Toglo gwelededd dewislen symudol

Atodiad A - Ysgolion y mae'r cynnig hwn yn effeithio arnynt: Ysgol Gyfun Dylan Thomas

Adran 1: Newid / datblygiad STF arfaethedig

Adran 2: Data cyd-destunol yr ysgol

Adran 3: Gwerthusiad o'r trefniadau presennol

Adran 4: Effaith ar ddisgyblion

Adran 5: Effaith ar staffio

Adran 6: Effaith ar gyllideb a chapasiti'r ysgol

Adran 7: Heriau, mesurau lliniaru a manteision

Adran 8: Manylebau STF

Adran 9: Hysbysiad Statudol

Adran 10: Dyddiad gweithredu arfaethedig

 

Adran 1: Newid / datblygiad STF arfaethedig 

Cynnig 1 - Aiddynodi STF ASD

Y cynnig hwn yw ailddynodi STF 'Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig' yn STF 'Cyfathrebu Cymdeithasol gydag Anawsterau Dysgu'.

Cynnig 2 - Ailddynodi STF MSLD

Y cynnig hwn yw ailddynodi STF 'Anawsterau Dysgu Cymedrol i Ddifrifol' yn STF 'Anawsterau Dysgu Difrifol'.

Adran 2: Data cyd-destunol yr ysgol: 

Data cyd-destunol yr ysgol
Lleoliad yr ysgolStryd John, Cocyd
SirAbertawe
Ystod oedran11-16
Categori ysgolYsgol Gyfun Gymunedol
Cyfrwng iaithSaesneg
Capasiti (ac eithrio'r Meithrin a'r STF)738
Lleoedd STF a Gynlluniwyd44
Cost fesul disgybl 24-25£4,635
Cyllideb yr Ysgol 24-25£4,803,581
Adroddiad diweddaraf Estyn10/04/2024  https://www.estyn.llyw.cymru/darparwyr/dylan-thomas-community-school-cy/
Categoreiddiad Cyflwr yr AdeiladauC
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - 11-16698
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Ôl 16n/a
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Cyfanswm698

 

Cyfanswm y disgyblion ar y gofrestr yn ystod y 5 mlynedd diwethaf (data PLASC)
Ionawr 2019482
Ionawr 2020532
Ionawr 2021580
Ionawr 2020585
Ionawr 2023652
Ionawr 2024698

 

Rhagfynegiadau disgyblion
Ionawr 2025691
Ionawr 2026689
Ionawr 2027703
Ionawr 2028699
Ionawr 2029675

Adran 3: Gwerthusiad o'r trefniadau presennol

Ansawdd a safonau mewn addysg

Mae'r Pennaeth yn gwneud datblygu arweinyddiaeth ar bob lefel yn flaenoriaeth ers ei benodi yn 2018.  Mae'r rhaglen hon yn llwyddiannus wrth ddatblygu arweinwyr ar bob lefel i sicrhau bod staff yn gwybod am gryfderau a meysydd i'w datblygu.

Mae diwylliant o ddisgwyliad uchel, sydd wedi ei rannu ar draws yr ysgol. Mae'r pennaeth yn fodel rôl cadarnhaol i'r tîm arweinyddiaeth a chymuned yr ysgol ac mae ei weledigaeth glir mewn arweinyddiaeth yn sail i'r berthynas gadarnhaol iawn sy'n amlwg yn yr ysgol.

Mae uwch arweinwyr yn datblygu'n dda yn dîm ymroddedig sy'n cydweithio'n dda. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar wella ymgysylltu, safonau, canlyniadau a llesiant.  Mae'r pennaeth yn gweithredu'n hyfforddwr a model rôl effeithiol i'w dîm arweinyddiaeth yn enwedig y rhai sydd newydd eu penodi.

Mae'r ysgol yn rhannu ei blaenoriaethau ysgol gyfan yn dda. Mae'r pum blaenoriaeth gyffredinol yn deillio, yn bennaf, o fwriad moesol cryf yr uwch arweinwyr a'r awydd i wella. Mae'r blaenoriaethau yn cael eu hegluro'n dda gan esboniadau pam eu bod yn bwysig, ac yn fras sut bydd llwyddiant yn edrych.

Mae cynlluniau adrannau'n nodi agwedd ar waith yr ysgol ac yn adlewyrchu blaenoriaethau cenedlaethol. Yn fwy diweddar mae grwpiau ffocws staff yn dechrau dylanwadu ar weithdrefnau cynllunio datblygu.

Mae gan lawer o arweinwyr canol ddealltwriaeth addas o'r cryfderau cyffredinol a'r blaenoriaethau gwella yn eu meysydd cyfrifoldeb ac maent yn gwneud defnydd addas o'r data cynnydd a ddarperir gan uwch arweinwyr. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth iddynt o ganlyniadau disgyblion, gan gynnwys y rhai sydd mewn perygl o dangyflawni.

Mae staff yn elwa o raglen ddysgu broffesiynol eang. Mae aelodau unigol o staff wedi eu cefnogi gan gydweithwyr Partneriaeth. Yn yr ysgol, mae HMS yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i gynllunio a rhannu arfer effeithiol. Mae datblygiadau cymheiriaid o ysgol i ysgol yn cefnogi'r dysgu proffesiynol ar gyfer y staff hynny sy'n gysylltiedig. Mae wedi dechrau cefnogi datblygiad ambell agwedd ar addysgu megis holi ac adborth.

Mae arweinwyr yn darparu cyfleoedd defnyddiol i staff ar bob lefel rannu arfer effeithiol ac mae hyn yn dechrau creu diwylliant myfyriol ar draws yr ysgol.

Mae'r trefniadau ar gyfer rheoli perfformiad staff yn addas ac yn cysylltu'n briodol â chynnig dysgu proffesiynol yr ysgol. Mae'r cynnig hwn yn cael ei lywio gan flaenoriaethau gwella a nodwyd gan yr ysgol a chan flaenoriaethau cenedlaethol. Er enghraifft, cefnogir athrawon ac arweinwyr canol yn addas i gyflawni eu targedau unigol trwy fodel yr ysgol. Mae'r model hwn yn caniatáu i gymheiriaid fyfyrio gyda'i gilydd yn ystyrlon ar yr hyn y mae angen ei wella yn eu meysydd cyfrifoldeb eu hunain, ac i nodi dulliau posibl o ddatblygu arferion.

Profiadau dysgu ac addysg

Does dim disgwyl i'r cynnig gael unrhyw effaith negyddol ar brofiadau addysgu a dysgu yn yr ysgol. Trefnir cyfleusterau addysgu arbenigol i ddarparu ystod o raglenni addysgu unigol i gefnogi cynnydd dysgwyr. Bydd llawer o'r dysgwyr yn profi ystod o anawsterau cysylltiedig megis oedi o ran llythrennedd a rhifedd, iaith lleferydd a chyfathrebu, rheoleiddio synhwyraidd ac emosiynol. Mae'r ysgol yn sicrhau bod gan staff a gyflogir yn y lleoliad sgiliau a phrofiad priodol i gefnogi dysgwyr orau. Mae'r lleoliadau'n darparu dysgu dosbarth bach wedi'i deilwra i anghenion dysgu'r disgyblion, gan gynnwys ymyriadau i gefnogi llythrennedd a rhifedd, iaith lleferydd a chyfathrebu.

Byddai'r cyfle i gyflogi staff arbenigol a gweithio'n agosach gyda gwasanaethau arbenigol yn Abertawe yn gwella capasiti'r ysgol ar gyfer cynhwysiant ac o fudd i bob disgybl yn yr ysgol.

Arolygodd Estyn yr ysgol ym  mis Chwefror 2024 a chanfod y canlynol:

Mae staff Ysgol Gymunedol Dylan Thomas yn cynnig cymorth gofal ac arweiniad o ansawdd uchel i ddisgyblion yn gyson. Mae gan yr ysgol deimlad cynhwysol, teuluol ac mae perthnasoedd gwaith cryf rhwng disgyblion a staff. Mae disgyblion yn deall rheolau'r ysgol yn dda, ac mae ymddygiad mewn gwersi ac o amgylch yr ysgol yn dda ar y cyfan. Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn mwynhau dod i'r ysgol ac yn teimlo eu bod nhw'n cael cymorth dda. Mae arweinwyr yn sicrhau bod gan bob disgybl, beth bynnag fo'u cefndir, fynediad at brofiadau diwylliannol ac addysgol buddiol.

Mae uwch arweinwyr yn angerddol am roi'r cyfle gorau posibl i ddisgyblion mewn bywyd. Maent yn sicrhau bod disgyblion yn cael cyfleoedd buddiol i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o brofiadau diwylliannol, chwaraeon ac academaidd. Un o gryfderau nodedig yr ysgol yw'r ffordd y mae staff yn datblygu dealltwriaeth disgyblion o'r Gymraeg a diwylliant Cymru. Mae'r ysgol yn cynnig ystod eang o ddewisiadau pwnc i ddisgyblion ym Mlwyddyn 10 ac 11. Fodd bynnag, mae gwaith yr ysgol i ddatblygu ei chwricwlwm gan gynnwys sicrhau parhad o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7 gyda'i hysgolion cynradd partner ond megis dechrau.

Ar draws y cwricwlwm, nid yw'r staff yn sicrhau bod disgyblion yn datblygu eu sgiliau llythrennedd, yn enwedig darllen, a rhifedd yn ddigon da. Yn y mwyafrif o achosion, mae gan athrawon ddisgwyliadau addas o uchel o'r hyn y gall disgyblion ei gyflawni. Maent yn cynllunio gwersi difyr sy'n sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd diogel. Mewn lleiafrif o achosion, nid oes gan athrawon ddisgwyliadau digon uchel o ddisgyblion ac maent yn cynllunio gwersi sy'n eu cadw'n brysur ond nad ydynt yn sicrhau cynnydd.

Mae gan yr ysgol ddau gyfleuster addysgu arbenigol (STFs), un ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu cymedrol a sylweddol ac ail ar gyfer y rhai sydd ag awtistiaeth. Mae addysgu o ansawdd uchel yn gyson yn y STFs. O ganlyniad, mae disgyblion yn y cyfleusterau hyn yn gwneud llawer iawn o gynnydd yn eu sgiliau cymdeithasol ac academaidd.

Mae arweinwyr ar bob lefel yn cynnal ystod eang o weithgareddau hunanwerthuso. Mae cynllunio ar gyfer gwelliannau i lesiant disgyblion wedi bod yn llwyddiannus. Fodd bynnag, nid yw arweinwyr yn gwerthuso ansawdd yr addysgu yng ngoleuni ei effaith ar gynnydd disgyblion yn ddigon agos. O ganlyniad, nid oes ganddynt ddealltwriaeth ddigon manwl gywir o'r cryfderau a'r meysydd i'w gwella mewn addysgu.

Gofal, cymorth ac arweiniad

Mae gan bob ysgol ystod briodol o bolisïau a darpariaeth ar waith i hyrwyddo iechyd a llesiant disgyblion.  Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd lle mae dysgu'n cael ei werthfawrogi ac mae disgyblion yn cyflawni eu potensial mewn amgylchedd hapus a diogel lle maen nhw'n dangos parch a goddefgarwch tuag at ei gilydd.  Mae'r awdurdod lleol yn rheoli derbyniadau i'r cyfleuster addysgu arbenigol. Bydd gan bob dysgwr Gynllun Datblygu Unigol (CDU) sy'n ddogfen statudol ac sy'n nodi'r hyn sy'n 'bwysig i' ac 'yn bwysig ar gyfer' y plentyn neu'r person ifanc, y canlyniadau a ddymunir a'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd i'w gweithredu er mwyn cyflawni'r canlyniadau. 

Byddai'r awdurdod lleol yn gweithio gydag arweinyddiaeth yr ysgol i sicrhau bod pawb yn deall eu cyfrifoldeb dros helpu i wella a chynnal cymorth gofal ac arweiniad.

Arweinyddiaeth a rheolaeth

Mae arweinyddiaeth a rheolaeth y cyfleusterau addysgu arbenigol wedi eu dirprwyo i ysgolion. Cyrff llywodraethu sy'n pennu'r model rheoli mwyaf priodol ar gyfer y cyfleuster, yn unol â dull arwain a rheoli'r ysgol i sicrhau bod y cyfleuster yn rhan gwbl integredig o'r ysgol. Gall yr awdurdod lleol ddarparu cyngor a chymorth mewn perthynas â phenodiadau arbenigol yn ôl yr angen. 

Byddai'r awdurdod lleol yn parhau i weithio gydag arweinyddiaeth yr ysgol i sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau yn glir. Byddai'n cefnogi'r ysgol i gael perthynas dda â rhieni a phartneriaid eraill fel bod disgyblion yn derbyn addysg o ansawdd uchel ac yn gwneud cynnydd da.

Byddai'r newidiadau arfaethedig yn cael eu cynllunio'n ofalus fel nad amharir ar arweinyddiaeth a llywodraethu'r ysgol. Nod hyn yw lleihau'r tarfu ar weithgarwch ehangach yr ysgol yn ystod y cyfnod sefydlu.  

Effaith y cynnig

Mae'n annhebygol y bydd unrhyw effaith sylweddol ar yr ysgol mewn perthynas â'r cynnig hwn gan fod yr ailddynodi yn adlewyrchu proffil presennol dysgwyr.  

Adran 4: Effaith ar ddisgyblion

Cynnig 1 - Ailddynodi STF ASD

Dileu'r angen am ddiagnosis, Mae'n rhoi rhagor o hyblygrwydd i osod disgyblion a allai fod ar restrau aros hir, a/neu sy'n cyflwyno ymddygiadau annodweddiadol niwroamrywiol sylweddol. 

Cynnig 2 - Ailddynodi STF MSLD

Mae disgwyl i ddisgyblion sydd ag anhawster dysgu cymedrol gael eu rheoli o fewn lleoliad prif ffrwd trwy leoliadau ffurflenni a thechnegau addysgu gwahaniaethol. Bellach mae rhagor o ddisgyblion yn cyflwyno gydag anawsterau dysgu difrifol ac yn aml nid ydynt yn gallu cael mynediad at ddosbarthiadau prif ffrwd drwy gydol y dydd. Efallai y bydd ganddynt ddiagnosis o oedi datblygiadol cyffredinol, anawsterau corfforol neu feddygol, problemau prosesu synhwyraidd, neu heriau niwroddatblygiadol.

Cydnabyddir bod STF MLD Dylan Thomas yn darparu ar gyfer yr holl anableddau a diagnosis amrywiol hyn, a gellir gweld hyn yn eu carfan STF bresennol.

Mae'r cynnig i ailddynodi STF MLD Dylan Thomas i Anawsterau Dysgu Difrifol felly yn cadarnhau'r math o ddarpariaeth sydd eisoes ar waith.

Felly, ni fydd yr un disgybl yn cael ei effeithio gan y newid arfaethedig mewn enw.

Adran 5: Effaith ar staffio

Cynnig 1 - Ailddynodi STF ASD

Ni fydd unrhyw effaith ar staffio o ganlyniad i'r cynigion i ailddynodi. Gall niferoedd staffio amrywio ar sail ein hadolygiad blynyddol o leoedd a gynlluniwyd, ond byddai hyn yn digwydd beth bynnag fydd canlyniad y cynigion hyn, yn rhan o'r gofyniad i adolygu lleoedd sydd wedi'u cynllunio'n flynyddol.

Cynnig 2 - Ailddynodi STF MSLD

Nid oes unrhyw effaith ar staffio o ganlyniad i'r cynnig i ailddynodi'r STF. Gall niferoedd staffio amrywio ar sail ein hadolygiad blynyddol o leoedd cynlluniedig ond byddai hyn yn digwydd beth bynnag fydd canlyniad y cynigion hyn, yn rhan o'r gofyniad i adolygu'n flynyddol leoedd sydd wedi'u cynllunio.

Adran 6: Effaith ar gyllideb a chapasiti'r ysgol

Darpariaeth gyfredol
Capasiti'r ysgol738
Nifer derbyn yr ysgol148
Darpariaeth STF

STF Anawsterau Dysgu Cymedrol i Ddifrifol (2 ddosbarth)

STF Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (2 ddosbarth)

Band

E (Anawsterau Dysgu Cymedrol i Ddifrifol)

F (Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig)

Dyraniad Cyllideb STFNi fydd yr ailddynodi yn cael effaith ar ddyraniad cyllideb STF.

 

Darpariaeth arfaethedig
Capasiti'r Ysgol738
Nifer Derbyn yr Ysgol148
Darpariaeth STF

Anawsterau Dysgu Difrifol (2 Dosbarth)

STF Cyfathrebu Cymdeithasol gydag Anawsterau Dysgu (2 ddosbarth)

Band

E (Anawsterau Dysgu Difrifol)

F (Cyfathrebu Cymdeithasol gydag Anawsterau Dysgu

Dyraniad Cyllideb STFNi fydd yr ailddynodi yn cael effaith ar ddyraniad cyllideb STF

Adran 7: Heriau, mesurau lliniaru a manteision: 

Cynnig 1 - Ailddynodi STF ASD

Heriau:  

Mae dileu'r angen am ddiagnosis yn heriol ar gyfer penderfynu ar leoliad, ac felly bydd angen prosesau lleoli cadarn a'r strategaeth hon yn cael ei chyfleu'n glir i'r holl randdeiliaid, gan gynnwys rhieni. Mae disgybl sy'n gweithredu o fewn ystafell ddosbarth/ysgol ynghyd â'r gallu i gyfathrebu ac ymddwyn yn briodol yn ffactorau sy'n cael eu hystyried wrth ystyried lleoliadau arbenigol. 

Mesurau lliniaru:  

Mae gan yr awdurdod lleol brosesau panel cadarn i gytuno ar leoliad a fydd yn cael eu hadolygu ymhellach unwaith y bydd yr angen am ddiagnosis ffurfiol yn cael ei ddileu.

Bydd cyfathrebu parhaus, gofalus a chyson â rhanddeiliaid.

Manteision:          

Mae'r cynnig hwn yn hyrwyddo cymunedau ysgol cynhwysol. Mae Cyngor Abertawe ac ysgolion Abertawe yn dathlu amrywiaeth ac mae gan unrhyw ysgol sy'n cynnal STF rôl allweddol wrth hyrwyddo'r dull hwn. Credwn fod pob dysgwr yn elwa o ddysgu mewn amgylcheddau cynhwysol ac amrywiol lle mae gwahaniaethau'n cael eu dathlu. Mae athrawon a darpariaethau arbenigol yn ategu'r dull hwn. 

Cynnig 2 - Ailddynodi STF MSLD

Heriau:  

Ddim yn berthnasol gan y cynhelir y statws quo. 

Mesurau lliniaru: 

Ddim yn berthnasol gan y cynhelir y statws quo. 

Manteision:          

Mae'r cynnig hwn yn hyrwyddo cymunedau ysgol cynhwysol. Mae Cyngor Abertawe ac ysgolion Abertawe yn dathlu amrywiaeth ac mae gan unrhyw ysgol sy'n cynnal STF rôl allweddol wrth hyrwyddo'r dull hwn. Credwn fod pob dysgwr yn elwa o ddysgu mewn amgylcheddau cynhwysol ac amrywiol lle mae gwahaniaethau'n cael eu dathlu. Mae athrawon a darpariaethau arbenigol yn ategu'r dull hwn. 

Adran 8: Manylebau STF: 

Manylebau STF
DerbyniadauPanel yr ALI yw'r awdurdod derbyn
CyllidDylai'r STF fod yn gost-niwtral i'r ysgol sy'n ei gynnal
CDUauCDUau yn dod yn rhai a gynhelir gan yr ALl (cymorth gan staff STF).
HyfforddiantDewislen hyfforddiant / rhwydwaith STF / allgymorth Penybryn / pwrpasol
CymorthGweithwyr achos ADY / athrawon arbenigol / arbenigwyr perfformiad / Seicolegwyr Addysg
CludiantParheir i wneud trefniadau cludiant yn unol â pholisi cludiant o'r cartref i'r ysgol Cyngor Abertawe, a gellir dod o hyd i hyn drwy ddilyn y ddolen hon Cludiant i'r ysgol
Angen gwaith cyfalaf?Na fydd

Adran 9: Gofyniad hysbysiad statudol

Os bydd y Cabinet yn penderfynu bwrw ymlaen â'r cynnig hwn ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd y Cyngor yn cyhoeddi Hysbysiad Statudol, a fydd yn gwahodd unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu, i wneud hynny yn ysgrifenedig o fewn cyfnod o 28 diwrnod. Os derbynnir gwrthwynebiadau, bydd adroddiad gwrthwynebu'n cael ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Abertawe. Bydd copïau caled o'r adroddiad hefyd ar gael ar gais. Bydd yr adroddiad yn crynhoi'r materion a godwyd ac yn darparu ymateb Cyngor Abertawe i'r gwrthwynebiadau hynny.

Adran 10: Dyddiad gweithredu arfaethedig:

Medi 2025

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Medi 2024