Toglo gwelededd dewislen symudol

Atodiad A - Ysgolion y mae'r cynnig hwn yn effeithio arnynt: Ysgol Gyfun Tre-gŵyr

Adran 1: Newid / datblygiad STF arfaethedig

Adran 2: Data cyd-destunol yr ysgol

Adran 3: Gwerthusiad o'r trefniadau presennol

Adran 4: Effaith ar ddisgyblion

Adran 5: Effaith ar staffio

Adran 6: Effaith ar gyllideb a chapasiti'r ysgol

Adran 7: Heriau, mesurau lliniaru a manteision

Adran 8: Manylebau STF

Adran 9: Hysbysiad Statudol

Adran 10: Dyddiad gweithredu arfaethedig

 

Adran 1: Newid / datblygiad STF arfaethedig

Y cynnig hwn yw ailddynodi STF 'Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig' i STF 'Cyfathrebu Cymdeithasol gydag Anawsterau Dysgu'.

Adran 2: Data cyd-destunol yr ysgol: 

Data cyd-destunol yr ysgol
Lleoliad yr ysgolHeol Cecil, Tre-gŵyr
SirAbertawe
Ystod oedran11-18
Categori'r ysgolYsgol Gyfun Gymunedol
Cyfrwng iaithSaesneg
Capasiti (ac eithrio'r Meithrin a'r STF)1232
Lleoedd STF a Gynlluniwyd18
Cost fesul disgybl 24-25£4,635
Cyllideb yr Ysgol 24-25£6,530,838
Adroddiad diweddaraf Estyn12/05/2017 https://www.estyn.llyw.cymru/darparwyr/gowerton-school-cy/
Categoreiddiad Cyflwr yr AdeiladauC
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - 11-161047
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Ôl 16104
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Cyfanswm1151

 

Cyfanswm y disgyblion ar y gofrestr yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf (data PLASC)
Ionawr 20191163
Ionawr 20201200
Ionawr 20211210
Ionawr 20221191
Ionawr 20231181
Ionawr 20241151

 

Rhagfynegiadau disgyblion
Ionawr 20251153
Ionawr 20261150
Ionawr 20271141
Ionawr 20281107
Ionawr 20291080

Adran 3: Gwerthusiad o'r trefniadau presennol

Ansawdd a safonau mewn addysg

Mae gan yr ysgol weledigaeth glir sy'n cael ei rhannu â'r gymuned gyfan. Mae'r pedwar diben yn ganolog i'r weledigaeth ac ynghyd ag arwyddair yr ysgol sef 'Mi Ddylwn, Mi Allaf, Mi Fynnaf', mae'n annog y gymuned gyfan i ymdrechu'n barhaus i wella mewn amgylchedd diogel, gofalgar, cynhwysol. Gwelir effaith y weledigaeth hon ar draws holl feysydd gwaith yr ysgol ac o fewn y systemau a'r prosesau a fabwysiadir.

Mae'r ysgol yn gwneud defnydd da o'r model ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu (SLO) ac mae ganddo ddysgu proffesiynol amrywiol, helaeth ac wedi'i dargedu at yr holl staff. Mae'r dull hwn yn effeithiol iawn o ran grymuso staff i arloesi eu hymarfer er enghraifft o ran addysgu a dysgu, Mae neges gyson yr ysgol o 'Byddwch yn ddewr, yn chwilfrydig' wedi bod yn effeithiol wrth annog bron pob aelod o staff i fod yn arloesol. Mae'r defnydd o strategaethau megis EPIC (Ymgysylltu, Cynnydd, Annibyniaeth a Her) wedi arwain at ganlyniadau cryf iawn i ddisgyblion CA4. Mae'r ysgol yn parhau i weithio ar y newid meddylfryd sydd ei angen er mwyn i'r ysgol ffynnu fel sefydliad dysgu.

Mae'r ysgol wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran sicrhau bod disgyblion yn datblygu dealltwriaeth o'u cynnydd. Cyflawnwyd hyn drwy strategaethau megis defnyddio sticer disgwyliadau o flaen eu llyfr. Mae hyn yn galluogi disgyblion i ddeall pwysigrwydd addysgu a dysgu a dilyniant.

Mae partneriaethau hynod effeithiol sy'n cefnogi pontio dysgwyr.

Profiadau dysgu ac addysgu

Does dim disgwyl i'r cynnig gael unrhyw effaith negyddol ar brofiadau addysgu a dysgu yn yr ysgol.

Trefnir cyfleusterau addysgu arbenigol i ddarparu ystod o raglenni addysgu unigol i gefnogi cynnydd dysgwyr. Bydd llawer o'r dysgwyr yn profi ystod o anawsterau cysylltiedig megis o ran llythrennedd a rhifedd, iaith lleferydd a chyfathrebu, rheoleiddio synhwyraidd ac emosiynol. Mae'r ysgol yn sicrhau bod gan staff a gyflogir yn y lleoliad sgiliau a phrofiad priodol i gefnogi dysgwyr orau.

Mae'r lleoliadau'n darparu dysgu dosbarth bach wedi'i deilwra ar gyfer anghenion dysgu'r disgyblion, gan gynnwys ymyriadau i gefnogi llythrennedd a rhifedd, iaith lleferydd a chyfathrebu.

Byddai'r cyfle i gyflogi staff arbenigol a gweithio'n agosach gyda gwasanaethau arbenigol yn Abertawe yn gwella capasiti'r ysgol ar gyfer cynhwysiant ac o fudd i bob disgybl yn yr ysgol.

Arolygodd Estyn yr ysgol yn 2017 a chanfod y canlynol:

Mae arweinyddiaeth wedi llwyddo i sefydlu ethos hynod gefnogol a gofalgar lle mae disgyblion yn cael eu meithrin mewn amgylchedd diogel a hapus. Mae newidiadau diweddar i arweinyddiaeth a rheolaeth wedi eu rheoli'n effeithiol i gynnal rhediad esmwyth yr ysgol. At ei gilydd, mae'r ysgol yn darparu gofal, cymorth ac arweiniad rhagorol, sy'n paratoi disgyblion yn dda iawn i ddod yn ddinasyddion gweithredol a chymryd cyfrifoldebau bywyd yn oedolyn. Mae bron pob athro yn sefydlu perthynas waith gref, gadarnhaol a chynhyrchiol â'u disgyblion. Yn y rhan fwyaf o wersi, mae disgyblion yn cymryd rhan weithredol ac mewn llawer maent yn gwneud cynnydd cadarn. Mae safon ymddygiad disgyblion yn rhagorol. Mae safonau llesiant yn eithriadol ac yn cyfrannu'n sylweddol at y safonau uchel y mae disgyblion yn eu cyflawni erbyn diwedd cyfnod allweddol pedwar. 

Arolygodd Estyn
Maes arolyguDyfarniad
SafonauDa
Llesiant ac agweddau tuag at ddysguRhagorol
Profiadau dysgu ac addysguDa
Gofal, cymorth ac arweiniadRhagorol
Arweinyddiaeth a rheolaeth ddaDa

Gofal, cymorth ac arweiniad

Mae gan bob ysgol ystod briodol o bolisïau a darpariaeth ar waith i hyrwyddo iechyd a llesiant disgyblion.  Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd lle mae dysgu'n cael ei werthfawrogi ac mae disgyblion yn cyflawni eu potensial mewn amgylchedd hapus a diogel lle maen nhw'n dangos parch a goddefgarwch tuag at ei gilydd.  Mae'r awdurdod lleol yn rheoli derbyniadau i'r cyfleuster addysgu arbenigol. Bydd gan bob dysgwr Gynllun Datblygu Unigol (CDU) sy'n ddogfen statudol ac sy'n nodi'r hyn sy'n 'bwysig i' ac 'yn bwysig ar gyfer' y plentyn neu'r person ifanc, y canlyniadau a ddymunir a'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd i'w gweithredu er mwyn cyflawni'r canlyniadau. 

Byddai'r awdurdod lleol yn gweithio gydag arweinyddiaeth yr ysgol i sicrhau bod pawb yn deall eu cyfrifoldeb dros helpu i wella a chynnal cymorth gofal ac arweiniad.

Arweinyddiaeth a rheolaeth

Mae arweinyddiaeth a rheolaeth y cyfleusterau addysgu arbenigol wedi eu dirprwyo i ysgolion. Cyrff llywodraethu sy'n pennu'r model rheoli mwyaf priodol ar gyfer y cyfleuster, yn unol â dull arwain a rheoli'r ysgol i sicrhau bod y cyfleuster yn rhan gwbl integredig o'r ysgol. Gall yr awdurdod lleol ddarparu cyngor a chymorth mewn perthynas â phenodiadau arbenigol yn ôl yr angen. 

Byddai'r awdurdod lleol yn parhau i weithio gydag arweinyddiaeth yr ysgol i sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau yn glir. Byddai'n cefnogi'r ysgol i gael perthynas dda â rhieni a phartneriaid eraill fel bod disgyblion yn derbyn addysg o ansawdd uchel ac yn gwneud cynnydd da.

Byddai'r newidiadau arfaethedig yn cael eu cynllunio'n ofalus fel nad amharir ar arweinyddiaeth a llywodraethu'r ysgol. Nod hyn yw lleihau'r tarfu ar weithgarwch ehangach yr ysgol yn ystod y cyfnod sefydlu. 

Effaith y cynnig

Mae'n annhebygol y bydd effaith sylweddol. Efallai y bydd angen mwy o amser ar ddisgyblion ag anawsterau cyfathrebu cymdeithasol a dysgu yn yr ystafell ddosbarth STF yn hytrach na bod yn y brif ffrwd. Mae'r newid mewn dynodiad yn adlewyrchu angen presennol a rhagfynegedig dysgwyr sy'n mynychu'r STF. Efallai y bydd angen hyfforddiant a datblygiad ar rai aelodau staff a bydd yr awdurdod lleol yn gallu cefnogi gyda hyn.

Adran 4: Effaith ar ddisgyblion

Mae dileu'r angen am ddiagnosis o awtistiaeth er mwyn bod yn gymwys ar gyfer lleoliad STF, yn rhoi mwy o hyblygrwydd i leoli disgyblion a allai fod ar restrau aros hir, a/neu sy'n cyflwyno ymddygiadau annodweddiadol niwroamrywiol sylweddol.

Sefydlwyd Tre-gŵyr yn wreiddiol i ddarparu ar gyfer disgyblion ASD a oedd o allu gwybyddol cyfartalog i uwch, gan gynnwys y rhai a allai fod wedi cael diagnosis o Aspergers o'r blaen.

Yn gyffredinol, mae ysgolion bellach mewn sefyllfa well i ddiwallu anghenion y math penodol hwn o ddysgwr. Yn y gorffennol, roedd llawer o'r disgyblion STF yn Nhre-gŵyr yn gallu dilyn y brif ffrwd am ran helaeth o'r diwrnod ysgol gan olygu nad oedd yn bodloni'r diffiniad o gyfleuster addysgu arbenigol mewn gwirionedd. O dan y cynnig hwn, mae'n debygol y bydd ar ddisgyblion angen rhagor o amser yn y dosbarth STF i dderbyn yr addysgu a'r cymorth arbenigol y mae eu hangen arnynt.

Ni fydd y cynnig hwn yn effeithio'n andwyol ar unrhyw ddisgybl sy'n mynychu STF ASD Tre-gŵyr. Ni fydd disgwyl iddynt symud ysgol ac y gallant barhau yn Nhre-gŵyr nes iddynt adael blwyddyn 11.

Adran 5: Effaith ar staffio

Nid oes unrhyw effaith ar staffio o ganlyniad i'r cynnig i ailddynodi'r STF. Gall niferoedd staffio amrywio ar sail ein hadolygiad blynyddol o leoedd cynlluniedig ond byddai hyn yn digwydd beth bynnag fydd canlyniad y cynigion hyn, yn rhan o'r gofyniad i adolygu lleoedd sydd wedi'u cynllunio bob blwyddyn.  

Bydd gan bob aelod o staff eisoes brofiad o weithio gyda disgyblion ag awtistiaeth neu sy'n niwroamrywiol. Cynigir hyfforddiant i uwchsgilio staff.

Adran 6: Effaith ar gyllideb a chapasiti'r ysgol

Darpariaeth gyfredol
Capasiti'r ysgol1232
Nifer derbyn yr ysgol217
Darpariaeth STFSTF Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (2 ddosbarth)
BandF
Dyraniad cyllideb STFNi fydd yr ailddynodi yn cael effaith ar ddyraniad cyllideb STF

 

Darpariaeth arfaethedig
Capasiti'r ysgol1232
Nifer derbyn yr ysgol217
Darpariaeth STFCyfathrebu cymdeithasol gydag anawsterau dysgu (2 ddosbarth)
BandF
Dyraniad cyllideb STFNi fydd yr ailddynodi yn cael effaith ar ddyraniad cyllideb STF

Adran 7: Heriau, mesurau lliniaru a manteision:

Heriau:  

Mae dileu'r angen am ddiagnosis yn heriol ar gyfer penderfynu ar leoliad, ac felly bydd angen prosesau lleoli cadarn gyda'r strategaeth hon yn cael ei chyfleu'n glir i'r holl randdeiliaid, gan gynnwys rhieni. Mae disgybl sy'n gweithredu o fewn ystafell ddosbarth/ysgol ynghyd â'r gallu i gyfathrebu ac ymddwyn yn briodol yn ffactorau sy'n cael eu hystyried wrth ystyried lleoliadau arbenigol.

Bydd angen sicrhau staff arbenigol a darparu hyfforddiant cyn y gall y ddarpariaeth agor.

Mae'r dosbarthiadau STF wedi eu cynnwys yn y gwaith adeiladu newydd sy'n digwydd yn yr ysgol.

Mesurau lliniaru:  

Mae gan yr awdurdod lleol brosesau panel cadarn i gytuno ar leoliad a fydd yn cael eu hadolygu ymhellach unwaith y bydd yr angen am ddiagnosis ffurfiol yn cael ei ddileu.

Bydd cyfathrebu parhaus, gofalus a chyson gyda rhanddeiliaid gan gynnwys rhieni / gofalwyr, dysgwyr a staff ysgol.

Mae gan yr ALl ddewislen hyfforddi helaeth a gall gynnig cymorth pwrpasol i'r ysgol hefyd er mwyn hyfforddi staff newydd. Mae gennym ni ddisgwyliad bod hyfforddiant o ansawdd uchel yn parhau.

Mateision:          

Mae'r cynnig hwn yn hyrwyddo cymunedau ysgol cynhwysol. Mae Cyngor Abertawe ac ysgolion Abertawe yn dathlu amrywiaeth ac mae gan unrhyw ysgol sy'n cynnal STF rôl allweddol wrth hyrwyddo'r dull hwn. Credwn fod pob dysgwr yn elwa o ddysgu mewn amgylcheddau cynhwysol ac amrywiol lle mae gwahaniaethau'n cael eu dathlu. Mae athrawon a darpariaethau arbenigol yn ategu'r dull hwn. 

Adran 8: Manylebau STF: 

Manylebau STF
DerbyniadauPanel yr ALI yw'r awdurdod derbyn
CyllidDylai'r STF fod yn gost-niwtral i'r ysgol sy'n ei gynnal
CDUauCDUau yn dod yn rhai a gynhelir gan yr ALl (cymorth gan staff STF).
HyfforddiantCDUau yn dod yn rhai a gynhelir gan yr ALl (cymorth gan staff STF).
CymorthGweithwyr achos ADY / athrawon arbenigol / arbenigwyr perfformiad / Seicolegwyr Addysg
CludiantParheir i wneud trefniadau cludiant yn unol â pholisi cludiant o'r cartref i'r ysgol Cyngor Abertawe, a gellir dod o hyd i hyn drwy ddilyn y ddolen hon Cludiant i'r ysgol
Angen gwaith cyfalaf?Na fydd

Adran 9: Gofyniad hysbysiad statudol

Os bydd y Cabinet yn penderfynu bwrw ymlaen â'r cynnig hwn ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd y Cyngor yn cyhoeddi Hysbysiad Statudol, a fydd yn gwahodd unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu, i wneud hynny yn ysgrifenedig o fewn cyfnod o 28 diwrnod. Os derbynnir gwrthwynebiadau, bydd adroddiad gwrthwynebu'n cael ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Abertawe. Bydd copïau caled o'r adroddiad hefyd ar gael ar gais. Bydd yr adroddiad yn crynhoi'r materion a godwyd ac yn darparu ymateb Cyngor Abertawe i'r gwrthwynebiadau hynny.

Adran 10: Dyddiad gweithredu arfaethedig:

Medi 2025

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Medi 2024