Toglo gwelededd dewislen symudol

Rheolwr Gweithgareddau (dyddiad cau: 30/09/2024)

£33,945 - £37,336 y flwyddyn. Mae gan Ganolfannau Gweithgaredd Gŵyr gyfle newydd, llawn amser a pharhaol cyffrous i weithwyr proffesiynol gweithgareddau antur. Mae'r rôl hon yn berffaith i'r rhai sydd â phrofiad masnachol, sy'n chwilio am gyfle newydd gwerth chweil, gyda manteision gwych, yng nlleoliad prydferth Gŵyr, Abertawe.

Teitl swydd: Rheolwr Gweithgareddau
Rhif Swydd: SS.73514
Cyflog: £33,945 - £37,336 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:  Rheolwr Gweithgareddau (SS.73514) Disgrifiad swydd (PDF) [268KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.73514

 

Dyddiad cau: 11.59pm, 30 Medi 2024

Mwy o wybodaeth

Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol antur, trefnus, masnachol ei feddwl, i gydlynu'r holl raglenni newydd cyffrous ar gyfer y gwasanaeth.  Bydd y rôl yn gofyn am reoli tîm aml-sgiliau mawr, gan sicrhau bod yr holl raglenni yn ddiogel, yn effeithlon ac o ansawdd rhagorol i'n holl gwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth.   Rydym yn cynnig rhaglenni cyflogadwyedd a hyfforddiant, rhaglenni therapiwtig ac ymyrraeth, a rhaglenni twristiaeth fasnachol.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad rheoli mewn amgylchedd masnachol, gyda dealltwriaeth o raglenni gweithgareddau anturus, ac awydd i gefnogi pobl ifanc sy'n agored i niwed. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â lefel uchel o greadigrwydd, sgiliau gweinyddol, sgiliau rheoli pobl a meddylfryd masnachol.

Yn gyfnewid am hyn, rydym yn cynnig buddion gwych gan gynnwys pensiwn rhagorol, gwyliau cystadleuol, gostyngiadau staff a threfniadau gweithio hyblyg. Mae hon yn swydd barhaol, amser llawn, gydol y flwyddyn.  

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelwch a diogelu plant, pobl ifanc a phobl fregus.  Bydd y rôl hon yn amodol ar ddatgeliad DBS gwell a bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gymryd rhan mewn hyfforddiant a datblygiad diogelu rheolaidd.  

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â Ceri Butcher drwy Ceri.Butcher@swansea.gov.uk

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I  https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Medi 2024