Cymhorthydd y gegin (dyddiad cau: 31/12/2025)
Cyflog £23,998 y flwyddyn pro rata. Ydych chi'n frwdfrydig? Dibynadwy? Gweithgar? Cydwybodol? Os ydych chi wedi ateb 'ie', mae gennym ni'r swydd i chi! Rydym yn bwriadu cyflogi Cynorthwywyr Cegin ar gyfer Ysgolion yng Nghyngor Abertawe.
Teitl swydd: Cynorthwy-ydd Cegin
Rhif Swydd: Amrywiol
Cyflog: £23,998 y flwyddyn pro rata.
Disgrifiad swydd:
Cynorthwy-ydd y gegin - JD (PDF, 206 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: ADDYSG
Dyddiad cau: 11.59pm, 31 Rhagfyr 2025
Mwy o wybodaeth
Mae gennym nifer o swyddi ar gael gydag oriau amrywiol i weddu i'ch anghenion! Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar ddechrau.
Fel un o weithwyr Cyngor Abertawe, bydd gennych fynediad at Gynllun Pensiwn deniadol, digonedd o fuddion staff, cyfradd gystadleuol o gyflog a chontract amser tymor yn unig.
Os ydych chi am fod yn rhan o Wasanaeth Arlwyo ardderchog sy'n gyfrifol am ddarparu prydau ysgol a'u gweini tra'n darparu safonau uchel o lendid a hylendid, yna llenwch y ffurflen gais isod os gwelwch yn dda.
Cyfrinachol – Ffurflen Gais Am Swydd (Word doc, 149 KB)
Pan fyddwch wedi'i gwblhau, dychwelwch i jobapplications@abertawe.gov.uk
Daliwch sylw: oni nodir yn wahanol, rhaid i'r ffurflen gais gael ei derbyn erbyn 11.59yh ar y dyddiad cau a nodir.
Os llwyddwch i gael cyfweliad, cysylltir â chi gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a nodir yn eich ffurflen gais. Os na fydd rhywun wedi cysylltu â chi o fewn 6 wythnos wedi'r dyddiad cau, gallwch gymryd yn ganiataol eich bod wedi bod yn aflwyddiannus.
Os hoffech drafod y cyfle gwych hwn ymhellach, ffoniwch 01792 773473.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
Gellir cyflwyno ceisiadau am swydd yn Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.