Toglo gwelededd dewislen symudol

Atodiad A - Ysgolion y mae'r cynnig hwn yn effeithio arnynt: Ysgol Gyfun yr Esgob Gore

Adran 1: Newid/datblygiad STF arfaethedig

Adran 2: Data cyd-destunol yr ysgol

Adran 3: Gwerthusiad o'r trefniadau presennol

Adran 4: Effaith ar ddisgyblion

Adran 5: Effaith ar staffio

Adran 6: Effaith ar gyllideb a chapasiti'r ysgol

Adran 7: Heriau, mesurau lliniaru a manteision

Adran 8: Manylebau STF

Adran 9: Hysbysiad Statudol

Adran 10: Dyddiad gweithredu arfaethedig

 

Adran 1: Newid/datblygiad STF arfaethedig 

Y cynnig hwn yw ailddynodi STF 'Anawsterau Dysgu Cymedrol i Ddifrifol' i STF 'Cyfathrebu Cymdeithasol gydag Anawsterau Dysgu'.

Adran 2: Data cyd-destunol yr ysgol:

Data cyd-destunol yr ysgol
Lleoliad yr YsgolHeol De-La-Beche, Sgeti
SirAbertawe
Ystod oedran11-18
Categori'r YsgolYsgol Gyfun Gymunedol
Cyfrwng IaithSaesneg
Capasiti (ac eithrio'r Meithrin a'r STF)1479
Lleoedd STF a Gynlluniwyd24
Cost fesul disgybl 24-25£4,635
Cyllideb yr Ysgol 24-25£7,603,414
Adroddiad diweddaraf Estyn29/06/2023 https://www.estyn.gov.wales/provider/6704044 
Categoreiddiad Cyflwr yr AdeiladauC+
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - 11-161157
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Ôl 16164
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Cyfanswm1321

 

Cyfanswm y disgyblion ar y gofrestr yn ystod y 5 mlynedd diwethaf (data PLASC)
Ionawr 20191246
Ionawr 20201242
Ionawr 20211232
Ionawr 20221279
Ionawr 20231295
Ionawr 20241321

 

Rhagfynegiadau Disgyblion
Ionawr 20251308
Ionawr 20261329
Ionawr 20271323
Ionawr 20281318
Ionawr 20291295

Adran 3: Gwerthusiad o'r trefniadau presennol

Ansawdd a Safonau mewn Addysg

Mae Ysgol yr Esgob Gore yn ysgol amrywiol a chynhwysol lle mae llesiant disgyblion a staff wrth wraidd ei gwaith. Mae arweinwyr yn unedig eu penderfyniad i gadw pawb yn ddiogel ac i helpu pob disgybl, beth bynnag fo'u cefndir, i lwyddo.

Mae perthnasoedd gwaith cryf rhwng athrawon a disgyblion yn sail i addysgu a dysgu effeithiol yn Ysgol yr Esgob Gore. Mae ffocws pwrpasol ar ddatblygu ansawdd yr addysgu ar draws y cwricwlwm. Yn gyffredinol, mae athrawon yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu priodol i sicrhau bod llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd diogel. Er enghraifft, maent yn esbonio cysyniadau newydd yn glir ac yn gwirio pa mor dda y mae disgyblion wedi eu deall gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu cyn symud ymlaen gyda'r dysgu. Lle mae'r addysgu'n arbennig o effeithiol, mae athrawon yn cynllunio gweithgareddau deniadol sy'n datblygu gwybodaeth a sgiliau pwnc disgyblion yn dda.

Mae cwricwlwm yr ysgol yn diwallu anghenion bron pob disgybl sydd â mynediad at ystod eang o gyrsiau. Mae ei chwricwlwm yn adlewyrchu natur amrywiol yr ysgol. Mae'r ysgol wedi gwneud cynnydd da wrth weithredu'r Cwricwlwm i Gymru, gan ganolbwyntio ar sgiliau a gwybodaeth bwnc. Mae hyn yn cynnwys darparu profiadau dysgu sy'n cyd-fynd ag anghenion a dyheadau disgyblion. Mae nifer o gyfleoedd i ddisgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, yn enwedig yn y celfyddydau perfformio.

Mae'r pennaeth yn glir ynghylch y cyfeiriad y mae hi am fynd â'r ysgol ac mae'r weledigaeth hon wedi ei deall a'i rhannu gan yr holl staff. Mae hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer trefniadau gwella yn canolbwyntio'n ddiogel ar y nod hwn. Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu proffesiynol yn cefnogi staff i gyflawni blaenoriaethau strategol yr ysgol. Mae'r ysgol wedi gwneud cynnydd o ran newid dulliau o addysgu a dysgu. Mae staff yn gweithio ar y cyd ac yn frwdfrydig i wella eu harferion.  

Profiadau Dysgu ac Addysgu

Does dim disgwyl i'r cynnig gael unrhyw effaith negyddol ar brofiadau addysgu a dysgu yn yr ysgol. Trefnir cyfleusterau addysgu arbenigol i ddarparu ystod o raglenni addysgu unigol i gefnogi cynnydd dysgwyr. Bydd llawer o'r dysgwyr yn profi ystod o anawsterau cysylltiedig megis oedi o ran llythrennedd a rhifedd, iaith lleferydd a chyfathrebu, rheoleiddio synhwyraidd ac emosiynol. Mae'r ysgol yn sicrhau bod gan staff a gyflogir yn y lleoliad sgiliau a phrofiad priodol i gefnogi dysgwyr orau. Mae'r lleoliadau'n darparu ar gyfer dysgu dosbarthiadau bach wedi'i deilwra ar gyfer anghenion dysgu'r disgyblion, gan gynnwys ymyriadau i gefnogi llythrennedd a rhifedd, iaith lleferydd a chyfathrebu.

Byddai'r cyfle i gyflogi staff arbenigol a gweithio'n agosach gyda gwasanaethau arbenigol yn Abertawe yn gwella capasiti'r ysgol ar gyfer cynhwysiant ac o fudd i bob disgybl yn yr ysgol.

Gofal, cymorth ac arweiniad

Mae gan bob ysgol ystod briodol o bolisïau a darpariaeth ar waith i hyrwyddo iechyd a llesiant disgyblion.  Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd lle mae dysgu'n cael ei werthfawrogi ac mae disgyblion yn cyflawni eu potensial mewn amgylchedd hapus a diogel lle maen nhw'n dangos parch a goddefgarwch tuag at ei gilydd.  Mae'r awdurdod lleol yn rheoli derbyniadau i'r cyfleuster addysgu arbenigol. Bydd gan bob dysgwr Gynllun Datblygu Unigol (CDU) sy'n ddogfen statudol ac sy'n nodi'r hyn sy'n 'bwysig i' ac 'yn bwysig ar gyfer' y plentyn neu'r person ifanc, y canlyniadau a ddymunir a'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd i'w gweithredu er mwyn cyflawni'r canlyniadau. 

Byddai'r awdurdod lleol yn gweithio gydag arweinyddiaeth yr ysgol i sicrhau bod pawb yn deall eu cyfrifoldeb dros helpu i wella a chynnal cymorth gofal ac arweiniad. 

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Mae arweinyddiaeth a rheolaeth y cyfleusterau addysgu arbenigol wedi eu dirprwyo i ysgolion. Cyrff llywodraethu sy'n pennu'r model rheoli mwyaf priodol ar gyfer y cyfleuster, yn unol â dull arwain a rheoli'r ysgol i sicrhau bod y cyfleuster yn rhan gwbl integredig o'r ysgol. Gall yr awdurdod lleol ddarparu cyngor a chymorth mewn perthynas â phenodiadau arbenigol yn ôl yr angen. 

Byddai'r awdurdod lleol yn parhau i weithio gydag arweinyddiaeth yr ysgol i sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau yn glir. Byddai'n cefnogi'r ysgol i gael perthynas dda â rhieni a phartneriaid eraill fel bod disgyblion yn derbyn addysg o ansawdd uchel ac yn gwneud cynnydd da.

Byddai'r newidiadau arfaethedig yn cael eu cynllunio'n ofalus fel nad amharir ar arweinyddiaeth a llywodraethu'r ysgol. Nod hyn yw lleihau'r tarfu ar weithgarwch ehangach yr ysgol yn ystod y cyfnod sefydlu.  

Effaith y Cynnig

Mae'n annhebygol y bydd y cynnig yn cael effaith sylweddol ar yr ysgol gan fod y newid mewn dynodiad yn adlewyrchu angen presennol a rhagfynegedig dysgwyr sy'n mynychu'r STF. Efallai y bydd angen hyfforddiant a datblygiad rhai staff a bydd yr awdurdod lleol yn gallu cefnogi gyda hyn. 

Adran 4: Effaith ar ddisgyblion

Mae'r twf mewn ASD a'r disgyblion sy'n cyflwyno meddwl ac ymddygiad niwroamrywiol wedi cynyddu'n sylweddol dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Dyna'r darlun ar lefel genedlaethol a byd-eang ac nid yw'n unigryw i Abertawe.

Mae'r cynnig hwn yn ceisio cydnabod nifer cynyddol y plant a phobl ifanc y mae angen darpariaeth arbenigol arnynt yn ein hysgolion yn Abertawe, i ddiwallu eu hanghenion dysgu ychwanegol.

Sefydlwyd STF yr Esgob Gore i gefnogi disgyblion sydd ag anghenion dysgu cymedrol i ddifrifol. Mae'r rhan fwyaf o STFs sydd wedi'u dynodi'n debyg bellach yn darparu ar gyfer disgyblion niwroamrywiol sydd hefyd ag anawsterau dysgu. Ar hyn o bryd yn STF yr Esgob Gore mae 7 disgybl â diagnosis ASD a 2 ddisgybl ar y llwybr niwroddatblygiadol (h.y. 37.5% o gyfanswm y garfan).

Ni fydd y cynnig hwn yn effeithio'n andwyol ar unrhyw ddisgybl sy'n mynychu STF yr Esgob Gore ar hyn o bryd. Ni fydd disgwyl iddynt symud yr ysgol a gallant barhau yn yr Esgob Gore nes iddynt adael blwyddyn 11. 

Adran 5: Effaith ar staffio

Bydd y rhan fwyaf o staff eisoes wedi cael profiad o weithio gyda disgyblion sydd ag awtistiaeth neu sy'n niwro-amrywiol. Cynigir hyfforddiant i uwchsgilio staff. Gall niferoedd staffio amrywio ar sail ein hadolygiad blynyddol o leoedd cynlluniedig ond byddai hyn yn digwydd beth bynnag fydd canlyniad y cynigion hyn, yn rhan o'r gofyniad i adolygu lleoedd sydd wedi'u cynllunio bob blwyddyn.   

Adran 6: Effaith ar gyllideb a chapasiti'r ysgol

Darpariaeth Gyfredol
Capasiti'r Ysgol1479
Nifer Derbyn yr Ysgol255
Darpariaeth STFSTF Anawsterau Dysgu Cymedrol i Ddifrifol (2 ddosbarth)
BandE
Dyraniad Cyllideb STF *£340,051.44

*Gweler Atodiad E 'Goblygiadau Ariannol' am wybodaeth lawn am y fformiwla ariannu a'r cyfrifiadau cyllideb a ragwelir.

Darpariaeth Arfaethedig
Capasiti'r Ysgol1479
Nifer Derbyn yr Ysgol255
Darpariaeth STFSTF Cyfathrebu Cymdeithasol gydag Anawsterau Dysgu (2 ddosbarth)
BandF
Dyraniad Cyllideb STF *£419,407

*Gweler Atodiad E 'Goblygiadau Ariannol' am wybodaeth lawn am y fformiwla ariannu a'r cyfrifiadau cyllideb a ragwelir.

Adran 7: Heriau, mesurau lliniaru a manteision:

Heriau:           

Mae dileu'r angen am ddiagnosis yn heriol ar gyfer penderfynu ar leoliad, ac felly bydd angen prosesau lleoli cadarn gyda'r strategaeth hon yn cael ei chyfleu'n glir i'r holl randdeiliaid, gan gynnwys rhieni. Mae disgybl sy'n gweithredu o fewn ystafell ddosbarth/ysgol ynghyd â'r gallu i gyfathrebu ac ymddwyn yn briodol yn ffactorau sy'n cael eu hystyried wrth ystyried lleoliadau arbenigol.

Efallai y bydd angen darparu hyfforddiant cyn y gall y ddarpariaeth agor.

Efallai y bydd angen mwy o amser ar y disgyblion newydd a dderbynnir i'r STF yn yr ystafell ddosbarth, yn hytrach na threulio amser yn y brif ffrwd.

Mesurau lliniaru:     

Cyflwynir y newid yn y ddarpariaeth yn raddol ac ni fydd unrhyw darfu ar addysg y dysgwr.

Ni fydd gofyn i unrhyw blentyn symud i'r ddarpariaeth newydd os yw'n derbyn addysg yn rhywle arall ar hyn o bryd.

Mae gan yr awdurdod lleol brosesau panel cadarn i gytuno ar leoliad a fydd yn cael eu hadolygu ymhellach unwaith y bydd yr angen am ddiagnosis ffurfiol wedi ei ddileu.

Bydd cyfathrebu parhaus, gofalus a chyson â rhanddeiliaid.

Mae gan yr ALl ddewislen hyfforddi helaeth a gall gynnig cymorth pwrpasol i'r ysgol hefyd er mwyn hyfforddi staff newydd. Mae gennym ni ddisgwyliad bod hyfforddiant o ansawdd uchel yn parhau.  

Manteision:     

Mae'r cynnig hwn yn hyrwyddo cymunedau ysgol cynhwysol. Mae Cyngor Abertawe ac ysgolion Abertawe yn dathlu amrywiaeth ac mae gan unrhyw ysgol sy'n cynnal STF rôl allweddol wrth hyrwyddo'r dull hwn. Credwn fod pob dysgwr yn elwa o ddysgu mewn amgylcheddau cynhwysol ac amrywiol lle mae gwahaniaethau'n cael eu dathlu. Mae athrawon a darpariaethau arbenigol yn ategu'r dull hwn. 

Adran 8: Manylebau STF:

Manylebau STF
DerbyniadauPanel yr ALl yw'r awdurdod derbyn.
CyllidDylai'r STF fod yn gost-niwtral i'r ysgol sy'n ei gynnal.
CDUauCDUau yn dod yn rhai a gynhelir gan yr ALl (cymorth gan staff STF).
HyfforddiantDewislen hyfforddiant / rhwydwaith STF / allgymorth Penybryn / pwrpasol
CymorthGweithwyr achos ADY / athrawon arbenigol / arbenigwyr perfformiad / Seicolegwyr Addysg
CludiantParheir i wneud trefniadau cludiant yn unol â pholisi cludiant o'r cartref i'r ysgol Cyngor Abertawe
Angen gwaith cyfalaf?Na fydd

Adran 9: Gofyniad Hysbysiad Statudol

Os bydd y Cabinet yn penderfynu bwrw ymlaen â'r cynnig hwn ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd y Cyngor yn cyhoeddi Hysbysiad Statudol, a fydd yn gwahodd unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu, i wneud hynny yn ysgrifenedig o fewn cyfnod o 28 diwrnod. Os derbynnir gwrthwynebiadau, bydd adroddiad gwrthwynebu'n cael ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Abertawe. Bydd copïau caled o'r adroddiad hefyd ar gael ar gais. Bydd yr adroddiad yn crynhoi'r materion a godwyd ac yn darparu ymateb Cyngor Abertawe i'r gwrthwynebiadau hynny. 

Adran 10: Dyddiad gweithredu arfaethedig: 

Medi 2025

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Medi 2024