Toglo gwelededd dewislen symudol

Arweinydd Tîm Gwaith Achos (dyddiad cau: 23/12/24)

£39,513 - £43,693 y flwyddyn. Llawn amser a pharhaus. Oherwydd galwadau cynyddol ar y gwasanaeth Opsiynau Tai a chyfrifoldebau'r Tîm Gwaith Achos i ehangu, mae hon yn swydd ychwanegol newydd mewn Opsiynau Tai a bydd yn cynnwys rhannu cyfrifoldebau rheoli'r Tîm Gwaith Achos gydag Arweinydd Tîm Gwaith Achos arall.

Teitl swydd: Arweinydd Tîm Gwaith Achos
Rhif Swydd: PL.73599
Cyflog: £39,513 - £43,693 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:  Arweinydd Tîm Gwaith Achos (PL.73599) Disgrifiad swydd (PDF, 262 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.73599

 

Dyddiad cau: 11.59pm, 23 Rhagfyr 2024

 

Mwy o wybodaeth


 
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli llinell a rennir y Tîm Gwaith Achos sy'n darparu'r gwasanaeth rheng flaen i aelwydydd sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.  Mae'r tîm yn ymwneud ag asesu, atal digartrefedd a darparu llety dros dro.  Byddwch yn cyfrannu at ddatblygiad strategol y Gwasanaeth Opsiynau Tai gan sicrhau bod dyletswyddau digartrefedd y Cyngor yn cael eu cyflawni.  Byddwch yn gyfrifol am oruchwylio staff a chyfarfodydd tîm a hyfforddiant i sicrhau bod perfformiad y tîm yn cael ei reoli'n effeithiol.  Mae'r swydd yn cynnwys cydweithio â llawer o asiantaethau partner i sicrhau ymateb cydlynol i ddigartrefedd yn yr ardal yn ogystal â mynychu cyfarfodydd amlasiantaethol angenrheidiol.  Mae gwybodaeth am bolisi tai a deddfwriaeth digartrefedd yn hanfodol, ynghyd â sgiliau arwain a rheoli cryf.
        

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I  https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Rhagfyr 2024