Toglo gwelededd dewislen symudol

Glanhawr (dyddiad cau: 31/12/2025)

Cyflog £22,737 y flwyddyn pro rata. Ydych chi'n frwdfrydig? Dibynadwy? Gweithgar? Cydwybodol? Os ydych chi wedi ateb 'ie', mae gennym ni'r swydd i chi! Rydym yn bwriadu cyflogi Glanhawyr i Ysgolion yng Nghyngor Abertawe.

Teitl swydd: Glanhawr 
Rhif Swydd:  Amrywiol 
Cyflog: £22,737 y flwyddyn pro rata 
Disgrifiad swydd:   Glanach - 2024 (PDF, 207 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran:
ADDYSG 

Dyddiad cau: 11.59pm, 31 Rhagfyr 2025

Mwy o wybodaeth 

Mae gennym nifer o swyddi ar gael gydag oriau amrywiol i weddu i'ch anghenion! Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar ddechrau. 

Fel un o weithwyr Cyngor Abertawe, bydd gennych fynediad at Gynllun Pensiwn deniadol, digonedd o fuddion staff, cyfradd gystadleuol o gyflog a chontract amser tymor yn unig. 

Os hoffech fod yn rhan o Wasanaeth Glanhau rhagorol sy'n gyfrifol am gynnal safonau uchel o lendid a hylendid ledled yr Ysgol, llenwch y ffurflen gais isod. 

Cyfrinachol – Ffurflen Gais Am Swydd (Word doc, 149 KB)

Pan fyddwch wedi'i gwblhau, dychwelwch i jobapplications@abertawe.gov.uk

Daliwch sylw: oni nodir yn wahanol, rhaid i'r ffurflen gais gael ei derbyn erbyn 11.59yh ar y dyddiad cau a nodir.

Os llwyddwch i gael cyfweliad, cysylltir â chi gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a nodir yn eich ffurflen gais.   Os na fydd rhywun wedi cysylltu â chi o fewn 6 wythnos wedi'r dyddiad cau, gallwch gymryd yn ganiataol eich bod wedi bod yn aflwyddiannus.

Os hoffech drafod y cyfle gwych hwn ymhellach, ffoniwch Mark Laven (Gorllewin Abertawe): 07743803084 neu Tom Burridge (Dwyrain Abertawe): 07795445242 

Diogelu 

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 

I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol 

Gellir cyflwyno ceisiadau am swydd yn Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Ionawr 2025