Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithiwr Cymdeithasol (dyddiad cau: 19/11/24)

£39,513 - £43,693 pro rata y flwyddyn - Gradd 9, a Gradd 8 (£35,235 - £38,626 pro rata y flwyddyn) ar gyfer cymwysterau newydd. Parhaol, Rhan-amser (32.5 awr) a 4 diwrnod yr wythnos. Mae'r OPMHT yn Dîm Cymunedol Integredig sy'n cynnwys staff Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd.

eitl swydd: Gweithiwr Cymdeithasol
Rhif Swydd: SS.63583-V2
Cyflog: £39,513 - £43,693 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd:  Gweithiwr Cymdeithasol (SS.63583-V2) Disgrifiad swydd (PDF) [257KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.63583-V2

Dyddiad cau: 11.59pm, 19 Tachwedd 2024

 

Mwy o wybodaeth


Fel Gweithiwr Cymdeithasol yn y Tîm, byddwch yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr eraill i drafod canlyniadau gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr a nodi atebion i'w cyflawni

Mae'r swydd yn swydd ran-amser barhaol (32.5 awr) 4 diwrnod yr wythnos. 

Mae Tîm Iechyd Meddwl Pobl Hŷn wedi ymrwymo i: -

  • Sicrhau bod yr holl anghenion iechyd a gofal cymdeithasol a'r risg yn cael eu hasesu a bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu rheoli o fewn Dull y Rhaglen Gofal a'r cynllun rheoli risg a gytunwyd. Bydd y cynllun yn cynnwys barn defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr perthnasol, a darperir copi ar eu cyfer.
  • Darparu gwasanaethau sy'n hygyrch i bob defnyddiwr gwasanaeth o fewn cymhleth iechyd meddwl eilaidd ansefydlog yn unol ag egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth a deddfwriaeth berthnasol. 
  • Gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth o fewn model gofal sy'n cynorthwyo mewn canlyniadau cadarnhaol ac yn eu galluogi i ddychwelyd i fyw'n ddiogel yn y gymuned a phan fo'n briodol rhyddhau o wasanaethau gofal eilaidd. 
  • Gweithio ar y cyd ag Ymgynghorwyr, CPN (Nyrsys Seiciatrig Cymunedol), AS (Cymdeithas Alzheimer), IMCA (Ymgynghorydd Galluedd Meddyliol Annibynnol) a nyrsys Admiral O/T, Ffisio, Gofal Cartref, gwasanaethau gofal preswyl, gwasanaethau galluogi, taliadau uniongyrchol, SALT (Therapyddion Iaith a Lleferydd), Dietegwyr, broceriaeth trydydd sector, cydlynwyr trydydd sector, cydlynwyr ardal leol, cydlynwyr dementia.
  • Galluogi defnyddwyr gwasanaeth i gael mynediad at wasanaethau eiriolaeth lleol. 
  • Asesu anghenion gofalwyr a sicrhau bod cymorth priodol yn cael ei roi o fewn yr adnoddau sydd ar gael.
  • Cynnwys defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn weithredol wrth gynllunio a darparu gwasanaethau i OPMHT.
  • Hyrwyddo anghenion pobl â phroblemau iechyd meddwl a lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig â gofal iechyd meddwl. 
  • Gweithio mewn cydweithrediad ag asiantaethau statudol a gwirfoddol eraill a sicrhau anghenion y defnyddiwr gwasanaeth ac yn cael eu hystyried.

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 
I gael rhagor o fanylion ewch I  https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Tachwedd 2024