Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg X 2 (dyddiad cau: 09/12/24)
£25,584 - £26,409 pro rata y flwyddyn. (Dros Dro a Rhan Amser) (35 awr, 40 wythnos y flwyddyn) Mae Dechrau Disglair Tirdeunaw yn lleoliad Dechrau'n Deg Cymru yn ceisio penodi gweithiwr gofal plant brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'i dîm i ddarparu gofal plant o ansawdd uchel i blant yn y gymuned leol 2-3 oed. (Bydd y cyflog a nodir yn amodol ar addasiad amser tymor yn unig os yw dechrau cyflogaeth ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd).
Teitl swydd: Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg
Rhif swydd: SS.60019
Cyflog: £25,584 - £26,409 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg (SS.60019) Disgrifiad swydd (PDF, 260 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.60019
Dyddiad cau: 11.59pm, 09 Rhagfyr 2024
Mwy o wybodaeth
Rhaid i bob ymgeisydd feddu ar gymhwyster gofal plant Lefel 3 a meddu ar brofiad ôl-gymhwyso i'w ystyried ar gyfer y swyddi. Dewch o hyd i restr o gymwysterau gofal plant a dderbynnir ar http://www.ccwales.org.uk/early-years-and-childcare-worker/
Mae'r rhain yn cynnwys;
- Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru a Gogledd Iwerddon) QCF.
- Diploma Estynedig CACHE mewn Dysgu a Datblygiad Gofal Plant; Tystysgrif Addysg Uwch (Tystysgrif Addysg Uwch y Brifysgol Agored) (FHEQ Lefel 4) mewn Ymarfer Proffesiynol Blynyddoedd Cynnar
- Tystysgrif / Diploma Cenedlaethol BTEC Lefel 3 EDEXCEL.
- Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (CCLD)
Mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd yn siaradwr Cymraeg ac yn gallu ysgrifennu dogfennaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
1 x 35 awr yr wythnos; 40 wythnos y flwyddyn; Gweithiwr Gofal Plant Dechrau Disglair Dechrau'n Deg Tirdeunaw.
Mae'r swydd yn amodol ar wiriad DBS Uwch.
Cyfle cyffrous gyda manteision mawr yn gweithio yn y sector gofal plant, a buddion mawr yn gweithio yn Ninas a Sir Abertawe. I gael rhagor o wybodaeth neu am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â: Catherine Goulden 01792 700468 Catherine.goulden@swansea.gov.uk
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol