Sbaeneg i Ddechreuwyr - Canolradd [Dydd Llun 2.30pm - 4.00pm] EN042581CJ
Gyda Carolyn Jones. Dewch i ddechrau ar eich taith i ddysgu'r iaith hyfryd hon mewn amgylchedd grŵp cadarnhaol a chefnogol. O'r diwrnod cyntaf, byddwch yn siarad Sbaeneg ym mhob dosbarth. Byddwn hefyd yn dysgu i wella'n sgiliau gwrando, yn ogystal â darllen ac ysgrifennu yn Sbaeneg.
Hyd - 10 wythnos.
Mae'r dosbarth hwn ar gyfer dechreuwyr sydd â pheth gwybodaeth o Sbaeneg. Ein prif ffocws yw eich galluogi i gyfathrebu yn Sbaeneg ac i ddysgu am wledydd a diwylliannau'r bryd Sbaeneg - yn Sbaeneg!
Byddwn yn gweithio'n unigol, mewn parau, mewn grwpiau bach ac fel dosbarth i adeiladu'n sgiliau, ein gwybodaeth a'n hyder mewn siarad, gwrando, darllen, ysgrifennu a deall Sbaeneg.
Bydd elfennau'r gweithdy hwn yn cynnwys:
- Siarad yn Sbaeneg o'r diwrnod cyntaf, ac yn ystod pob diwrnod o'r dosbarth.
- Cysylltu'ch gwybodaeth o ieithoedd eraill, fel Cymraeg a Saesneg, â Sbaeneg.
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau a gemau a fydd yn gwella'ch sgiliau a'ch hyder.
- Darllen yn Sbaeneg at ddibenion ymarferol, fel deall bwydlenni, a gwella'ch gwybodaeth o wledydd sy'n siarad Sbaeneg: eu bwyd a mwy.
- Cynllunio ac actio deialog a sgitiau, a fydd yn eich galluogi i ymarfer defnyddio Sbaeneg mewn sefyllfaeoedd bywyd go iawn fel cyfarch pobl, archebu mewn caffi a gofyn am help.
- Defnyddio adnoddau ar-lein i wella dysgu.
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Dysgu wyneb y wyneb.
- Defnyddio llyfryn dysgu a luniwyd gan athro.
- Darllen yn Sbaeneg.
- Gwylio fideos ar-lein yn y dosbarth i wella'r dysgu.
Fformat dysgu: Wyneb i wyneb.
Côd y cwrs: EN042581CJ