'w gweithredu er mwyn cyflawni'r canlyniadau.
Byddai'r awdurdod lleol yn gweithio gydag arweinyddiaeth yr ysgol i sicrhau bod pawb yn deall eu cyfrifoldeb dros helpu i wella a chynnal cymorth gofal ac arweiniad.
Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Mae arweinyddiaeth a rheolaeth y cyfleusterau addysgu arbenigol wedi eu dirprwyo i ysgolion. Cyrff llywodraethu sy'n pennu'r model rheoli mwyaf priodol ar gyfer y cyfleuster, yn unol â dull arwain a rheoli'r ysgol i sicrhau bod y cyfleuster yn rhan gwbl integredig o'r ysgol. Gall yr awdurdod lleol ddarparu cyngor a chymorth mewn perthynas â phenodiadau arbenigol yn ôl yr angen.
Byddai'r awdurdod lleol yn parhau i weithio gydag arweinyddiaeth yr ysgol i sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau yn glir. Byddai'n cefnogi'r ysgol i gael perthynas dda â rhieni a phartneriaid eraill fel bod disgyblion yn derbyn addysg o ansawdd uchel ac yn gwneud cynnydd da.
Byddai'r newidiadau arfaethedig yn cael eu cynllunio'n ofalus fel nad amharir ar arweinyddiaeth a llywodraethu'r ysgol. Nod hyn yw lleihau'r tarfu ar weithgarwch ehangach yr ysgol yn ystod y cyfnod sefydlu.
Effaith y Cynnig
Bydd yr ysgol yn cadw STF a fydd yn golygu y cedwir y manteision o gael STF mewn ysgol.
Os cytunir arnynt, bydd y newidiadau arfaethedig yn creu lle yn yr ysgol i gynorthwyo disgyblion prif ffrwd.
Ni fydd disgwyl i unrhyw ddysgwr symud ysgol o ganlyniad i'r cynigion ac ni fydd yr STF yn cau nes bydd y dysgwr olaf wedi gadael.
Bydd llai o draffig ar safle'r ysgol oherwydd bod llai o ddisgyblion yn derbyn cludiant o'r cartref i'r ysgol.
Bydd yr effaith ar staff yn cael ei leihau lle bynnag y bo modd fel yr amlinellir yn yr adran staffio.
Adran 4: Effaith ar ddisgyblion
Cynnig 1: Ailddynodi STF ASD
Mae dileu'r angen am ddiagnosis yn rhoi mwy o hyblygrwydd i leoli disgyblion a allai fod ar restrau aros hir, a/neu sy'n cyflwyno ymddygiadau annodweddiadol niwroamrywiol sylweddol.
Cynnig 2 - Cau'r STF MLD
Cynigir y bydd yr STF MLD yn ysgol gyfun Gellifedw yn dod i ben erbyn mis Awst 2029. Ni fydd y cynnig hwn yn effeithio'n andwyol ar unrhyw ddisgybl sydd wedi'i leoli yn STF MLD Gellifedw ar hyn o bryd. Bydd cynnig pendant iddynt barhau â'u haddysg yn eu lleoliad presennol nes iddynt adael yr ysgol ar ddiwedd Blwyddyn 11.
Wrth i'r disgyblion weithio eu ffordd drwy'r grwpiau blwyddyn, yr STF Cyfnod Allweddol 3 fydd y cyntaf i gau, gan ganiatáu i'r olaf o'r disgyblion gwblhau eu Blwyddyn 10 ac 11. Wedyn bydd STF Cyfnod Allweddol 4 yn cau ddwy flynedd ar ôl yr STF Cyfnod Allweddol 3 ac unwaith y bydd pob disgybl wedi gadael.
Adran 5: Effaith ar staffio
Cynnig 1: Ailddynodi STF ASD
Ni fydd unrhyw effaith ar staffio o ganlyniad i'r cynigion i ailddynodi. Gall niferoedd staffio amrywio ar sail ein hadolygiad blynyddol o leoedd cynlluniedig, ond byddai hyn yn digwydd beth bynnag fydd canlyniad y cynigion hyn, yn rhan o'r gofyniad i adolygu lleoedd sydd wedi'u cynllunio'n flynyddol.
Cynnig 2 - Cau'r STF MLD
Mae'r newidiadau a gynigir yn debygol o gael rhywfaint o effaith ar staffio, gan gynnwys diswyddiadau posibl gan fod hwn yn gynnig i gau STF.
Bydd proses ymgynghori briodol yn cael ei chynnal gyda'r holl weithwyr a chynrychiolwyr undebau llafur mewn perthynas ag unrhyw ailstrwythuro staff sy'n deillio o hynny.
Ceisir cytundeb gan gyrff llywodraethu i gymhwyso'r polisi adleoli canolog (sydd mewn grym ar y pryd) i staff y mae'r cynigion hyn yn effeithio arnynt.
Adran 6: Effaith ar gyllideb a chapasiti'r ysgol
Capasiti'r Ysgol | 791 |
---|---|
Nifer Derbyn yr Ysgol | 158 |
Darpariaeth STF | Anawsterau Dysgu Cymedrol i Ddifrifol (2 ddosbarth) |
Band | E (Anawsterau Dysgu Cymedrol i Ddifrifol) F (STF Anhwylder Sbectrwm Awtistig) G (STF Anawsterau Ymddygiadol Emosiynol Cymdeithasol) |
Dyraniad Cyllideb STF * | £764,004.72 |
*Gweler Atodiad E 'Goblygiadau Ariannol' am wybodaeth lawn am y fformiwla ariannu a'r cyfrifiadau cyllideb a ragwelir
Capasiti'r Ysgol | 791 |
---|---|
Nifer Derbyn yr Ysgol | 158 |
Darpariaeth STF | Cau'r STF MSLD STF Cyfathrebu Cymdeithasol gydag Anawsterau Dysgu (3 dosbarth) |
Band | Amh F (STF Cyfathrebu Cymdeithasol gydag Anawsterau Dysgu) |
Dyraniad Cyllideb STF * | £501,602 |
*Gweler Atodiad E 'Goblygiadau Ariannol' am wybodaeth lawn am y fformiwla ariannu a'r cyfrifiadau cyllideb a ragwelir
Adran 7: Heriau, mesurau lliniaru a manteision:
Cynnig 1: Ailddynodi STF ASD
Heriau:
Mae dileu'r angen am ddiagnosis yn heriol ar gyfer penderfynu ar leoliad, ac felly bydd angen prosesau lleoli cadarn gyda'r strategaeth hon yn cael ei chyfleu'n glir i'r holl randdeiliaid, gan gynnwys rhieni. Mae disgybl sy'n gweithredu mewn ystafell ddosbarth/ysgol ynghyd â'r gallu i gyfathrebu ac ymddwyn yn briodol yn ffactorau allweddol sy'n cael eu hystyried wrth ystyried lleoliadau arbenigol.
Mesurau lliniaru:
Bydd STFs sydd wedi'u hailddynodi ar draws ysgolion uwchradd Abertawe i adlewyrchu darpariaeth debyg i Gellifedw, yn darparu darpariaeth arbenigol mewn ardaloedd eraill yn Abertawe gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn parhau i gael eu haddysgu yn eu cymunedau.
Manteision:
Mae'r cynnig hwn yn hyrwyddo cymunedau ysgol cynhwysol. Mae Cyngor Abertawe ac ysgolion Abertawe yn dathlu amrywiaeth ac mae gan unrhyw ysgol sy'n cynnal STF rôl allweddol wrth hyrwyddo'r dull hwn. Credwn fod pob dysgwr yn elwa o ddysgu mewn amgylcheddau cynhwysol ac amrywiol lle mae gwahaniaethau'n cael eu dathlu. Mae athrawon a darpariaethau arbenigol yn ategu'r dull hwn.
Cynnig 2 - Cau'r STF MLD
Heriau:
Potensial ar gyfer diswyddiadau staff a'r risg o golli staff arbenigol profiadol yn ystod y cyfnod pontio. Os bydd staff yn gadael cyn i'r STF gau, efallai y bydd her o ran sicrhau athrawon a Chynorthwywyr Addysgu sydd â phrofiad priodol i gymryd lle'r rhai sydd wedi gadael.
Mesurau lliniaru:
Bydd STFs sydd wedi'u hailddynodi ar draws ysgolion uwchradd Abertawe i adlewyrchu'r ddarpariaeth debyg i Gellifedw, yn darparu darpariaeth arbenigol mewn ardaloedd eraill yn Abertawe gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn parhau i gael eu haddysgu yn eu cymunedau.
Manteision:
Bydd yr ysgol yn elwa o gael lle ychwanegol i ddisgyblion prif ffrwd, gan gefnogi'r galw am dderbyniadau prif ffrwd.
Adran 8: Manylebau STF:
Derbyniadau | Panel yr ALl yw'r awdurdod derbyn. |
---|---|
Cyllid | Dylai'r STF fod yn gost-niwtral i'r ysgol sy'n ei gynnal. |
CDUau | CDUau yn dod yn rhai a gynhelir gan yr ALl (cymorth gan staff STF). |
Hyfforddiant | Dewislen hyfforddiant / rhwydwaith STF / allgymorth Penybryn / pwrpasol |
Cymorth | Gweithwyr achos ADY / athrawon arbenigol / arbenigwyr perfformiad / Seicolegwyr Addysg |
Cludiant | Parheir i wneud trefniadau cludiant yn unol â pholisi cludiant o'r cartref i'r ysgol Cyngor Abertawe |
Angen gwaith cyfalaf? | Na fydd. |
Adran 9: Gofyniad Hysbysiad Statudol
Os bydd y Cabinet yn penderfynu bwrw ymlaen â'r cynnig hwn ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd y Cyngor yn cyhoeddi Hysbysiad Statudol, a fydd yn gwahodd unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu, i wneud hynny yn ysgrifenedig o fewn cyfnod o 28 diwrnod. Os derbynnir gwrthwynebiadau, bydd adroddiad gwrthwynebu'n cael ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Abertawe. Bydd copïau caled o'r adroddiad hefyd ar gael ar gais. Bydd yr adroddiad yn crynhoi'r materion a godwyd ac yn darparu ymateb Cyngor Abertawe i'r gwrthwynebiadau hynny.
Adran 10: Dyddiad gweithredu arfaethedig:
Cynnig 1: Ailddynodi STF ASD
Medi 2025
Cynnig 2 - Cau'r STF MLD
31 Awst 2029