Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gynradd Craigfelen: Athro Dosbarth (Dros Dro)

(Dyddiad cau: 29/11/24) (4pm). (Amser llawn a dros dro). Cyflog: Prif Raddfa'r Athrawon N.O.R: 182. Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Craigfelen yn ceisio penodi athro dosbarth llawn amser dros dro - gan ddechrau ar 1 Ionawr 2025.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus: 

  • Bod yn ymarferydd ystafell ddosbarth ardderchog gyda disgwyliadau uchel o gyflawniad ac ymddygiad.
  • Deall sut i ysbrydoli a herio plant drwy ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel. 
  • meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth ragorol o ofynion a disgwyliadau Cwricwlwm i Gymru.  
  • Bod yn gyfathrebwr rhagorol, yn gallu ysbrydoli, ennyn brwdfrydedd ac ysgogi eraill.  
  • gallu ymgymryd â maes cyfrifoldeb a dangos lefelau uchel o fenter.

Bydd cyfle i ymweld â'r ysgol ddydd Llun 25 Tachwedd am 4pm. Cysylltwch â'r ysgol i gadarnhau eich ymweliad. 

Ni ddylai eich llythyr cais fod yn fwy na dwy ochr A4. 

Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc) [120KB]

Anfonwch ffurflenni wedi'u llenwi at 

Mrs Alison Williams
Y Pennaeth 
Ysgol Gynradd Craigfelen
Woodside Crescent
Clydach
Abertawe 
SA6 5DP 

Neu anfonwch e-bost at: Williamsa660@hwbcymru.net 


Sylwch y bydd gofyn i chi ddangos eich gallu addysgu fel rhan o'r broses gyfweld. 

Dyddiad cau                     Dydd Gwener 29 Tachwedd 6 PM
Rhestr fer                          Dydd Mercher 4 Rhagfyr 
Arsylwadau Gwersi          Wythnos yn dechrau Dydd Llun 9 Rhagfyr 
Cyfweliadau                       Dydd Mawrth 17 Rhagfyr 

Bydd unrhyw gynnig cyflogaeth yn destun datgeliad DBS gwell a'r gwiriadau diogelu angenrheidiol sy'n cael eu gwneud.

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Tachwedd 2024