Cyfrifiaduron Llechen am Ddechreuwyr [Dydd Gwener 10.00am-12.00pm] DL012516.DS
Dyddiadau'r tymor: yr wythnos sy'n dechrau 13 Ionawr 2025 - yr wythnos sy'n dod i ben ar 11 Ebrill 2025.
Hyd - 12 wythnos
Bydd y gweithdy hwn yn helpu'r rhai sy'n cychwyn allan â'u llechen / iPad ac sydd angen deall ei swyddogaethau'n well, y defnydd o apiau a sut y gallwch ddefnyddio'ch llechen / iPad i storio a chael gafael ar eich gwybodaeth yn ddiogel.
Bydd ein tiwtor yn darparu cefnogaeth i helpu unigolion i ddefnyddio eu llechen neu iPad mewn dim o dro. O ddechreuwyr sydd angen help i siopa ar-lein, i rywun sydd eisiau lawrlwytho ap i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu. Byddwn yn dangos i chi sut i gael y gorau o'ch llechen.
Bydd elfennau'r cwrs yn cynnwys:
- Amrywiadau o lechi, eu defnyddiau, eu systemau a'u gofal.
- Cael eich llechen ar-lein a phori'r wê.
- Sefydlu a chyrchu cyfrifon presennol yn ddiogel.
- Play Store gan Google a'r App Store gan Apple - lawrlwytho, gosod, cyrchu a dadosod cymwysiadau.
- Pori a chwilio'r Rhyngrwyd
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Dysgu wyneb-i-wyneb.
- Taflenni a thaflenni canllaw.
Fformat dysgu: wyneb-i-wyneb.
Côd cwrs: DL012516.DS