Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin : Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 3
(Dyddiad Cau: 29/11/24)(12pm) Cyflog: Gradd 5 (Pwynt 7 - 9) 32.5 awr yr wythnos. Dyddiad cychwyn: Ionawr 2024 (neu cyn gynted â phosibl wedi hynny)
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion brwdfrydig a chydwybodol sydd â gwybodaeth a phrofiad o'r Blynyddoedd Cynnar i weithio gyda thîm o staff ymroddgar a chydwybodol. Bydd hefyd disgwyl i'r unigolyn llwyddiannus gymryd cyfrifoldeb dosbarth ar adegau.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hyderus yn hanfodol i'r swydd hon.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
- yn medru gweithio yn effeithiol fel rhan o dîm
- â disgwyliadau uchel o'r plant ac o'i hunan
- yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ac yn ymrwymedig i feithrin perthnasau cadarnhaol gyda disgyblion, rhieni a staff
- yn cymell a chyffroi plant ym mhob agwedd o'u dysgu.
- yn barod i gyfrannu at bob agwedd o fywyd cymuned ein hysgol
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu plant ac rydym yn disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn. Mae'r swydd hon yn amodol ar ddatgeliad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Gellir lawrlwytho ffurflen gais isod. Dylid dychwelyd eich ffurflen wedi ei cwblhau i: Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin, Heol Casllwchwr, Gorseinon, Abertawe, SA4 6AU neu drwy e-bost i yggpontybrenin@pontybrenin.swansea.sch.uk
Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc) [134KB]
Dyma hysbyseb ar gyfer swydd Cynorthwyydd Addysgu cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin