Gweithiwr Achos (dyddiad cau: 21/11/24)
£31,067 - £34,314 y flwyddyn. (Llawn amser ac yn barhaol). Mae Opsiynau Tai yn chwilio am Weithiwr Achos Cyngor Ariannol profiadol i ymuno â'r tîm i ddarparu cyngor digartrefedd i aelwydydd sy'n cyflwyno amrywiaeth o faterion dyled a fforddiadwyedd.
Teitl swydd: Gweithiwr achos
Rhif Swydd: PL.0282-V1
Cyflog: £31,067 - £34,314 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Gweithiwr achos (PL.0282-V1) Disgrifiad swydd (PDF)
[251KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.0282-V1
Dyddiad cau: 11.59pm, 21 Tachwedd 2024
Mwy o wybodaeth
Mae'r Tîm Gwaith Achos wedi'i leoli o fewn Opsiynau Tai ac mae'n gyfrifol am ddarparu cyngor a chymorth tai i gleientiaid sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.
Bydd y Gweithiwr Achos Cyngor Ariannol yn gweithio'n bennaf gyda chleientiaid sydd dan fygythiad o ddigartrefedd a achosir gan anawsterau ariannol, felly yn ddelfrydol bydd gennych wybodaeth am y system budd-daliadau lles. Bydd pwyslais cryf ar atal digartrefedd ac, o'r herwydd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn trafod ar ran y cleient gyda landlordiaid, perthnasau, morgeisi, credydwyr a llysoedd i alluogi pobl i aros yn eu tai eu hunain lle bynnag y bo modd.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Sara Evans, Arweinydd Tîm Gwaith Achos ar sara.evans@swansea.gov.uk
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol