Toglo gwelededd dewislen symudol

Atodiad A - Ysgolion y mae'r cynnig hwn yn effeithio arnynt: YGG Bryn Tawe

Adran 1: Newid / datblygiad STF arfaethedig

Adran 2: Data cyd-destunol yr ysgol

Adran 3: Gwerthusiad o'r trefniadau presennol

Adran 4: Effaith ar ddisgyblion

Adran 5: Effaith ar staffio

Adran 6: Effaith ar gyllideb a chapasiti'r ysgol

Adran 7: Heriau, mesurau lliniaru a manteision

Adran 8: Manylebau STF

Adran 9: Hysbysiad Statudol

Adran 10: Dyddiad gweithredu arfaethedig

 

Adran 1: Newid / datblygiad STF arfaethedig 

Y cynnig hwn yw agor STF 'Anawsterau Dysgu Cyffredinol' dau ddosbarth newydd.

Adran 2: Data cyd-destunol yr ysgol:

Data cyd-destunol yr ysgol
Lleoliad yr ysgolHeol Gwyrosydd, Penlan
SirSwansea
Ystod oedran11-18
Categori'r ysgolYsgol Gyfun Gymunedol
Cyfrwng iaithCymraeg
Capasiti (ac eithrio'r meithrin a'r STF)1298
Lleoedd STF a Gynlluniwyd12
Cost fesul disgybl 24-25£4,635
Cyllideb yr ysgol 24-25£5,300,397
Adroddiad diweddaraf Estyn03/07/2019 https://www.estyn.llyw.cymru/darparwyr/ysgol-gyfun-gymraeg-bryn-tawe-cy/
Categoreiddiad cyflwr yr adeiladauC+
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - 11-16797
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Ôl 16128
Nifer y disgyblion ar y gofrestr (Ionawr 2024) - Cyfanswm925

 

Cyfanswm y disgyblion ar y gofrestr yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf (data PLASC)
Ionawr 2019807
Ionawr 2020854
Ionawr 2021882
Ionawr 2022910
Ionawr 2023907
Ionawr 2024925

 

Rhagfynegiadau disgyblion
Ionawr 2025923
Ionawr 2026902
Ionawr 2027917
Ionawr 2028922
Ionawr 2029905

Adran 3: Gwerthusiad o'r trefniadau presennol

Ansawdd a safonau mewn addysg

Mae gan Ysgol Gyfun Bryn Tawe bennaeth ac uwch dîm arwain sefydledig sy'n cydweithio i sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel i bob disgybl beth bynnag fo'u hanghenion. Mae diwylliant cryf o ymholiad proffesiynol yn yr ysgol ac maent yn ymwneud ag arwain hyn ar lefel ranbarthol.  Mae'r gwaith sy'n cael ei arddangos yn canolbwyntio ar wybodaeth drylwyr o'r holl ddisgyblion ar draws pob grŵp blwyddyn a lledaenu anghenion disgyblion i athrawon dosbarth er mwyn sicrhau amgylchedd dysgu effeithiol drwy'r 'cynllun ystafell ddosbarth' ac asesu strategaethau dysgu eraill.

Mae'r uwch dîm arweinyddiaeth wedi bod yn rhan o ddatblygu rhaglen arweinyddiaeth bwrpasol gydag ysgolion uwchradd eraill yng Nghymru.  O ganlyniad, maent yn gallu datblygu arweinwyr o fewn yr ysgol yn fedrus ac yn llwyddiannus yn ogystal â mentora a hyfforddwyr ymgeiswyr allanol drwy'r rhaglen.

Mae'r pennaeth wedi sefydlu perthynas waith agos â phenaethiaid eraill drwy raglen waith cymorth cymheiriaid. Mae hyn yn caniatáu i'r penaethiaid dan sylw gysgodi a gweithredu'n ffrindiau beirniadol i'w gilydd yn eu rôl.

Mae'r ysgol yn arwain y rhaglen dysgu proffesiynol ar gyfer ysgolion cynradd yn eu clwstwr.  Mae perthynas waith agos a chydweithredol â'r gwaith o gyd-adeiladu'r cwricwlwm.  Mae ethos cryf o rannu ymarfer effeithiol a dysgu oddi wrth ei gilydd.  Mae'r Cydlynydd ADY ym Mryn Tawe yn ymarferydd profiadol a chymwys sydd wedi datblygu nifer o adnoddau i gefnogi Cydlynwyr ADY yn eu hysgolion cynradd bwydo.  Mae hyn yn cefnogi rhaglen bontio effeithiol ar gyfer disgyblion i addysg uwchradd.

Profiadau dysgu ac addysgu

Does dim disgwyl i'r cynnig gael unrhyw effaith negyddol ar brofiadau addysgu a dysgu yn yr ysgol.  Trefnir cyfleusterau addysgu arbenigol i ddarparu ystod o raglenni addysgu unigol i gefnogi cynnydd dysgwyr. Bydd llawer o'r dysgwyr yn profi ystod o anawsterau cysylltiedig megis oedi o ran llythrennedd a rhifedd, iaith lleferydd a chyfathrebu, rheoleiddio synhwyraidd ac emosiynol. Mae'r ysgol yn sicrhau bod gan staff a gyflogir yn y lleoliad sgiliau a phrofiad priodol i gefnogi dysgwyr orau. Mae'r lleoliadau'n darparu dysgu mewn dosbarthiadau bach wedi'i deilwra ar gyfer anghenion dysgu'r disgyblion, gan gynnwys ymyriadau i gefnogi llythrennedd a rhifedd, iaith lleferydd a chyfathrebu.

Byddai'r cyfle i gyflogi staff arbenigol a chydweithio'n nes â gwasanaethau arbenigol yn Abertawe yn gwella capasiti'r ysgol ar gyfer cynhwysiant ac o fudd i bob disgybl yn yr ysgol.

Arolygordd Estyn yr ysgol ym mis Ebrill 2019 a chanfod y canlynol:

Mae Ysgol Bryn Tawe yn gymuned agored, egnïol sydd â llesiant disgyblion wrth wraidd ei gwaith. Mae disgyblion, staff, llywodraethwyr a rhieni yn dangos balchder amlwg o fod yn rhan o gymuned yr ysgol, ac mae perthynas agos ac adeiladol rhyngddynt. Nodwedd eithriadol yw cyfraniad disgyblion i waith yr ysgol drwy'r cyfleoedd amrywiol a roddir iddynt leisio eu barn a dylanwadu ar benderfyniadau. Yn ystod eu hamser yn yr ysgol, mae disgyblion yn gwneud cynnydd cryf yn gyffredinol yn eu hastudiaethau academaidd, ac yn datblygu'n llwyddiannus yn ddinasyddion gweithredol, cyfrifol a chwrtais. Mae'r ddarpariaeth ar gyfer gofal, cymorth ac arweiniad yn gryfder nodedig. Mae staff yn addasu'r ddarpariaeth yn rheolaidd er mwyn ymateb yn llwyddiannus i anghenion disgyblion. Mae'r ddarpariaeth eang, gyfoethog o weithgareddau allgyrsiol a'r cwricwlwm amrywiol yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i brofiad addysgol disgyblion. Mae arweinwyr yn cydweithio'n effeithiol ac yn cyfleu uchelgais amlwg ar gyfer gwaith yr ysgol. Maent yn rhoi pwyslais clir ar wella safonau ac addysgu, a darparu'r gorau i bob disgybl mewn amgylchedd cefnogol.

Arolygodd Estyn
Maes arolyguDyfarniad
SafonauDa
Llesiant ac agweddau tuag at ddysguRhagorol
Profiadau dysgu ac addysguDa
Gofal, cymorth ac arweiniadRhagorol
Arweinyddiaeth a rheolaeth ddaDa

Gofal, cymorth ac arweiniad

Mae gan bob ysgol ystod briodol o bolisïau a darpariaeth ar waith i hyrwyddo iechyd a llesiant disgyblion.  Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd lle mae dysgu'n cael ei werthfawrogi ac mae disgyblion yn cyflawni eu potensial mewn amgylchedd hapus a diogel lle maen nhw'n dangos parch a goddefgarwch tuag at ei gilydd.  Mae'r awdurdod lleol yn rheoli derbyniadau i'r cyfleuster addysgu arbenigol. Bydd gan bob dysgwr Gynllun Datblygu Unigol (CDU) sy'n ddogfen statudol ac sy'n nodi'r hyn sy'n 'bwysig i' ac 'sy'n bwysig ar gyfer' y plentyn neu'r person ifanc, y canlyniadau a ddymunir a'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd i'w gweithredu er mwyn cyflawni'r canlyniadau. 

Byddai'r awdurdod lleol yn gweithio gydag arweinyddiaeth yr ysgol i sicrhau bod pawb yn deall eu cyfrifoldeb dros helpu i wella a chynnal cymorth gofal ac arweiniad.

Arweinyddiaeth a rheolaeth

Mae arweinyddiaeth a rheolaeth y cyfleusterau addysgu arbenigol wedi eu dirprwyo i ysgolion. Cyrff llywodraethu sy'n pennu'r model rheoli mwyaf priodol ar gyfer y cyfleuster, yn unol â dull arwain a rheoli'r ysgol i sicrhau bod y cyfleuster yn rhan gwbl integredig o'r ysgol. Gall yr awdurdod lleol ddarparu cyngor a chymorth mewn perthynas â phenodiadau arbenigol yn ôl yr angen. 

Byddai'r awdurdod lleol yn parhau i weithio gydag arweinyddiaeth yr ysgol i sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau yn glir. Byddai'n cefnogi'r ysgol i gael perthynas dda â rhieni a phartneriaid eraill fel bod disgyblion yn derbyn addysg o ansawdd uchel ac yn gwneud cynnydd da.

Byddai'r newidiadau arfaethedig yn cael eu cynllunio'n ofalus fel nad amharir ar arweinyddiaeth a llywodraethu'r ysgol. Nod hyn yw lleihau'r tarfu ar weithgarwch ehangach yr ysgol yn ystod y cyfnod sefydlu.  

Effaith y cynnig

Mae ysgolion Abertawe'n gynhwysol a bydd cynnal STF o fudd i ddisgyblion prif ffrwd yn ogystal â'r rhai a leolir, gan ddarparu gwell dealltwriaeth a derbyniad i blant a phobl ifanc sydd ag angen dysgu ychwanegol. 

Adran 4: Effaith ar ddisgyblion

Ar hyn o bryd, dim ond un STF cyfrwng Cymraeg sydd gan Abertawe a hwnnw wedi'i leoli yn Ysgol Gyfun Gŵyr. Rhagwelir y bydd nifer y disgyblion sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cynyddu dros y 5 i 10 mlynedd nesaf. Er bod yr awdurdod lleol yn cynnig cynyddu lleoedd sydd wedi'u cynllunio yn Ysgol Gyfun Gŵyr yng ngorllewin Abertawe, mae angen cynnig tebyg i ddisgyblion sy'n mynychu YGG Bryn Tawe yn y Dwyrain.

Adran 5: Effaith ar staffio

Bydd y STF newydd yn cynnal dau ddosbarth sy'n gofyn am ddau athro a dau Gynorthwyydd Addysgu i staffio'r STF.

Cynigir hyfforddiant i'r staff sydd newydd eu penodi. 

Adran 6: Effaith ar gyllideb a chapasiti'r ysgol

Darpariaeth gyfredol
Capasiti'r ysgol1298
Nifer derbyn yr ysgol214
Darpariaeth STFSylfaen adnoddau (1 dosbarth)
BandAMH
Dyraniad cyllideb STF*£167,414.79

 *Gweler Atodiad E 'Goblygiadau Ariannol' am wybodaeth lawn am y fformiwla ariannu a'r cyfrifiadau cyllideb a ragwelir.

Darpariaeth arfaethedig
Capasiti'r ysgol1298
Nifer derbyn yr ysgol214
Darpariaeth STF

Sylfaen adnoddau (1 dosbarth)

STF anawwsterau dysgu cyffredinol (2 ddosbarth)

BandE
Syraniad cyllideb STF*£357,152

 *Gweler Atodiad E 'Goblygiadau Ariannol' am wybodaeth lawn am y fformiwla ariannu a'r cyfrifiadau cyllideb a ragwelir.

Adran 7: Meriau, mesurau lliniaru a manteision: 

Heriau:  

Nodi a blaenoriaethu disgyblion y bydd angen y lleoliadau arbenigol.

Costau sy'n gysylltiedig â darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol.

Mesurau lliniaru:  

Mae gan yr awdurdod lleol broses banel sefydledig ar gyfer rhoi disgyblion i STF. Efallai y bydd angen rhywfaint o gymorth ar y Panel gan Athrawon Arbenigol a/neu seicolegwyr addysgol sy'n cwmpasu ysgolion Cymru.

Mae gan yr ALl ddewislen hyfforddi helaeth a gall gynnig cymorth pwrpasol i'r ysgol i hyfforddi staff newydd. Mae gennym ni ddisgwyliad bod hyfforddiant o ansawdd uchel yn barhaus.

Bydd disgyblion sy'n cael eu cludo i'r STF newydd yn cael eu grwpio lle bo hynny'n bosibl ac yn rhannu cerbydau. 

Manteision:

Mae'r cynnig hwn yn hyrwyddo cymunedau ysgol cynhwysol. Mae Cyngor Abertawe ac ysgolion Abertawe yn dathlu amrywiaeth ac mae gan unrhyw ysgol sy'n cynnal STF rôl allweddol wrth hyrwyddo'r dull hwn. Credwn fod pob dysgwr yn elwa o ddysgu mewn amgylcheddau cynhwysol ac amrywiol lle mae gwahaniaethau'n cael eu dathlu. Mae athrawon a darpariaethau arbenigol yn ategu'r dull hwn. 

Adran 8: Manylebau STF: 

Manylebau STF
DerbyniadauPanel yr ALI yw'r awdurdod derbyn
CyllidDylai'r STF fod yn gost-niwtral i'r ysgol sy'n ei gynnal
CDUauCDUau yn dod yn rhai a gynhellir gan yr ALI (cymorth gan staff STF)
HyfforddiantDewislen hyfforddiant / rhwydwaith STF / allgymorth Penybryn / pwrpasol
CymorthGweithwyr achos ADY / athrawon arbenigol / arbenigwyr perfformiad / seicolegwyr addysg
CludiantParheir i wneud trefniadau cludiant yn unol â pholisi cludiant o'r cartref i'r ysgol Cyngor Abertawe, a gellir dod o hyd i hyn drwy ddilyn y ddolen hon Cludiant i'r ysgol
Angen gwaith cyfalaf?Bydd, os bydd y cynnig yn mynd yn ei flaen, bydd angen ystafelloedd dosbarth pwrpasol ar gyfer y STF newydd ynghyd â man(nau) a/neu ystafell synhwyraidd ymneilltuol. Mae hyn yn cael ei ystyried yn rhan o'r cynlluniau datblygu strategol ar gyfer safle Bryn Tawe ni fydd yn effeithio ar y capasiti a'r nifer derbyn ar gyfer disgyblion prif ffrwd.

Adran 9: Gofyniad hysbysiad statudol

Os bydd y Cabinet yn penderfynu bwrw ymlaen â'r cynnig hwn ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd y Cyngor yn cyhoeddi Hysbysiad Statudol, a fydd yn gwahodd unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu, i wneud hynny yn ysgrifenedig o fewn cyfnod o 28 diwrnod. Os derbynnir gwrthwynebiadau, caiff adroddiad gwrthwynebu'n ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Abertawe. Bydd copïau caled o'r adroddiad hefyd ar gael ar gais. Bydd yr adroddiad yn crynhoi'r materion a godwyd ac yn darparu ymateb Cyngor Abertawe i'r gwrthwynebiadau hynny. 

Adran 10: Dyddiad gweithredu arfaethedig:

Cam 1: Dosbarth GLD Cyntaf (ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3) i agor ym mis Medi 2028.

Cam 2: Ail ddosbarth GLD (ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 4) i agor ym mis Medi 2030.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Medi 2024