Toglo gwelededd dewislen symudol

Ioga [Dydd Mawrth 6.30pm - 7.30pm] EN012562.CJ

Dydd Mawrth 21 Ionawr 2025
Argaeledd sydd ar ôl: 2
Cadw lle mewn digwyddiad
Amser dechrau 18:30
19:30
Pris £30.00
Cwrt Hazel

Dyddiadau'r tymor: yr wythnos sy'n dechrau 20 Ionawr 2025 - yr wythnos sy'n dod i ben ar 4 Ebrill 2025.

Hyd - 10 wythnos.

Mae'r cwrs hwn yn addas i bawb, gan gynnwys y rheini sydd erioed wedi cymryd rhan mewn dosbarth ioga o'r blaen. Caiff yr holl ystumiau a symudiadau eu hesbonio a'u harddangos yn y dosbarth. Gellir addasu'r rhan fwyaf o ystumiau ioga i fod yn addas ar gyfer eich anghenion penodol.

Bydd elfennau'r cwrs yn cynnwys:

  • Symud a gweithio'r corff o'r corun i'r sawdl, gan dargedu pob cymal a grŵp cyhyr mawr.
  • Ymestyn yn araf ac yn rheolaidd, gan ddilyn ystumiau symud a sefydlog, i wella hyblygrwydd.
  • Cryfhau'r corff yn yr ystumiau symud a sefydlog.
  • Cydbwyso ar ddwy droed ac ar un droed, gan ddefnyddio'r wal i'ch cefnogi yn ôl yr angen.
  • Anadlu'n araf ac yn ddwfn drwy gydol y dosbarth.
  • Ymlacio'r corff a chymryd rhan mewn sesiwn fyfyrdod ferf ar ddiwedd y rhan fwyaf o ddosbarthiadau er mwyn clirio a thawelu'r meddwl.


Nodwch: os mai hwn yw'r tro cyntaf i chi roi cynnig ar ioga, neu os ydych wedi cael llawdriniaeth neu wedi datblygu cyflwr iechyd ers i chi ymarfer ddiwethaf, efallai yr hoffech wirio gyda'ch meddyg cyn dechrua.

Addysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.


Fformat dysgu: Wyneb i wyneb.

Côd y cwrs: EN012562.CJ

Cwrt Hazel

Sgeti

Abertawe

SA2 8BP

United Kingdom

Amserau eraill ar Dydd Mawrth 21 Ionawr 2025

Dim enghreifftiau o hyn

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu