Toglo gwelededd dewislen symudol

Atodiad A - Ysgolion y mae'r cynnig hwn yn effeithio arnynt: Ysgol Gyfun Olchfa

Adran 1: Newid / datblygiad STF arfaethedig

Adran 2: Data cyd-destunol yr ysgol

Adran 3: Gwerthusiad o'r trefniadau presennol

Adran 4: Effaith ar ddisgyblion

Adran 5: Effaith ar staffio

Adran 6: Effaith ar gyllideb a chapasiti'r ysgol

Adran 7: Heriau, mesurau lliniaru a manteision

Adran 8: Manylebau STF

Adran 9: Hysbysiad statudol

Adran 10: Dyddiad gweithredu arfaethedig

 

Adran 1: Newid / datblygiad STF arfaethedig

Cynnig 1

Y cynnig hwn yw cau'r STF â Nam Difrifol ar y Clyw (HI).

Cynnig 2

Y cynnig hwn yw agor STF 'Anawsterau Dysgu Difrifol'.

Adran 2: Data cyd-destunol yr ysgol: 

Data cyd-destunol yr ysgol
Lleoliad yr ysgolFfordd Gŵyr, Sgeti
SirAbertawe
Ystod oedran11-18
Categori'r ysgolYsgol Gyfun Gymunedol
Cyfrwng iaithSaesneg
Capasiti (ac eithrio'r meithrin a'r STF)1855
LleoeddSTF a gynlluniwyd7
Cost fesul disgybl 24-25£4,635
Cyllideb yr ysgol 24-25£9,720,447
Adroddiad diweddaraf Estyn02/05/2018 https://www.estyn.llyw.cymru/darparwyr/olchfa-school-cy/
Categoreiddiad cyflwr yr adeiladauC
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - 11-161451
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Ôl 16394
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Cyfanswm1845

 

Cyfanswm y disgyblion ar y gofrestr yn ystod y 5 mlynedd diwethaf (data PLASC)
Ionawr 20191768
Ionawr 20201766
Ionawr 20211832
Ionawr 20221888
Ionawr 20231827
Ionawr 20241845

 

Rhagfynegiadau disgyblion
Ionawr 20251877
Ionawr 20261885
Ionawr 20271888
Ionawr 20281891
Ionawr 20291886

Adran 3: Gwerthusiad o'r trefniadau presennol

Ansawdd a safonau mewn addysg

Mae gan yr ysgol weledigaeth glir sydd wedi ei rhannu â'r gymuned gyfan ac sy'n adeiladu ar ymrwymiad angerddol i sicrhau safonau rhagorol a lefelau uchel o lesiant i bob disgybl. Mae pob aelod o'r uwch dîm arwain (SLT) yn deall yn glir y newid yn 'ysgol sy'n canolbwyntio'n fwy ar y gymuned' a mwy o amlygrwydd yn yr ysgol yn ei chymuned. Gofynnwyd am ragor o eglurder ynghylch y weledigaeth strategol ac mae'r holl randdeiliaid ar draws yr ysgol wedi cael eu harchwilio ynghylch perthnasedd blaenoriaethau'r ysgol. Gwelir effaith y weledigaeth hon ar draws holl feysydd gwaith yr ysgol ac mae'n dechrau cael ei gweld o fewn y systemau a'r prosesau a fabwysiadwyd.

Mae'r ysgol yn myfyrio o ran cyflawni ei blaenoriaethau ac mae'n parhau i ddatblygu rolau/sgiliau arwain a chyfleoedd i fynd i'r afael â'r rhain. Er enghraifft, datblygwyd nifer o sgiliau/rolau swyddog lles i gefnogi meysydd penodol o angen. Mae'r arweinydd ymchwil/ymholi yn llwyddo i sicrhau bod gwaith yr ysgol fel sefydliad dysgu yn wybodus o ymchwil. Anogir staff i gyflawni eu hymchwil eu hunain ar draws nifer o feysydd dysgu a phrofiadau (AALl), a'r ymchwil fwyaf effeithiol yn llywio ymarfer.

Bu gan yr ysgol weledigaeth gref wrth baratoi ar gyfer gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru drwy ei gwaith yn ysgol arloesi. Mae'r ysgol yn gwneud cynnydd cadarn o ran datblygu'r cwricwlwm, gan weithio mewn partneriaeth gref ag ysgolion cynradd y clwstwr. Mae'r ysgol wedi mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar sybsidiariedd. Sgema ac addysgu a dysgu yw'r ffocws cynhenid ar draws yr ystod oedran 3-16. Mae arweinwyr cynnydd wedi'u sefydlu ac mae cynllun dilyniant wedi'i gyd-adeiladu ar gyfer pob Maes Gweithredu. O ganlyniad, mae ffocws defnyddiol ar ymreolaeth athrawon a defnyddio'r addysgeg gywir; megis defnyddio asesu ac adborth.  Mae pwrpas y cwricwlwm yn flaenoriaeth a rhoddir pwysau cyfartal i sgiliau a phrofiad gwybodaeth. Mae dysgu proffesiynol yn parhau i ganolbwyntio ar ddatblygu Addysgu a Dysgu.

Mae'r broses adolygu effeithiol wedi nodi'r angen i barhau i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau. 

Profiadau dysgu ac addysgu

Does dim disgwyl i'r cynnig gael unrhyw effaith negyddol ar brofiadau addysgu a dysgu yn yr ysgol.

Trefnir cyfleusterau addysgu arbenigol i ddarparu ystod o raglenni addysgu unigol i gefnogi cynnydd dysgwyr. Bydd llawer o'r dysgwyr yn profi ystod o anawsterau cysylltiedig megis oedi o ran llythrennedd a rhifedd, iaith lleferydd a chyfathrebu, rheoleiddio synhwyraidd ac emosiynol. Mae'r ysgol yn sicrhau bod gan staff a gyflogir yn y lleoliad sgiliau a phrofiad priodol i gefnogi dysgwyr orau.

Mae'r lleoliadau'n darparu dysgu dosbarth bach wedi'i deilwra i anghenion dysgu'r disgyblion, gan gynnwys ymyriadau i gefnogi llythrennedd a rhifedd, iaith lleferydd a chyfathrebu.

Byddai'r cyfle i gyflogi staff arbenigol a gweithio'n agosach gyda gwasanaethau arbenigol yn Abertawe yn gwella capasiti'r ysgol ar gyfer cynhwysiant ac o fudd i bob disgybl yn yr ysgol.

Arolygodd Estyn yr ysgol yn 2018 a chanfod y canlynol:

Mae arweinyddiaeth ysbrydoledig, dulliau arloesol o gynllunio'r cwricwlwm a gwella ansawdd yr addysgu, a ffocws cyson ar ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr hyderus ac uchelgeisiol wedi llwyddo i sicrhau canlyniadau cryf a lefelau uchel o les i ddisgyblion yn Ysgol Olchfa. Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos agweddau hynod gadarnhaol tuag at eu dysgu ac yn ymddwyn yn gwrtais, yn barchus ac yn aeddfed. Maent yn ddysgwyr brwdfrydig, uchelgeisiol a gwydn. Mae lefelau uchel o gyfranogiad disgyblion ym mhob agwedd o fywyd ysgol. Nodweddir trefniadau arweinyddiaeth gan lefelau cryf o drylwyredd a chadernid ar bob lefel. Mae gan yr ysgol ffocws cryf ar fyfyrio ac ymchwil ac mae'n rhoi dysgu proffesiynol wrth wraidd ei gwaith. O ganlyniad, mae gan staff a llywodraethwyr ddealltwriaeth sicr o gryfderau a blaenoriaethau gwella'r ysgol ac mae gan yr ysgol hanes cryf o sicrhau gwelliant. 

Arolygodd Estyn
Maes arolyguDyfarniad
SafonauRhagorol
Llesiant ac agweddau tuag at ddysguRhagorol
Profiadau dysgu ac addysguRhagorol
Gofal, cymorth ac arweiniadRhagorol
Arweinyddiaeth a rheolaeth ddaRhagorol

Gofal, cymorth ac arweiniad

Mae gan bob ysgol ystod briodol o bolisïau a darpariaeth ar waith i hyrwyddo iechyd a llesiant disgyblion.  Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd lle mae dysgu'n cael ei werthfawrogi ac mae disgyblion yn cyflawni eu potensial mewn amgylchedd hapus a diogel lle maen nhw'n dangos parch a goddefgarwch tuag at ei gilydd.  Mae'r awdurdod lleol yn rheoli derbyniadau i'r cyfleuster addysgu arbenigol. Bydd gan bob dysgwr Gynllun Datblygu Unigol (CDU) sy'n ddogfen statudol ac sy'n nodi'r hyn sy'n 'bwysig i' ac 'sy'n bwysig ar gyfer' y plentyn neu'r person ifanc, y canlyniadau a ddymunir a'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd i'w gweithredu er mwyn cyflawni'r canlyniadau. 

Byddai'r awdurdod lleol yn gweithio gydag arweinyddiaeth yr ysgol i sicrhau bod pawb yn deall eu cyfrifoldeb dros helpu i wella a chynnal cymorth gofal ac arweiniad.

Arweinyddiaeth a rheolaeth

Mae arweinyddiaeth a rheolaeth y cyfleusterau addysgu arbenigol wedi eu dirprwyo i ysgolion. Cyrff llywodraethu sy'n pennu'r model rheoli mwyaf priodol ar gyfer y cyfleuster, yn unol â dull arwain a rheoli'r ysgol i sicrhau bod y cyfleuster yn rhan gwbl integredig o'r ysgol. Gall yr awdurdod lleol ddarparu cyngor a chymorth mewn perthynas â phenodiadau arbenigol yn ôl yr angen. 

Byddai'r awdurdod lleol yn parhau i weithio gydag arweinyddiaeth yr ysgol i sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau yn glir. Byddai'n cefnogi'r ysgol i gael perthynas dda â rhieni a phartneriaid eraill fel bod disgyblion yn derbyn addysg o ansawdd uchel ac yn gwneud cynnydd da.

Byddai'r newidiadau arfaethedig yn cael eu cynllunio'n ofalus fel nad amharir ar arweinyddiaeth a llywodraethu'r ysgol. Nod hyn yw lleihau'r tarfu ar weithgarwch ehangach yr ysgol yn ystod y cyfnod sefydlu.

Effaith y cynnig

Cynnig 1 - Cau'r STF Nam ar y Clyw

Mae'r STF yn Olchfa o dan gapasiti ers nifer o flynyddoedd. Ynghyd â chau'r STF HI mae cynnig i greu canolfan Mewngymorth/Allgymorth o ysgol gynradd Grange, a fydd yn caniatáu i ddisgyblion byddar ac sydd â nam ar eu golwg dderbyn cymorth proffesiynol yn eu hysgol leol ac yn y ganolfan adnoddau yn Grange.

Mae'n debygol y bydd effaith ar staff sy'n cael eu cyflogi yn y STF gan mai cynnig i gau'r STF yw hwn. Amlinellir y manylion hyn yn Adran 5.

Cynnig 2 - Agor yr STF Anawsterau Dysgu Difrifol

Bydd y STF newydd yn gofyn am ystafelloedd dosbarth pwrpasol ynghyd â man(nau) ymneilltuo a/neu ystafell synhwyraidd. Mae ysgolion Abertawe'n gynhwysol a bydd cynnal y STF hwn o fudd i ddisgyblion prif ffrwd yn ogystal â'r rhai a leolir, gan ddarparu gwell dealltwriaeth a derbyniad i blant a phobl ifanc sydd ag angen dysgu ychwanegol.

Adran 4: Effaith ar ddisgyblion

Cynnig 1 - Cau'r STF Nam ar y Clyw

Mae'r galw am STF Nam ar y Clyw yn Olchfa wedi lleihau dros nifer o flynyddoedd. Ar hyn o bryd dim ond un disgybl sydd ar gofrestr yr STF a bydd yn gadael yr ysgol yn nhymor yr haf 2024. Mae llawer o ddisgyblion yn dewis aros yn eu hysgolion lleol ac yn aml yn cael eu cefnogi gan athrawon a thechnegwyr arbenigol.

Bydd y ddarpariaeth STF yn cael ei disodli gan Ganolfan Adnoddau Synhwyraidd yn Grange o ble gall athrawon a thechnegwyr arbenigol weithio. Gall y disgyblion gael eu cefnogi gan y gweithwyr proffesiynol hyn yn eu hysgolion lleol eu hunain a byddant hefyd yn gallu dod i mewn i'r ganolfan ar gyfer ymyriadau pwrpasol, gan gynnwys dysgu sgiliau bywyd annibynnol.

Ni fydd unrhyw effaith andwyol ar ddysgwyr gan na fydd disgyblion ar y gofrestr o fis Medi 2024 ymlaen.

Cynnig 2 - Agor yr STF Anawsterau Dysgu Difrifol

Cynigir bod Olchfa yn cynnal STF newydd ar gyfer disgyblion sydd ag anawsterau dysgu difrifol.

Bydd datblygu'r STF yn Olchfa yn cefnogi'r galw am leoedd o'r fath yng ngorllewin Abertawe.

Bydd STF Nam Difrifol ar y Clyw yn cau ac yn cael ei ddisodli gan STF 18 lle (CA3 a CA4) ar gyfer disgyblion sydd ag anawsterau dysgu difrifol.

Adran 5: Effaith ar staffio

Mae'r newidiadau a gynigir mewn perthynas â chau'r STF Nam Difrifol ar y Clyw yn debygol o gael rhywfaint o effaith ar staffio, gan gynnwys diswyddiadau posibl gan fod hwn yn gynnig i gau STF.

Bydd proses ymgynghori briodol yn cael ei chynnal gyda'r holl weithwyr a chynrychiolwyr undebau llafur mewn perthynas ag unrhyw ailstrwythuro staff sy'n deillio o hynny.

Ceisir cytundeb gan gyrff llywodraethu i gymhwyso'r polisi adleoli canolog (sydd mewn grym ar y pryd) i staff y mae'r cynigion hyn yn effeithio arnynt.

Bydd y STF newydd ar gyfer Anawsterau Dysgu Difrifol yn cynnal dau ddosbarth sydd angen athrawon ychwanegol a TA i staffio'r STF.

Cynigir hyfforddiant i'r staff sydd newydd eu penodi.

Adran 6: Effaith ar gyllideb a chapasiti'r ysgol

Darpariaeth gyfredol
Capasiti'r ysgol1855
Nifer derbyn yr ysgol289
Darpariaeth STFSTF nam difrifol ar y clyw (1 dosbarth)
BandF (STF nam difrifol ar y clyw)
Dyraniad cyllideb STF *£107,073.50

*Gweler Atodiad E 'Goblygiadau Ariannol' am wybodaeth lawn am y fformiwla ariannu a'r cyfrifiadau cyllideb a ragwelir.

Darpariaeth arfaethedig
Capasiti'r ysgol1855
Nifer derbyn yr ysgol289
Darpariaeth STF

Agor STF Anawsterau Dysgu Difrifol (2 ddosbarth)

Cau STF Nam Difrifol ar y Clyw

BandE (STF Anawsterau Dysgu Difrifol)
Dyraniad Cyllideb STF *£225,587

*Gweler Atodiad E 'Goblygiadau Ariannol' am wybodaeth lawn am y fformiwla ariannu a'r cyfrifiadau cyllideb a ragwelir.

Adran 7: Heriau, mesurau lliniaru a manteision: 

Heriau:  

Mae staff presennol yn wynebu cael eu hail-leoli (yn yr ysgol) neu ddiswyddo posibl.

Gallai'r STF SLD newydd fod angen buddsoddiad cyfalaf gan mai'r unig ddosbarth sydd ar gael ar hyn o bryd yw'r un a adawyd gan y STF HI a oedd yn darparu ar gyfer nifer llai o ddysgwyr. 

Mesurau lliniaru: 

Bydd y cynnig newydd i greu canolfan Mewngmorth/Allgymorth o ysgol gynradd Grange, yn caniatáu i ddisgyblion byddar a'r rhai sydd â nam ar eu golwg gael cymorth proffesiynol yn eu hysgol leol ac yn y ganolfan adnoddau yn Grange. 

Manteision:

Mae'r cynnig hwn yn hyrwyddo cymunedau ysgol cynhwysol. Mae Cyngor Abertawe ac ysgolion Abertawe yn dathlu amrywiaeth ac mae gan unrhyw ysgol sy'n cynnal STF rôl allweddol wrth hyrwyddo'r dull hwn. Credwn fod pob dysgwr yn elwa o ddysgu mewn amgylcheddau cynhwysol ac amrywiol lle mae gwahaniaethau'n cael eu dathlu. Mae athrawon a darpariaethau arbenigol yn ategu'r dull hwn.

Adran 8: Manylebau STF: 

Manylebau STF
DerbyniadauPanel yr ALI yw'r awdurdod derbyn
CyllidDylai'r STF fod yn gost-niwtral i'r ysgol sy'n ei gynnal.
CDUauCDUau yn dod yn rhai a gynhelir gan yr ALI (cymorth gan staff STF)
HyfforddiantDewislen hyfforddiant/rhwydwaith STF/allgymorth Penybryn/ pwrpasol
CymorthGweithwyr achos ADY/athrawon arbenigol/arbenigwyr perfformiad/ Seicolegwyr Addysg
CludiantParheir i wneud trefniadau cludiant yn unol â pholisi cludiant o'r cartref i'r ysgol Cyngor Abertawe, a gellir dod o hyd i hyn drwy ddilyn y ddolen hon Cludiant i'r ysgol
Angen gwaith cyfalaf?Bydd, mae ailfodelu'r ystafelloedd STF presennol wedi'i wneud i ddarparu ar gyfer y STF SLD newydd. Pe bai'r cynnig yn mynd yn ei flaen, bydd angen ail-bwrpasu lle adnoddau ymhellach yn yr ysgol/dosbarth adeiladu/modiwlaidd newydd ar gyfer yr ail ddosbarth STF sydd ei angen o fis Medi 2028 ymlaen. Ni ddefnyddir y lle addysgu presennol yn cael ei ddefnyddio felly ni effeithir ar y capasiti/Nifer derbyn prif ffrwd.

Adran 9: Gofyniad Hysbysiad Statudol?

Bydd, os bydd y Cabinet yn penderfynu bwrw ymlaen â'r cynnig hwn ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd y Cyngor yn cyhoeddi Hysbysiad Statudol, a fydd yn gwahodd unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu, i wneud hynny'n ysgrifenedig o fewn cyfnod o 28 diwrnod. Os derbynnir gwrthwynebiadau, bydd adroddiad gwrthwynebu'n cael ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Abertawe. Bydd copïau caled o'r adroddiad hefyd ar gael ar gais. Bydd yr adroddiad yn crynhoi'r materion a godwyd ac yn darparu ymateb Cyngor Abertawe i'r gwrthwynebiadau hynny. 

Adran 10: Dyddiad gweithredu arfaethedig:

Cau STF HI: Awst 2025

Agor STF SLD newydd:

Cam 1: Dosbarth SLD cyntaf (ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3) i agor ym mis Medi 2025

Cam 2: Ail ddosbarth SLD (ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 4) i agor ym mis Medi 2028

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Medi 2024